Siôn Jobbins: Help, fi'n chwilio am gyfarchiad i roi ar ddiwedd brawddeg fel "bach" neu "cariad".
* "boi" yn iawn, ond nid i bawb. Mae * "bach" yn swnio'n nawddoglyd a * * "cariad" yn doji i ddyn ddweud wrth, wel, unrhyw un heblaw ei gariad neu blant.
Unrhyw awgryms?
Dyma rai o'r atebion:
"Overthinking Jobbins", meddai Gaynor Jones.
SJ: Mae'n wahanol os ti'n ddyn! Chi fenywod ddim yn gwybod ei hanner hi! Ddim am ddweud rhywbeth sy'n gwneud i chi swnio fel pryfyn.
Gwenith Owen: "Sa i'n meddwl fod 'bach' yn nawddoglyd.
Gwyn Vaughan Jones: "Was.. yng ngwas i..frawd.. gyfaill.. met...rhen ffrind..??"
Siôn Lewis: "Neu ‘blodyn’ os ti ddim yn cofio ei henw..."
Ac wedyn, "cyw", "ychan" - "(ond mae hwn fel "bach" tydi?) (bychan)"
DaiLingual: Blodyn tatws? Pwdin reis? Pwdin Jam? Mab annwyl dy fam? Dyna’r fath o beth dwi’n dueddol o ddweud gyda’r plant...
Ddim yn sicr be ydy’r ateb, ond dwi’n gallu dyfalu be bydde’r ateb petai ti’n byw yn Cofiland ac nid yn Aber...
Ddim yn sicr be ydy’r ateb, ond dwi’n gallu dyfalu be bydde’r ateb petai ti’n byw yn Cofiland ac nid yn Aber...
No comments:
Post a Comment