Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 28 January 2018

Jin a thonic? Rhew a lemwn?

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl yma.

Mae cynhyrchwyr jin yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cael Nadolig prysur iawn, gyda rhai yn gwerthu tair gwaith cymaint o ddiod o'i gymharu â llynedd.
Dywedodd Snowdonia Distillery yn Nhal-y-cafn, Conwy ac Eccentric Gins yng Nghaerffili bod eu gwerthiant wedi treblu mewn blwyddyn.
Fe wnaeth Penderyn, sydd yn cynhyrchu Brecon Gin, hefyd ddweud eu bod wedi gwerthu mwy na dwbl yr hynny wnaethon nhw yn 2016.
Yn ôl ffigyrau'r Gymdeithas Fasnachu Gwin a Gwirodydd mae nifer y distyllfeydd yng Nghymru wedi cynyddu o chwech yn 2014 i 17 erbyn heddiw.

'Mwy ffasiynol'

Mae cwmni Penderyn yn fwy adnabyddus am eu wisgi ond mae'r cwmni, gafodd ei ffurfio yn 2000 ac sydd bellach yn cyflogi 60 o bobl, bellach yn cynhyrchu 300,000 potel o jin y flwyddyn hefyd.
Ond mae nifer o ddistyllfeydd eraill wedi agor dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y diweddaraf yn Llanddarog, Sir Gâr - busnes teulu Coles.
Mae Eccentric Gins yng Nghaerffili bellach yn cynhyrchu 20,000 o boteli y flwyddyn, ac yn ôl y perchennog Rob Higgins mae 80% o'i gwsmeriaid yn dod o Gymru.
"Mae jin yn ffasiynol ac yn ddiod fwy derbyniol nawr," meddai.
"Mae menywod yn gallu cael jin a thonic gyda'u mam-gu a dyw e ddim yn anarferol bellach i fois gael un yn y clwb rygbi."
Yn ôl Chris Marshall o gwmni Snowdonia Distillery mae safon jin yn gyffredinol wedi gwella'n sylweddol a dyna yw un o'r rhesymau pam bod gwerthiant mor gryf.
"Os ewch chi nôl 10 mlynedd doedd y cyhoeddi na distyllfeydd yn rhyw hoff iawn o jin. Mae Prydain yn sicrhau wedi gweld mwy yn bod yn greadigol o ran blasau fel bod pobl yn gallu dod o hyd i un maen nhw'n ei hoffi," meddai.
Dywedodd y byddai'n hoffi gweld statws arbennig yn cael ei roi i jin o Gymru, ac y byddai hynny'n hwb mawr i'r diwydiant.
"Rydyn ni'n dod o ran brydferth o'r byd, mae'n dyfroedd ni'n wych... hoffwn i weld hynny a bydden i'n sicr yn awyddus gweithio gydag eraill i hybu hynny."
Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas Fasnachu Gwin a Gwirodydd, Miles Beale fod y diwydiant yn un y gall Cymru fod yn falch ohono.
"Mae'n saff i ddweud nad ydi'r nifer cynyddol o ddistyllfeydd yn rhywbeth dros dro gan fod nifer o brosiectau distyllfeydd cyffrous a newydd yng Nghymru, gan gynnwys canolfannau ymwelwyr, yn cael eu datblygu ar gyfer 2018," meddai.
"Mae cynhyrchwyr o Gymru yn creu wisgi a jin o Gymru sydd o safon ac yn ennill gwobrau, gan gynyddu gwerthiant yn y wlad yma a thramor."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn falch gweld bod y diwydiant gwirodydd yng Nghymru yn "ffynnu", gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddan nhw'n cael "llwyddiant wrth werthu dramor" fel cynhyrchwyr bwyd a diod eraill o Gymru.


No comments:

Post a Comment