Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 10 November 2017

TAIR miliwn o siaradwyr Cymraeg!

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl ddifyr hon.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw nod Llywodraeth Cymru, ond wyddoch chi bod yna ymgyrch debyg i roi hwb i'r iaith wedi bod dros ganrif yn ôl? A'r targed uchelgeisiol oedd sicrhau tair miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn canrif. 

Y mudiad oedd yn flaengar yn yr ymgyrch honno yn oes Fictoria oedd... Cymdeithas y Iaith Gymraeg. Na, dydyn ni ddim wedi drysu. Er bod nifer ohonoch chi yn gwybod bod y Gymdeithas, fel yr ydyn ni yn ei nabod hi heddiw, wedi cael ei sbarduno gan ddarlith radio enwog Saunders Lewis yn 1962, roedd yna fudiad o'r un enw yn gweithredu nôl yn 1885.

Cafodd y Gymdeithas ei ffurfio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr y flwyddyn honno o dan arweiniad y Cymmrodorion, sef casgliad o gymdeithasau Cymraeg mewn trefi a dinasoedd dros y DU.

Un o brif sylfaenwyr y gymdeithas oedd is-arolygydd addysg o Lanymddyfri, Dan Isaac Davies.

Cymraeg yn gyntaf

Yn ei swydd gyntaf yn Ysgol y Comin yn Aberdâr yn 1858 roedd Dan Isaac Davies yn annog y staff i siarad Cymraeg gyda'u dosbarthiadau yn ystod oriau dysgu... rhywbeth oedd yn gwbl groes i'r drefn mewn cyfnod pan roedd y Welsh Not mewn grym.

Roedd Davies yn credu bod dwyieithrwydd yn fantais fawr ac y dylai'r Gymraeg gael statws amlycach yn y gymdeithas. Roedd yn credu yn llwyr y byddai pobl oedd â'r gallu i siarad dwy iaith yn huawdl [= yn gallu defnyddio iaith yn feistrolgar, rhugl] yn ei chael hi'n haws i ddysgu ieithoedd eraill hefyd.

Ar ôl 13 blynedd yn arolygu ysgolion yn Lloegr daeth yn ôl i ardal Merthyr Tudful. Cafodd siom ar yr ochr orau i weld bod yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yn dal i ffynnu yn yr ardal.

Rhoddodd hyn dân newydd yn ei fol, ac aeth ati o ddifrif i ymgyrchu a cheisio perswadio'r awdurdodau addysg i gynnwys y Gymraeg fel pwnc ysgol, yn ogystal ag annog ei defnydd mewn ysgolion. Fe lwyddodd i gael y maen i'r wal ac erbyn 1907, ugain mlynedd ar ôl marwolaeth Davies, roedd yr adran addysg wedi newid y canllawiau o safbwynt yr iaith.

Mewn ardaloedd ble roedd y Gymraeg yn iaith gref roedd hi yn cael i chydnabod yn swyddogol mewn gwersi gramadeg, adrodd a hanes i ddisgyblion cynradd ac uwchradd

Popeth yn Gymraeg

Roedd Dan Isaac Davies hefyd yn weithgar gyda Chymdeithas y Cymmrodorion yng Nghaerdydd.

Roedd y gymdeithas hon â'i bryd [= amcan, bwriad,, ewyllys] ar gryfhau'r iaith yn y ddinas ac roedden nhw yn arddel yr arwyddair, 'Popeth yn Gymraeg'.
 
Daeth yr arwyddair hwnnw yn boblogaidd gyda chenedlaethau newydd o ymgyrchwyr iaith yn dilyn araith Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith'.

Doedd yna ddim tair miliwn o siaradwyr Cymraeg yn 1985 fel yr oedd Dan Isaac Davies wedi ei obeithio, tybed a fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

No comments:

Post a Comment