Cân gan Meic Stevens
Dim ond merch o’r ffatri wlân,
Wrth ei gwaith bob dydd,
Heb sylwi dim ar y byd mawr oddi allan.
Roedd ei gwallt mor ddu a thlws,
Fel ryw freuddwyd rhyfedd yn fy nghwsg,
Ond mae’n gwneud gwaith dyn bob dydd am ei chyflog.
Rhwng y gwreiddiau dwfn a’r brwyn,
Dan y gamlas fach sy’n rhuthro’i swyn,
Mor araf mae’r olwyn hen, yn troi’r peiriannau;
Ac mae’r dyn yn tanio’r tân,
Lle mae Jac ar bois yn golchi’r gwlân
Ond mae’r gwŷr yn dal i wau ar y glannau.
Dim ond merch o’r ffatri wlan,
Wrth ei gwaith bob dydd,
Hi sy’n creu o’r edau frethyn lliwiog.
Ac mae’r oriau’n hir a llawn,
Ac mae’r oriau’n ddail sy’n cwympo lawr….
…ar y dwr sy’n crwydro draw drwy’r bore niwlog.
Dim ond merch o’r ffatri wlan,
Wrth ei gwaith bob dydd,
Heb sylwi dim ar y byd mawr oddi allan.
Roedd ei gwallt mor ddu a thlws,
Fel ryw freuddwyd rhyfedd yn fy nghwsg,
Ond mae’n gwneud gwaith dyn bob dydd am ei chyflog.
No comments:
Post a Comment