Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 23 January 2019

Gwylio Adar yn yr Ardd

Mae RSPB Cymru wedi lansio pecyn Cymraeg i gyd-fynd â'i arolwg blynyddol, Gwylio Adar yn yr Ardd.

Dyma linc i'r pecyn.

Sut mae gwylio adar yn yr ardd?

1.Dewiswch awr yn ystod y dyddiau rhwng 26 a 28 Ionawr. Gwyliwch yr adar yn eich gardd neu’ch parc lleol am awr.
2.Ewch ati i gyfrif yr adar sy’n glanio yn eich gardd neu’r parc, heb    gynnwys y rheini sy’n hedfan uwchben.
3.Efallai y bydd yr un adar yn glanio fwy nag unwaith. I osgoi cyfri’r    rheini ddwywaith, cofnodwch y nifer mwyaf o bob rhywogaeth o    aderyn rydych chi’n ei weld ar yr un pryd – nid y cyfanswm rydych    chi’n ei gyfrif yn ystod yr awr.
4.Dywedwch wrthym ni beth welsoch chi –  hyd yn oed os welsoch chi ddim byd! Cyflwynwch eich canlyniadau yn rspb.org.uk/birdwatch

No comments:

Post a Comment