Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 25 March 2017

Y Lolfa yn 50

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl yma.

Mae rheolwr gwasg y Lolfa yn rhybuddio bod yna fygythiadau i Gymru a'r hunaniaeth Gymreig yn sgil digwyddiadau gwleidyddol diweddar.

Eleni mae'r cwmni o Dalybont, Ceredigion, yn dathlu penblwydd yn 50 oed.

Yn ôl Garmon Gruffudd fe allai'r dyfodol fod yn ansicr.

"Yn sicr gyda Brexit a'r posibilrwydd bod yr Alban yn mynd i fynd yn annibynnol mae 'na her i ni gyflwyno safbwyntiau Cymreig, hunaniaeth Gymreig a chreadigrwydd Cymreig a bod hynny yn fwy pwysig nag erioed.

"Mae'n anodd gwybod beth ddigwyddith. Ond dw i'n meddwl bod peryglon i ddyfodol Cymru fel cenedl.

"Mae peryg i ni gael ein llyncu gan Loegr efallai yn enwedig o feddwl falle aiff yr Alban yn annibynnol, Gogledd Iwerddon falle'n uno gydag Iwerddon felly fe allai Cymru gael ei gadael mewn sefyllfa gwan."

Mae'n dweud y bydd y Lolfa sydd wastad wedi rhoi pwyslais ar hyrwyddo Cymru a'r hunaniaeth Gymreig yn parhau i wneud hynny "ac i raddau bod yn wasg propaganda dros Gymru".

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu panel annibynnol i adolygu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru dan Gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes.

Roedd disgwyl i'r panel adrodd ar ei gasgliadau y llynedd, ond mae'r adroddiad wedi'i ohirio oherwydd y gwaith oedd ynghlwm ag ystyried y nifer uchel o ymatebion a dderbyniodd y panel fel rhan o'r adolygiad.

Bydd adroddiad y panel yn cael ei gyhoeddi'n fuan ac mae Garmon Gruffudd yn gobeithio y bydd y panel a'r llywodraeth yn sylweddoli pwysigrwydd y diwydiant llyfrau.

Adfywiad

"Byddwn i'n disgwyl i'r llywodraeth roi mwy o gefnogaeth i'r byd llyfrau ac yn gweld fod gan y byd llyfrau gyfraniad, er enghraifft yn y gwaith o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, a hefyd i gyflwyno hanes, diwylliant a hunaniaeth mewn ffordd bositif a dysgu pobl fod modd i Gymru fod yn wlad lwyddiannus."

Er pryderon Mr Gruffudd wrth edrych i'r dyfodol mae hefyd yn dweud eu bod nhw fel cyhoeddwyr llyfrau yn mynd i fod yn brysurach.

"Dros yr hanner can mlynedd dwetha ry'n ni wedi bod yn ehangu yn ara bach - ry'n ni'n dal i ddatblygu ein rhaglen gyhoeddi ac yn anelu at gyhoeddi rhyw gant o lyfrau'r flwyddyn, dyna'r nod.

"Mae pobl wedi bod yn darogan diwedd y llyfr print ond dw i'n meddwl bod adfywiad a dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae e-lyfrau wedi arafu ac mae 'na gynnydd bychan eto yng ngwerthiant llyfrau print."




No comments:

Post a Comment