Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 24 May 2017

Rhodri Ifan

BBC Cymru Fyw yn cyfweld â'r actor Rhodri Ifan.


Beth ydy dy atgof cyntaf?

Ma'n atgofion cynhara' yn ymwneud â 'Steddfod Genedlaethol Hwlffordd, 1972. Ma' 'da fi frith gof o fynd gyda Dad i ymarferion cynhyrchiad Cilwch Rhag Olwen yn neuadd Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd.

Dwi hefyd yn cofio eistedd ar ramp tu fas i'r hen Bafiliwn pren yn ystod yr Eisteddfod yna.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Wêdd posteri o Charlie's Angels a Blondie ar y wal tra 'mod i'n grwt yn y saithdege.
Hefyd, wê' posteri o Leif Garrett rhwng rhai Blondie a Farah. Y sgêtbord a'r caneuon siwgwrllyd wê'n apelio amdano fe siŵr o fod!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio câ'l cerydd gan y Prifathro tra 'mod i yn y chweched yn yr ysgol uwchradd am newid trefen geirie wrth 'neud darlleniad yn y gwasanaeth boreol. Fydde popeth wedi bod yn iawn a neb wedi sylwi oni bai bod un o'm ffrindie 'di chwerthin tra 'mod i'n traethu [=adrodd]!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Weles i ffilm ryw dair w'thnos nôl a dâ'th deigryn bach i'm llygad tra'n gwylio honna.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n ymwybodol 'mod i'n dipyn o hoarder (neu'n gasglwr o fri), a dwi'n câ'l hi'n anodd taflu papure newyddion a chylchgronne tan 'mod i wedi eu darllen o glawr i glawr. Ma' 'na fwndeli o Western Mails aTivy-Sides sy'n mynd nôl blynydde yn y garej 'co… ac yng ngarej Mam a Dad!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n reit hoff o sawl lleoliad ar hyd a lled Cymru ond mae'n rhaid cyfadde' taw rhos Mynachlogddu yw'r llecyn sy'n dynfa i mi.

Dwi'n cofio 'nhadcu yn mynd â fi draw 'na am sgowt yn yr hen Morris 1800 gwyn pan wên i'n grwt bach, cyn i fi hyd yn oed ddechre yn yr Ysgol Feithrin. Dwi'n ddigon ffodus i deithio ar hyd y Rhos yn bur amal o hyd gan 'mod i'n byw nepell ohoni.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ar wahân i'r amlwg, sef noson ein priodas, ma' 'na sawl noson ar drip rygbi neu bêl-droed, nosweithi' blêr tra'n ffilmio Lolipop, Scrum 4 neu Gwaith Cartref yn aros yn y cof neu yn yr anghof.

Mae'n anodd dewis un arbennig o'r nifer o anturiaethe gethon ni fel criw o ffrindie a theulu'n 'neud y rownds o amgylch ffynhonne Gogledd Sir Benfro a'r wraig wrth lyw y Siarabang! 'Falle taw noson dathliade troad y ganrif newydd/mileniwm wê' penllanw'r gwibdeithie 'ma â'r Crymych Arms a'r London House yn ganolbwynt naturiol i ddathlu'r 'Crymych Trip!'


Disgrifia dy hun mewn tri gair

Perffeithydd(-ish). Cymdeithasgar. (Anh-)Trefnus.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi o hyd yn hoff o'r llyfr dwi wrthi'n ei ddarllen ar y pryd neu newydd ei orffen. Dwi newydd bennu French Revolutions - Cycling the Tour de France gan Tim Moore. Doniol iawn. Pan yn iau fy hoff lyfr wêdd Cri'r Dylluan gan T Llew Jones.

Dwi'n amal yn binjo ar lyfre mewn maes arbennig, naill ai er mwyn ymchwilio ar gyfer rhan neilltuol [arbennig] neu achos chwilfrydedd [curiosity] a diddordeb am fudiad, person neu cyfnod sy'n denu fi ar y pryd. Tua pymtheg mlynedd yn ôl fe ddarllenes i ryw ddwsin o lyfre ar Muhammad Ali ac un o'm hoff lyfre amdano ef yw Redemption Song: Muhammad Ali and the Spirit of the Sixties, gan Mike Marqusee.

Cyn i mi ddarllen llyfr taith beicio Tim Moore gês i'n hudo gan The Dig a Cove (Cynan Jones), a'm cyfareddu [swyno, hudo] gan Ymbelydredd (Guto Dafydd).

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Ar wahân, yn naturiol, i godi gwydryn gyda 'nheulu a'm ffrindie, dwi'n credu hoffwn i fynd â Bill Hicks, Eric Morecambe, Bonzo, John Lennon, Muhammad Ali a Twm Carnabwth am wibdaith o amgylch Gogledd Sir Benfro yn Siarabang y 'Crymych Trip!' A Meic Stevens ei hun yn gyfeiliant i'r cyfan. Taith diwylliannol a direidus [=yn barod am sbort a sbri]

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Tua tair w'thnos nôl, es i a'r mab a 'nhad i weld Don't Take Me Home yn sinema'r Mwldan, Aberteifi. Bu i'r tri ohonom fwynhau'r ffilm â'r mab yn dyrnu'r awyr wrth ail-fyw golie tîm Cymru ar eu taith drw'r Ewros. Ffilm ysgafn, llawen, doniol, ysbrydoledig, fflyffi, syml, hiraethus, 'nâ'th i'r tri ohonom wenu 'to.

Ac wrth gwrs, y rheswm pam ddâ'th deigryn i'm llygad i'n ddiweddar…

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Codi'r teulu a'm ffrindie, rhoi'r allwedd yn y clo ac anelu'r Siarabang tuag at yr haul.

Dy hoff albwm?

Anodd iawn. Newid yn feunyddiol [=bob dydd]. Dros y mis d'wetha' dwi 'di bod yn gwrando ar lawer o albyms swnllyd ac aflafar [raucous] fel Master of Puppets Metallica a Killers Iron Maiden, Dinosaur Jr., Led Zeppelin a Cheap Trick.

Ma' 'na doreth [digonedd, profusion] o ddeunydd Cymrâ'g (hen a chyfredol), o'r Cyrff, i'r Furries, i'r Gentle Good, i Gowbois Rhos Botwnnog, The Afternoons, 9Bach, Lleuwen Steffan, Sibrydion, Ffug, Capt. Smith, Gwyneth Glyn, Plu, HMS Morris, H Hawkline, Ail Symudiad, Sweet Baboo, Gwenno, ANi GLASS, Gorky's, ayyb. sy'n apelio ataf.

Dwi'n hoff iawn o unrhyw albwm sy'n cynnwys llais Mark Lanegan. Gan amla', mae'n ddewis rhwng Masters of Reality (The Blue Garden) gan Masters of Reality neu Highway to Hell,AC/DC.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Dwi'n reit hoff ohonyn nhw i gyd. Pam ddim onion-bhaji i ddechre, cinio dydd Sul (gyda llon' pan o dato-rhost) fel prif gwrs a tharten lemon meringue Anti Menna fel pwd.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Sai'n siŵr pwy hoffen i fod. Mae'n bur debyg taw ymgorffori rhyw arch-arwr fydde'r nod i leddfu holl ddioddefaint y byd.

Neu 'falle Ian Gwyn Hughes. Mynnu swydd gyda URC a 'neud mwy i Gymreigeiddio ac addysgu'r sefydliad 'na mewn diwrnod na ma' nhw wedi gallu 'neud ar 'u penne 'u hunen mewn bron i ganrif a hanner!

No comments:

Post a Comment