Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 20 October 2017

Angylion Pen Pentan, Diawliaid Pen Ffordd

Diolch i Ioan Talfryn am y blogiad diddorol yma.

Hydref 20fed 2017
 
Petawn i’n digwydd bod yn darlledu eitemau Munud i Feddwl y mis hwn buaswn yn sicr wedi dewis cyfeirio at achos Harvey Weinstein. Credaf fod y cwestiynau sy’n codi o’r achos hwn yn bellgyrhaeddol [far-reaching] iawn o safbwynt tanlinellu’r realiti sy’n wynebu llawer o ferched yn y byd heddiw.

Dyw agweddau ac ymddygiad rhywiol Harvey Weinstein, yn anffodus, ddim yn unigryw (onid yw Donald Trump wedi’i naddu o’r un graig?) a dyn nhw ddim yn bodoli mewn gwagle [vaccum].  Maen nhw’n bodoli, yn hytrach, yng nghyd-destun cefnlun [cefnlen - backdrop] eang o agweddau ac ymddygiad siofinistaidd, dilornus [abusive]  tuag at ferched gan ddynion grymus.  Heb y siofinistiaeth ‘feddal’, gefndirol hon fyddai ymddygiad rheibus [predatory, greedy]  Weinstein ddim wedi medru parhau cyhyd. (I’r merched hynny sy’n diodde’r math hwn o siofinistiaeth, fodd bynnag, dyw ‘r profiad ddim yn un ‘meddal’ o bell ffordd).  Doedd hi ddim fel petai ymddygiad Weinstein yn gyfrinach i neb.  Fel mae sawl sylwedydd wedi nodi, roedd o’n cuddio’n agored yng ngolau dydd, yn wyneb haul a llygad goleuni.

Yn ystod fy ngyrfa dw i wedi dod ar draws ambell enghraifft o ddynion pwerus oedd yn defnyddio’u safle a’u hawdurdod i geisio manteisio ar ferched di-bŵer.  Ond mae’r achosion o wrywod [gwryw - male]  [ alffa sy’n euog o ymddygiad siofinistaidd ‘meddal’, cyffredinol wedi bod yn llawer mwy niferus. A’r peth gwaethaf am hyn yw ei fod yn cael ei dderbyn fel rhan o’r papur wal diwylliannol.

Dyw’r ffaith fod rhywun yn ŵr neu’n dad cariadus ar yr aelwyd ddim yn golygu, ysywaeth [alas] , nad yw’r person hwnnw yn medru amlygu [exhibit] agweddau ac ymddygiad siofinistaidd mewn cyd-destun gwahanol.  Mae seicolegwyr yn Harvard wedi dangos yn ddigon clir fod pobl yn medru coleddu [harbour] safbwyntiau annerbyniol (megis siofinistiaeth neu hiliaeth) yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain serch fod hyn yn ddigon amlwg i bobl o’u cwmpas.  Mae modd cymryd y prawf trwy ddilyn y ddolen isod. 

https://implicit.harvard.edu/implicit/

Mae dynion hefyd yn medru categoreiddio unigolion neu grwpiau o bobl yn rheiny sy’n haeddu cael eu trin gyda pharch a’r rheiny sy’n haeddu cael eu trin yn israddol.  Does ond rhaid ystyried achosion rhai o’r Natsïaid hynny oedd yn mynd i’r gwaith yn un o’r  gwersylloedd difa megis Auschwitz, yn trin eraill yn giaidd ac wedyn yn dod adref i ymddwyn yn wâr [gwâr - civilised] ac yn gariadus gyda’u gwragedd a’u plant.  Yn y nofel  Our Man in Havana gan Graham Greene mae’r heddwas Capten Seguro yn esbonio wrth y prif gymeriad Wormold fod ei dad yn perthyn i’r hyn a alwodd yn ‘ddosbarth arteithiadwy’ [arteithio - torture] tra bo eraill, oherwydd eu dosbarth cymdeithasol uwch, yn medru osgoi’r math yna o driniaeth.  I lawer o ddynion mae eu gwragedd a’r merched eu hunain yn perthyn i un grŵp ac yn haeddu cael eu trin mewn ffordd bositif tra bo merched sydd mewn safle israddol iddyn nhw yn y gweithle, er enghraifft, yn perthyn i’r ‘dosbarth arteithiadwy’.  

O’m profiad i mae siofinistiaeth anymwybodol, ‘feddal’ i’w gweld yn eang iawn yn y Gymru Gymraeg sydd ohoni.  Os edrychwch chi ar ambell sefydliad Cymraeg (a gallaf feddwl am un neu ddau yn benodol) maen nhw’n cael eu llywio gan glwb caeëdig o wyrywod alffa tra bo’r merched yn bodoli ar lefel is o ran pwysigrwydd ac yn aml iawn yn cael eu trin fel bodau israddol.   Weithiau bydd merch neu ddwy yn cael eu gwahodd i ymuno â’r clwb gwrywaidd er mwyn talu gwrogaeth arwynebol [superficial homage]  i gydraddoldeb rhywiol ond mae’r grym yn ddi-os yn aros yn nwylo’r gwrywod.

Yn ei chân enwog You’re So Vain mae’r gantores Carly Simon yn ailadrodd y llinellau anfarwol “You’re so vain you probably think this song is about you, don’t you. don’t you?” Mae’n bosib y bydd ambell i wyryw alffa yn y Gymru Gymraeg yn meddwl (yn gam neu’n gymwys) fod fy sylwadau yn hyn o lith [in this homily] yn cyfeirio’n benodol atyn nhw.  Os ydyn nhw o’r farn honno ac yn cael eu cythruddo [provoke]  i geisio amddiffyn (gyda dicter cyfiawn) neu resymoli eu hymddygiad siofinistaidd iddyn nhw eu hunain dyw hynny ond yn cadarnhau gwirionedd yr hen ddihareb – Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid [hound].

No comments:

Post a Comment