Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.
Mae cynlluniau Cyngor Sir Caerfyrddin i newid statws iaith Ysgol Llangennech wedi esgor ar ffrae chwerw yn y pentref.
esgor - rhoi genedigaeth i, rhoi bod i rywbeth
rhoi genedigaeth i, geni, dwyn i’r byd; bwrw (~ ar rywun/rywbeth) to give birth to
2 (yn ffigurol) yn rhoi bod i rywbeth
Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2017. Cedwir pob hawl.
Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2017. Cedwir pob hawl.
rhoi genedigaeth i, geni, dwyn i’r byd; bwrw (~ ar rywun/rywbeth) to give birth to
2 (yn ffigurol) yn rhoi bod i rywbeth
Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2017. Cedwir pob hawl.
Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2017. Cedwir pob hawl.
Un o gyn-ddisgyblion amlycaf yr ysgol yw'r darlledwr Huw Edwards. Mae'n rhannu ei deimladau ynglŷn â'r dadlau sydd yn bygwth creu rhwygiadau dwfn ym mro ei febyd:
rhwygiad - toriad, rhaniad
mebyd - y cyfnod o fod yn blentyn/llanc
Rhoes Ysgol Llangennech - ac addysg cyfrwng Cymraeg - ddechrau arbennig i mi ar daith bywyd ac fe fyddaf yn dragwyddol ddiolchgar amdanynt.
Deuthum i fyw i Langennech o Benybont-ar-Ogwr yn fachgen pedair oed, a bu'r profiad o dreulio plentyndod mewn pentref Cymraeg ei iaith yn fantais ac yn fendith.
Bu newid mawr ers y cyfnod hwnnw - mae Cyfrifiad 2011 yn adrodd ei stori ei hun - ond mae Llangennech yn dal i fod yn bentref sydd yn cynnal y diwylliant Cymraeg yn driw a ffyddlon.
Byddaf yn ymweld yn gyson er mwyn cefnogi'r ymdrechion. Asgwrn cefn y traddodiad hwnnw yw'r ysgol leol y mae i'w phrifathro a'i staff a'i disgyblion enw ardderchog ar draws y sir.
Prif nodweddion bywyd Llangennech yn ystod fy llencyndod i oedd diwydrwydd - roedd 'na waith i gannoedd yn stordai'r Llynges, yr 'RN' hollbresennol - a chytgord cymdeithasol.
diwydrwydd - gweithgarwch dyfal (diligence)
cytgord - cytundeb
Disgwylid i ni'r 'bobl ddŵad' barchu cymeriad a naws y pentref ac fe'n derbyniwyd ni â breichiau agored. Dyna'r fargen. A bargen deg iawn oedd honno, yn fy marn bach i. Mae'n bosib bod realiti newydd ar waith erbyn hyn.
'Gwreiddiau yn bwysig'
Bu 1970 yn flwyddyn o gyffro ac o bryder yn ein teulu ni. Pentref Llafur oedd Llangennech bryd hynny - roedd y cynghorydd Mel Thomas yn un o hoelion wyth y blaid yn Sir Gaerfyrddin - ac fe benderfynodd fy nhad, y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards, bod angen herio grym Llafur yn y pentref.Credai erbyn hynny ei fod wedi hen ennill ei le fel 'un o fois y pentref', a pha ryfedd gan mai yng nghlwb rygbi Llangennech y treuliai oriau maith yng nghwmni'r criw bywiog yno?
Ond fe deimlai ambell un, heb os, fod Dad wedi cymryd cam yn rhy gynnar: buasai'n drigolyn ers pum mlynedd yn unig.
Fe gollodd ef a Phlaid Cymru yr etholiad hwnnw yn erbyn Llafur a'u hymgeisydd gweithgar, Gordon Lewis, 'un o fois y pentref' go iawn. Anghofiwyd y cyfan yn fuan wedyn gan fod Dad wedi dechrau triniaeth am ganser (cael a chael oedd hi iddo ddod drwyddi) ond fe ddysgwyd gwers ddefnyddiol ganddo yn wleidyddol. Mae gwreiddiau yn bwysig iawn, iawn mewn cymuned fel Llangennech.
cael a chael - touch and go
'Dwyn anfri' [bring into disrepute]
Erbyn Mai 1977 roedd Dad wedi llwyr wella - ac wedi ymgynefino yn ddigamsyniol - ac fe gipiodd y sedd yn yr ail gyfres o etholiadau i Gyngor Sir Dyfed. A dyna ddechrau ar gyfnod o brysurdeb dihafal iddo ym myd llywodraeth leol, yn enwedig o safbwynt addysg yn y sir.ymgynefino - dod yn gyfarwydd â
digamsyniol - unmistakable
dihafal - unrivalled, unique
Yn ystod y cyfnod hwn yr agorwyd Ysgol Gyfun y Strade, gan gynnig addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg i filoedd o blant ardal Llanelli. Y tristwch mwyaf i Dad oedd bod y datblygiad yn rhy hwyr i mi ac i'm chwaer: bu'n rhaid i ni'n dau fynd i hen ysgolion gramadeg y dref.
