Cymru... gwlad y glaw. Ta beth yw'r realiti, mae'n ystrydeb cyfarwydd. Ac os oes unrhyw wirionedd yn y farn boblogaidd mai Cymru yw gwlad gwlypaf y DU, mae'n rhaid bod ein hiaith ni'n adlewyrchu hynny?
Felly, sawl gair sydd yna ar gyfer y glaw neu i ddisgrifio'r glaw yn Gymraeg? Rhowch eich ymbarél i fyny, eich cot law amdanoch a mentrwch allan i'r gwlybanwch.
Idiomau
- Bwrw hen wragedd a ffyn
- Bwrw cyllyll a ffyrc
Hen ddywediad Cymraeg arall yw 'bwrw fel o grwc' sy'n cyfateb i'r term Saesneg 'bucketing down'. Wrth gwrs, mae 'na ffordd arall, tipyn mwy di-chwaeth, o ddisgrifio gollwng dŵr sy'n gyfarwydd iawn yn y Gymraeg llafar. Gwartheg sy'n cael eu defnyddio i ddarlunio toreth [abundance] y llif mewn ymadrodd Ffrangeg tebyg: "Il pleut comme vaches qui pissent."
Mae nifer o eiriau tafodieithol arall am law sy'n amrywio o ardal i ardal (pan mae'n stido yn y gogledd, mae'n ei thowlud hi lawr yn y de-orllewin). Daw rhai geiriau o fyd amaeth (e.e. glaw tyfu, glaw Mai) ac mae mathau eraill o law wedi eu henwi ar ôl lleoedd penodol (glaw 'Stiniog a glaw tinwyn [white bottomed] Abertawe).
Tybed faint o'r rhein y'ch chi'n eu defnyddio?
Math o law
- Cawod
- Curlaw (pelting rain)
- Glaw gyrru
- Glaw iâ
- Glaw mân
- Glawn smwc (gog-ddwyrain: glaw mân)
- Glaw taranau
- Glaw trwm
- Gwlithlaw (glaw mân)
Graddfeydd o law
Gwisgwch got law ysgafn neu cymrwch y goes...- Dafnu (drop, trickle)
- Pigo
- Smwcan (glaw mân)
- Arllwys y glaw
- Chwipio bwrw
- Dymchwel ('chucking it down')
- Piso
- Pistyllio
- Sgrympian (cawod sydyn a thrwm)
- Stido
- Tollti
- Towlud/Taflu
- Tresio
Disgrifio'r glaw
- Glaw gochel - glaw i guddio rhagddo
- Glaw Mai - glaw cyntaf mis Mai - yn cael ei groesawu gan ffermwyr gan ei fod yn lladd y llau [lice] ar y da
- Glaw golau - glaw pan mae'r awyr yn edrych yn olau tuag at y dwyrain
- Glaw mynydd - glaw'n syrthio ar y tir uchel pan mae'n sych ar yr iseldir
- Glaw 'Stiniog - math o law unigryw sy'n gyfarwydd iawn i unrhywun o Flaenau Ffestiniog
- Glaw tinwyn Abertawe - glaw oer, trwm o gyfeiriad y de-ddwyrain sy'n parhau trwy'r diwrnod
- Glaw tyfu - glaw mis Ebrill sy'n hybu tyfiant
No comments:
Post a Comment