Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 26 February 2018

Hanes yr Iaith mewn hanner can gair: Iaith


Geiriadur Prifysgol Cymru:

Cyfangorff y geiriau a arferir gan genedl (pobl, cymuned, &c.) neilltuol, ynghyd â’r dulliau o’u cyfuno, wrth siarad neu wrth ysgrifennu, i fynegi syniadau, teimladau, anghenion, &c.

Heather Jones yn canu “Colli iaith” gan Harri Webb.

Colli iaith a cholli urddas,                   [urddas : diginity]

Colli awen, colli barddas;

Colli coron aur cymdeithas

Ac yn eu lle cael bratiaith fas.                        [bratiaith fas – shallow, debased language]



Colli'r hen alawon persain,                 [persain – sweet]

Colli'r corau'n diasbedain,                  [diasbedain – resounding]

Colli tannau'r delyn gywrain

Ac yn eu lle cael clebar brain.



Colli crefydd, colli enaid,

Colli ffydd yr hen wroniaid;                [gwroniaid – ans. Lluosog: gwron – brave]

Colli popeth glân a thelaid                 [telaid – hardd, teg]

Ac yn eu lle cael baw a llaid.



Colli tir a cholli tyddyn,

Colli Elan a Thryweryn;

Colli Claerwen a Llanwddyn

A'r wlad i gyd dan ddwr llyn.


Cael yn ôl o borth marwolaeth

Gân a ffydd a bri yr heniaith;

Cael yn ôl yr hen dreftadaeth

A Chymru'n cychwyn ar ei hymdaith.
_____________



Ifor ap Glyn sy’n esbonio mwy.

Nodiadau
Cyfriniol – mystical, mysterious

 Does dim amheuaeth am ba iaith sydd gynnon ni….

Iolo Goch:


Y gŵr oedd gorau o'r iaith,

O'r deml a yrrwyd ymaith
 Cyfiaith: O’r un iaith, yn siarad yr un iaith; yn siarad iaith y wlad (GPC)
 Anghyfiaith: Heb fod o’r un iaith, yn siarad iaith estron neu’n perthyn i iaith estron, mewn iaith estron. (GPC)


“tra bod angen brawddeg i fynegi’r un peth yn Saesneg”

“ond heddiw dyn ni ddim yn bodloni efo dosbarthu siaradwyr yn gyfiaith ac anghyfiaith. Rhaid mynd ymhellach..”

“iaith gynta, iaith enedigol, mamiaith”

“Fel pobol, dyn ni’n ymwybodol o hynafiaeth y Gymraeg....un o ieithoedd hyna Ewrop fel mae siopau twristiaid yn licio brolio [boast]...”

“yr heniaith. ..â hen nid yn unig yn cyfleu hynafiaeth y Gymraeg, mae hefyd yn derm o anwyldeb..”

“os ydy’r heniaith yn rhywbeth i’w thrysori, mae ‘na rai mathau o iaith y dylid eu hosgoi..”

“na chred weniaith” h.y. ‘paid â chredu gweniaith, neu iaith dwyllodrus.

gwyn dy fyd di, neu gwyn y gwêl y frân ei chyw

“ond yn fuan iawn daeth i olygu geiriau teg ond twyllodrus...”

 Gweniaith

Ymadrodd teg twyllodrus, truth, canmoliaeth ormodol o fwriad i borthi balchder neu hunan-dyb y gwrandäwr, ffug foliant, geiriau teg i hudo neu ddenu, iaith neu araith ddichellgar, gwagsiarad. (GPC)

“ac mae cyfieithiad William Morgan o lyfr y proffwyd Job yn rhoid rhybudd sy’n hyd yn oed yn fwy bygythiol...”

Beibl William Morgan, Job 17.5

Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.

[a ballant – pallu: to fail]

“iaith sathredig”  (slang, vulgar)

Bratiaith – iaith sydd wedi’i llygru, wedi’i baeddu

[llygru – contaminate      baeddu – soil, defile]

Brat = ffedog

Yr iaith fain  (h.y. Saesneg)

Myrddin ap Dafydd: “dw i’n meddwl ei bod hi’n ymwneud â ffordd gorfforol o ddefnyddio’r geg”

“Dyn ni’n sôn am ambell berson ei fod e’n siarad fel tasai taten boeth yn ei geg, ei fod e ddim yn agor ei geg yn fawr iawn wrth siarad. Dyn ni’n siarad Cymraeg yn debyg iawn i’r Eidalwyr. Dyn ni’n agor y geg yn llydan i ddweud y llafariaid felly..”

“..yn yr iaith fain ei bod hi’n bosib defnyddio gwefusau tynn, cul..”

“pan dyn ni’n sôn am blentyn yn dechrau dysgu Cymraeg…O, mae’n siarad fel arwr. Llond ceg o Gymraeg…I siarad y Gymraeg yn iawn, mae rhaid agor y geg..”

"dw i'n cofio Prifathro Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy yn stopio’r gwasanaeth un bore ac yn dweud, “dych chi’n canu fel Saeson, meddai fo…”"

“Yr iaith lydan oedd pobol dwyrain Morgannwg yn galw ar y Gymraeg. Hwyrach bod hyn yn ymadrodd oedd i’w glywed trwy Gymru benbaladr ers talwm, yn cyferbynnu â iaith fain y Saeson...”

[penbaladr – o un pen i’r llall]

“dyma’r Gymraeg lleta sydd”

iaith fras, sef iaith gableddus [slanderous, blasphemous], iaith goch….

“iaith halier” bydd rhai yn dweud ym maes glo Morgannwg..

[halier = haulier, sef rhywun oedd yn cludo glo mewn pwll glo]

“iaith reglyd”  [foul mouthed – rhegi]

“dynion blin ac ymfflamychol” 

“iaith goeth”   [coeth: refined, beautiful, pure]

“iaith pregethwrs a iaith y werin, achos efo iaith y nefoedd mae unrhyw beth yn bosib..”

No comments:

Post a Comment