Yn rhinwedd cyfraniad fy nhad i gyfundrefn addysg y sir, gofynnwyd i mi yn ddiweddar beth fyddai ei agwedd ef at y ffrwgwd cyhoeddus iawn yn Llangennech ynghylch y polisi iaith ym myd addysg.
yn rhinwedd - by virtue
cyfundrefn - system
Wedi'r cyfan, bu yntau yn ei ddydd yn gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol. Does dim angen celu na gwamalu: byddai'r twrw wedi ei ddigio yn arw - yn bennaf oherwydd bod y ffrae wedi dwyn anfri ar enw da Llangennech.
celu - cuddio
gwamalu - waver
digio - gwneud yn ddig
Byddai hefyd wedi tynnu sylw yn ei ffordd ddeifiol ei hun at eironi'r sefyllfa, sef bod mwyafrif o gynghorwyr Llafur y sir wedi gwrthod cefnogi polisi eu prif weinidog, Carwyn Jones, a'u llywodraeth Lafur eu hunain yng Nghaerdydd.
deifiol - scathing, withering
Ac fe fyddai wedi herio a phrocio a phlagio byddin o bobl - gan gynnwys gwleidyddion etholedig yr ardal - i fynegi eu barn yn glir ac yn groyw ar y mater. Byddai'n sicr wedi croesawu'r cyfle i ddelio â sylwadau'r Dr John Plessis, sef y ficer a soniodd am 'the seeds of sectarianism in the community.
procio - provoke, poke
croyw - plaen, eglur
Miliwn o siaradwyr Cymraeg
Sut ar y ddaear y codwyd helynt fel hyn ym mhentref Llangennech? Mae'r esboniad yn syml ar un lefel. Mae Llywodraeth Cymru, dan reolaeth Llafur Cymru, wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.Mae'r polisi o newid statws ieithyddol Ysgol Llangennech yn rhan o'r strategaeth honno. Ac felly dyma Gyngor Sir Gaerfyrddin, awdurdod lleol dan reolaeth Plaid Cymru, yn ufuddhau i bolisi Llafur Cymru. Dyna yw'r ffeithiau moel.
ufuddhau - obey
Mae Carwyn Jones yn sicr yn ddiffuant ei gefnogaeth i'r polisi, ac mae'r gweinidog Alun Davies yn gadarn ei ymrwymiad. Y broblem, yn ôl ffynonellau Llafur, yw bod rhai o ffigurau amlycaf y blaid yn y sir yn llugoer iawn eu hagwedd, a'u bod yn ofni herio'r sawl sy'n bendant yn erbyn.
diffuant - sincere
Mae elfen arall y carwn ei thrafod yma, a'i thrafod yn ofalus yn rhinwedd canllawiau cyflogaeth y BBC. Peth anhepgorol bwysig mewn democratiaeth iach yw cynnal safon trafodaeth gyhoeddus, parchu ymdrechion i ganfod y gwir, ac ymwrthod yn gadarn â phob ymgais i gamarwain.
anhepgorol - indispensible
ymwrthod - abstain, refrain
Mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi'r cyfle i bawb i fynegi barn yn gyhoeddus. Dylai'r sawl sy'n manteisio ar y cyfle - gan gynnwys newyddiadurwyr - wneud hynny mewn ffordd gyfrifol, yn enwedig ar fater mor sensitif â pholisi iaith yng Nghymru.
Mewn democratiaeth iach, mae gan newyddiadurwyr yr hawl i ofyn cwestiynau. Nid dangos 'rhagfarn' yw herio neu gynnwys ffeithiau sy'n 'anghyfleus'. Ond peth maleisus, yn sicr, yw cyhuddo newyddiadurwr o 'ragfarn' am wneud ei waith yn gydwybodol.
maleisus - malicious
Gwelir tuedd beryglus - ymhlith rhai Cymry Cymraeg, hefyd - i gwyno am 'ragfarn' pan ddarlledir adroddiad sy'n cynnwys ffeithiau nad oes croeso iddynt. Yn yr un modd, ceisiodd ambell un o'r protestwyr yn Llangennech fy 'mherswadio' i beidio â dangos diddordeb yn yr helynt, trwy ddanfon cwyn at y BBC - a chrybwyll lliw gwleidyddol fy nhad fel 'tystiolaeth'.
crybwyll - mention, refer to
Barnwch drosoch eich hunain.
Y gobaith mwyaf yn awr - mewn oes o wadu gwirionedd a gwyrdroi ffeithiau - yw bod pobl ar y ddwy ochr yn dysgu gwersi pwysig er mwyn codi safonau ymgyrchoedd y dyfodol.
No comments:
Post a Comment