Diolch i BBC Cymru am yr erthygl fywgraffyddol hon.
Ganwyd
Tecwyn Ifan yng Nglanaman ym 1952 pan oedd ei dad yn weinidog yn
Ystalyfera, Cwm Tawe. Symudodd y teulu i fyw yn Login, a chafodd ei
addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf.
Bu'n aelod o'r grŵp Y Perlau Taf rhwng 1969 ac 1972 a
recordiodd pum record fer i Welsh Teldisc a Cambrian. Mae'n ddiddorol
nodi iddo chwarae'r gitâr drydanol ar ei recordiad olaf ond un i'r
Perlau Taf, offeryn na chwaraeodd byth wedyn.
Astudiodd i fod yn weinidog yr efengyl yng Ngholeg y Bedyddwyr,
Bangor, ac ym 1972 ffurfiodd Ac Eraill gyda Cleif Harpwood, Iestyn
Garlick a Phil Edwards. Rhyddhawyd tair record fer i Sain cyn chwalu ym
1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.
Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel Nia Ben Aur, Tua'r Gorllewin a Cwm Nant Gwrtheyrn
yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o
fudiad Adfer erbyn hyn, ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i
hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.
Fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio ar ben ei hun am y tro cyntaf
yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975. Sgrifennwyd caneuon
newydd ar gyfer y sioeau cerdd Heledd ac Anwariad a gynhaliwyd ym 1975 ac 1976.
Campwaith Tecwyn Ifan yw Y Dref Wen (Sain, 1977) -
yr albwm cyntaf a'r un gorau. Mae cysgod Waldo a thristwch diwedd bro yn
gorwedd yn drwm dros y caneuon yma. Fe'i gynhyrchwyd - fel bron pob
albwm arall - gan Hefin Elis.
Mae Dof Yn Ôl (Sain, 1978) yn cynnwys un ochr o ganeuon sydd yn ymwneud ag Amos y proffwyd. Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd Goleuni Yn Yr Hwyr, gyda chlawr hyfryd gan Jac Jones, braidd yn siomedig. Ond mae 'na uchafbwyntiau fel y ddwy gân Cŵn Annwn a Rwy'n Dy Weld.
Erbyn Edrych I'r Gorwel (Sain, 1981) roedd e'n amlwg
bod Tecwyn Ifan wedi colli ei ffordd yn gerddorol, ac roedd y caneuon
yn dechrau swnio'n flinedig. Serch hynny, yr albwm dilynol, Herio'r Oriau Du (Sain, 1983), oedd ei record orau ers Y Dref Wen. Fe'i recordiwyd yn dilyn Rhyfel Y Malfinas, ac mae'n cynnwys sawl cân brotest fel John Bull, Hiroshima a Marina.
Roedd rhaid aros saith mlynedd cyn Stesion Strata (Sain, 1990) a oedd yn gasgliad amrywiol o ganeuon newydd a chaneuon wedi eu cyfiethu fel The Streets Of London gan Ralph McTell.
Recordiwyd Sarita saith mlynedd yn ddiweddarach, ond
y tro yma, gyda Tudur Morgan wrth y lliw, a gyda band oedd yn cynnwys
dau cyn aelod o'r grŵp Dom.
Ar ôl seibiant o wyth mlynedd ymddangosodd Wybren Las, ac unwaith eto gyda chynhyrchydd newydd, sef Dyl Mei. Newidiodd y band unwaith eto, a chwaraewyd y drymiau gan ei fab Gruffudd o'r Texas Radio Band.
No comments:
Post a Comment