(Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon)
Gweler hefyd gwefan Dai Lloyd AC yma.
Mae ACau wedi cymryd rhan mewn pleidlais ar
hap i ddatblygu syniad yn fesur Cynulliad, gyda chynnig Dai Lloyd i ddiogelu
enwau lleoedd hanesyddol wedi'i ddewis.
Roedd gan aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau a
mainc ôl Llafur y cyfle i gynnig cyfraith newydd ddydd Mercher.
Fe wnaeth cyfanswm o 29 AC gymryd rhan, ac
roedd un syniad yn cael ei ddewis ar hap i gael ei ddatblygu yn fesur
Cynulliad.
Cynnig Mr Lloyd oedd ar gyfer deddf newydd i
ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi galw
yn y gorffennol i'w gwneud yn anghyfreithlon i newid enwau lleoedd hanesyddol
yng Nghymru.
Daw'r cynnig yn dilyn cyfres o ddadleuon dros
newid enwau dros y blynyddoedd, gan gynnwys ffrae dros Blas Glynllifon ger
Caernarfon, oedd yn cael ei alw'n 'Wynnborn Mansion' mewn deunydd marchnata.
Beth
yw'r broses?
Mae ganddo 25 diwrnod gwaith i ofyn i'r
Cynulliad bleidleisio os y dylai'r mesur gael ei gyflwyno.
Bydd ganddo 13 mis i ddatblygu ei syniad a'i
gyflwyno i'r aelodau cyn iddyn nhw gael y cyfle i graffu arno a'i ddiwygio.
Pe byddai'r mesur wedyn yn derbyn cefnogaeth
gan y mwyafrif o ACau, byddai'n dod yn gyfraith.
Yn y pedwerydd Cynulliad, cafodd mesurau ar
lefelau staffio nyrsys a chartrefi symudol preswyl - gafodd eu cynnig yn y modd
yma - eu gwneud yn gyfraith.
No comments:
Post a Comment