Anifail pedwarcarnol cryf a chyflym a chanddo fwng a cynffon, a ddofwyd gan ddyn i’w farchogaeth a hefyd i gludo beichiau ac i dynnu cerbydau, &c., march a ddisbaddwyd yn ebol. (Geiriadur Prifysgol Cymru)
Ifor ap Glyn: Ceffyl
Nodiadau
Gwyddeleg: capall
Lladin: caballus
Sbaeneg: cabalo
Ffrangeg: cheval
Gee, geffyl bach, yn cario ni'n dau
Dros y mynydd i hela cnau;
Dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slic,
Cwympo ni'n dau. Wel dyna i chi dric!
Cwyd Robin bach a saf ar dy draed,
Sych dy lygad, anghofio'r gwaed;
Neidiwn ein dau ar ein ceffyl bach gwyn,
Dros y mynydd, ac i lawr y glyn.
Gee, geffyl bach dros frigau y coed,
Fel y Tylwyth Teg mor ysgafn dy droed,
Dros y mynydd i hela cnau;
Dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slic,
Cwympo ni'n dau. Wel dyna i chi dric!
Cwyd Robin bach a saf ar dy draed,
Sych dy lygad, anghofio'r gwaed;
Neidiwn ein dau ar ein ceffyl bach gwyn,
Dros y mynydd, ac i lawr y glyn.
Gee, geffyl bach dros frigau y coed,
Fel y Tylwyth Teg mor ysgafn dy droed,
Carlam ar garlam ar y cwmwl gwyn;
Naid dros y lleuad, ac i lawr at y llyn.
Naid dros y lleuad, ac i lawr at y llyn.
______________
dofi = gwneud yn ddof
march, stalwyn, caseg, ebol - ond beth am y ffurfiau lluosog?
march, stalwyn, caseg, ebol - ond beth am y ffurfiau lluosog?
Hen air Celtaidd arall am 'ceffyl': epos
Wedi goroesi yn yr enw Epynt
"rhywun yn mynd am ei hynt", h.y. 'mynd ar ei siwrne'
Ystyr 'Epynt' felly yw epos+ hynt: lle mae ceffylau yn gallu mynd ar eu hynt
tan ddyfodiad yr injan betrol, ceffylau oedd yr unig ffordd o fynd o le i le yn gynt nag y gellid cerdded...
y ffordd orau o symud llwythau trwm
Defnyddio mwy nag un ceffyl...dyna wreiddyn yr ymadrodd "ceffyl blaen": yr un mewn pâr oedd yn arwain.
tinc beirniadol
'Mae e'n licio bod yn geffyl blaen', h.y. os na chaiff e arwain, efallai na fydd e'n barod i gydweithredu.
Creadur cydnerth yw'r ceffl - cydnerth = cryf a chytbwys
Dihareb: Ceffyl da yw ewyllys
Hynny yw, mae ein hewyllys, ein hawydd i wneud pethau'n gallu sicrhau eu bod nhw'n digwydd.
'Where there's a will, there's a way', chwedl y Sais.
Pan soniwn ni fod rhywun 'ar gefn ei geffyl', dyn ni'n cyfeirio at rywun sy wedi mynd i stêm (= to get worked up) wrth dreithio rhyw bwnc neu'i gilydd.
treithio = traethu = express, speak, declare, discuss
mae'r ddelwedd yn dod o fyd marchogaeth
mae'n anoddach gwrthsefyll rhywun sydd "ar gefn ei geffyl" o gymharu â rhywun sydd ar droed.
mae'n haws iddyn nhw fwrw yn eu blaen i siarad
mae'r gair marchogaeth ei hun yn tarddu o'r gair march, neu a bod yn fanwl gywir, y gair marchog.
marchogaeth yw'r gair am sut mae'r marchog yn rheoli'r ceffyl oddi tano.
marcho - gair yn y gorllewin am gyfathrach rhywiol (hefyd 'to be in heat' RV)
march y plwyf = rhywun sy'n rhy hael ei ffafrau efo merched
edrych mewn i lygaid ceffyl benthyg - 'look a gift horse in the mouth'
Yn Sir Gaerfyrddin, os yw merch yn treulio gormod o amser yn ffysian o flaen y drych cyn cychwyn allan, byddai rhywun yn siŵr o ddweud wrthi, "Stopith neb geffyl gwyn ei frychid arno"
frychid? = brechlyd, sef pock mark, scab
H.y. er gwaetha ei enw, nid yw ceffyl gwyn yn hollol wyn. Mae rhyw flewiach du ac ambell frycheuyn (= spot, blemish) ynddo.
a'r argraff sy'n bwysig...
Os yw'r ceffyl yn cael ei ddefnyddio i ddysgu gwers fanwl i rai ifanc, gallwn ni ei ddefnyddio hefyd i anelu gair o feirniadaeth at rywun hŷn.
Anodd tynnu cast o hen geffyl
cast = tric neu arfer ddrwg
rhywun sy wedi setlo yn ei ffyrdd...methu rhoi heibio arferion drwg
Ceffyl pren - term am fath o degan plentyn, a hefyd yn gallu cyfeirio at draddodiad gynt lle'r roedd y dorf yn cymryd pethau i'w dwylo eu hun er mwyn mynnu cyfiawnder am drosedd.
Byddai'r troseddwr yn cael ei glymu i'r ceffyl pren, sef math o ffrâm bren
er mwyn codi cywilydd arno fe
gallai landlordiaid llym gael eu cosbi fel hyn neu'r rhai oedd wedi godinebu (= fornicate), neu dadau plant llwyn a pherth
gwadu cyfrifoldebau...gwrthod cyfrannu at fagwraeth eu plant
No comments:
Post a Comment