Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 22 April 2018

Hywel Dda yn trafod newidiadau i'r gwasanaeth iechyd




Opsiwn A

- Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.

- Byddai ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.

Opsiwn B

- Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.

- Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol.

- Byddai ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.

Opsion C

- Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys yn unig - nid gofal wedi'i drefnu o flaen llaw - rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.

- Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol.

- Ysbyty Glangwili'n troi'n ysbyty gofal wedi'i drefnu o flaen llaw yn unig.

- Byddai Llwynhelyg yn cael ei hisraddio i ysbyty cymunedol.

Ym mhob opsiwn bydd Bronglais yn Aberystwyth yn parhau'n ysbyty cyffredinol.

__________________

Mwy gan BBC Cymru Fyw:

Mae Bwrdd iechyd Hywel Dda yn ffafrio adeiladu ysbyty newydd yn y gorllewin - ond bydd yn rhaid sicrhau cyllid ar ei gyfer a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn i hynny ddigwydd.
Ddydd Iau fe wnaeth aelodau'r bwrdd gwrdd yn Hwlffordd i drafod tri opsiwn gwahanol - y tri yn golygu codi ysbyty newydd - fyddai'n golygu ad-drefnu sylweddol a phellgyrhaeddol i wasanaethau iechyd yn yr ardal.
Ond mae ymgyrchwyr lleol a gwleidyddion eisoes wedi beirniadu'r penderfyniad.
Mae'r ad-drefnu yn dilyn rhybuddion fod gwasanaethau iechyd yn yr ardal yn anghynaladwy  [ = unsustainable] a bod 'na risg y gallai rhai ddymchwel o ganlyniad i gynnydd yn y galw am ofal ac oherwydd prinder difrifol o staff.
Fe fyddai pob un o'r opsiynau yn gweld Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli ei statws fel ysbyty cyffredinol 24 awr y dydd a byddai Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin hefyd yn colli gwasanaethau allweddol - gan gynnwys yr uned frys.
Y gred yw y bydda'r ysbyty newydd yn cael ei godi rhywle rhwng Aberth yn Sir Benfro a Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Phil Kloer, cyfarwyddwr Clinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y byddai'n rhaid i'r bwrdd sicrhau cynllun busnes manwl a chyllid cyn bwrw mlaen gyda'r cynllun.
Fe fydd ymgynghoriad ar y cynllun yn para am 12 wythnos, gan orffen ar 12 Gorffennaf.
Yn ôl penaethiaid, does dim un opsiwn ar hyn o bryd yn cael ei ffafrio ac fe allai'r cynlluniau newid wedi i'r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad.
Mae'r bwrdd hefyd wedi ymrwymo i symud rhagor o wasanaethau o ysbytai i gymunedau a darparu gofal - lle bo modd - yng nghartrefi cleifion.
Dywedodd prif weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, ar ddechrau'r cyfarfod eu bod yn ceisio gosod stori bositif am ddyfodol gofal iechyd yn y rhanbarth.
"Mae hwn yn ddechrau trafodaeth bwysig, ni all y statws quo barhau," meddai.
"Bydd lleihau nifer y prif ysbytai yn golygu fod llai o rotas meddygol i'w llenni, ac yn ei gwneud yn haws i ddenu clinigwyr i ddod yma i weithio, fe fydd hefyd yn golygu rhestrau aros llai..."
Ond mae'r argymhellion eisoes wedi eu beirniadu gan wleidyddion lleol, gyda AS Preseli Penfro Stephen Crabb yn dweud fod y penderfyniad yn creu mwy o "ansicrwydd a phryder i bobl leol".
'Angen codi llais'
Dywedodd Lee Waters, AC Llanelli, na fyddai'n derbyn unrhyw gynnig i israddio statws Ysbyty Cyffredinol Tywysog Philip yn Llanelli i fod yn ysbyty cymunedol.
Dywedodd: "Yn sicr mae'n rhaid eu bod yn gwybod bod hwn yn gynllun afrealistig yn y lle cyntaf a fydd yn achosi pryder diangen."
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Jonathan Edwards AS, Adam Price AC a Simon Thomas AC o Blaid Cymru nad oedd yna unrhyw addewidion o arian yn bodoli ar gyfer y cynllun.
"Mae angen i drigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro godi llais o blaid eu gwasanaethau lleol.
"Os nad yw'r statws quo yn opsiwn, beth yw opsiynau'r bwrdd iechyd pan nad yw addewidion ar gyfer buddsoddiad yn bodoli?"
Dadl y bwrdd yw bod patrwm presennol gwasanaethau yn anaddas ar gyfer y dyfodol ac yn ei gwneud hi'n gynyddol anodd i gynnig gofal diogel ac effeithiol.
Heb newid, yn ôl penaethiaid, mae 'na risg y gallai cyfraddau [= rates] goroesi ostwng.
Ond mae'n debygol y bydd 'na wrthwynebiad sylweddol i'r cynlluniau gan rai sydd eisoes yn dadlau y gallai symud gwasanaethau yn bellach oddi wrthyn nhw beryglu bywydau.
Ymgynghoriad
Bydd ymgynghoriad ar y tri opsiwn yn cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos, a gall y cyhoedd ymateb trwy'r post, ar y ffôn, e-bost, ar-lein, gwefannau cymdeithasol neu mewn saith digwyddiad cyhoeddus fydd yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth.
Bydd y farn yn cael ei gasglu a'i ystyried cyn i'r bwrdd iechyd wneud penderfyniad terfynol yn yr hydref.


No comments:

Post a Comment