Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 26 November 2016

Coelcerth yn gwrthod diffodd

Diolch i BBC Cymru Fyw am y darn hynod ddiddorol yma.

Dyw e ddim yn bwnc mae pobl yn ei chael hi'n hawdd siarad amdano, ond bellach mae yna adnodd newydd yn y Gymraeg ar y we i helpu pobl i rannu eu profiadau o afiechyd meddwl. 

Bwriad meddwl.org yw dod â'r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg ynghyd i un lle. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys adran 'Myfyrdodau', sydd yn gyfle i bobl rannu eu profiadau yn Gymraeg a fydd gobeithio o ddefnydd i eraill. Mae yna hefyd fforwm drafod.

Un sy'n croesawu'r adnodd newydd yw Mathew Rhys o Landysul. Mae wedi cael tri phwl o iselder yn ystod ei fywyd, ond y cyfnod tywyllaf oedd degawd yn ôl, pan oedd yn 21 oed ac yn y brifysgol. Bu'n rhannu ei stori bersonol gyda Cymru Fyw:

Gor-wneud hi

"Roedd hi'n gyfnod anodd o or-wneud hi drwy weithio tair swydd rhan amser yn ogystal â gwaith coleg," meddai Mathew Rhys.

"Yn y pen draw, fe symudais adref at deulu a threulio bron i dri mis yn y gwely yn gorffwys ac adfer."

Mae hi'n dal i fod yn anodd i roi bys ar ei deimladau, meddai.

"Ro'n i'n meddwl am bopeth a dim byd ar yr un pryd. Roedd fel petai bod gwybodaeth yn rhuthro trwy fy mhen ar 500mya."

Roedd e hefyd yn tueddu o fynd yn ôl dros bethau oedd wedi ei gorddi [=cynhyrfu], mae'n cyfaddef. Pethau oedd e wedi eu dweud, neu ddim eu dweud.

"L'esprit d'escalier yw'r term Ffrengig am y peth - ail-fyw sefyllfaoedd brawychus drosodd a throsodd gan ddymuno eich bod wedi gweithredu'n wahanol," meddai.

Bywyd yn ymdrech

Aeth pethau'n ddu arno, ac er iddo drio bod yn gryf, aeth pethau yn drech nag e. [=yn gryfach nag e]

"Pan rydych chi'n isel, dydych chi ddim yn gallu gweld allan. Mae'r byd i gyd yn arafu ac rydych yn colli rheolaeth lwyr ar gadw amser, bwyta ac ymolchi. Mae iselder yn eich parlysu."

Ar ddechrau'r tymor academaidd hwnnw, fe gymerodd hi bythefnos iddo adael ei ystafell.

"Swnio'n eithafol, yndyw e? Ond doeddwn i ddim yn gallu camu i'r byd tu allan. Dw i'n cofio gwneud yr ymdrech un bore i baratoi i fynd i mewn i'r ddarlith, ond fe dreuliais i ddwy awr yn y gawod. Yn araf bach, fe ddes i allan o fy nghragen a mentro i'r coleg.

"Mae disgrifio iselder fel disgrifio lliw. Mae'n amhosib. Ond mae iselder yn cael effeithiau gwahanol ar wahanol bobl. Yr agosaf allaf ddod at ddisgrifio'r peth yw coelcerth yn eich pen sy'n gwrthod diffodd," meddai.

Y Gymraeg...

Un o'r rhesymau pam brofodd Mathew Rhys iselder difrifol ddeng mlynedd yn ôl oedd ei ddwyieithrwydd, meddai.

"Dw i wastad wedi credu bod gan bobl ddwyieithog ddwy bersonoliaeth, sy'n anochel os rydych chi'n meddwl am y peth. Mae iaith yn fyd arall, ac ro'n i'n teimlo fel fy mod i'n byw mewn dau fyd ac roedd y berthynas rhwng y ddau fyd yn fy rhwygo.

"Mae'r Gymraeg yn iaith gynnil a diriaethol [=concrete] a chanddi ei meddylfryd [= mindset] ei hun. Dw i'n gweld y Saesneg yn fwy 'rhydd', oeraidd a mynegiannol [= expressive] mewn ffordd arall. Ond sut ddiawl wyt ti'n esbonio dy deimladau dyfnion Cymraeg i rywun uniaith Saesneg?"

Ar ôl ymweld â'r meddyg, bu'n rhaid aros chwech wythnos am apwyntiad gyda chwnselydd ar yr NHS a hynny drwy gyfrwng y Saesneg.

"Er iddi helpu ychydig bach, ro'n i'n teimlo mor ddiymadferth [= helpless] a doedd dim modd esbonio dyfnderoedd yr hyn ro'n i'n ei deimlo yn fy ail iaith.

"Yn anffodus, mae chwech wythnos yn ddigon o amser i rai pobl sy'n teimlo'n isel i gymryd eu bywydau," meddai Mathew Rhys.

Goresgyn [= defeat]

Does dim dihangfa hawdd o'r pwll du, meddai, mae'r broses yn cymryd amser maith.

"Mae angen dyfalbarhad [= persistence], amynedd, ac amser. Mae nifer o arbenigwyr yn awgrymu ei bod hi'n cymryd dwy flynedd i ddod dros gyfnod o iselder, a dyna faint wnaeth hi gymryd i mi.

"Dwi'n well, yn sicr. Mae pawb yn cael diwrnodau gwael ac isel, ond dw i'n adnabod yr arwyddion ac wedi dysgu sut i osgoi i fynd nôl i'r lle hwnnw.

"Ro'n i'n lwcus iawn i gael teulu a ffrindiau cariadus, ond dw i'n sylweddoli nad yw pobl eraill mor ffodus.

"Dyna pam dw i'n croesawu gwefan meddwl.org yn fawr," meddai Mathew Rhys. "Mae'n hollbwysig fod gan bobl gyrchfan [=destination] penodedig ar gyfer materion iechyd yn y Gymraeg.

"Mae cyfathrebu, hyd yn oed yn ddi-enw, ar fforwm yn gam enfawr ymlaen. Mae'n braf gweld bod y sgwrs am iechyd meddwl yng Nghymru wedi ei normaleiddio. Ond mae dal angen mwy o wasanaethau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg ac mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir."

Cyngor Mathew Rhys i eraill sy'n dioddef iselder ydy i fynnu [= insist on] cymorth, o bob cyfeiriad.

"Ond yn anffodus mae'n rhaid i chi fynd drwy hyn eich hunan. Mae yna obaith, ac mi ddewch chi drwyddi'n berson cryfach.

"Efallai bod hyn yn swnio'n od, ond mewn ffordd, iselder yw un o'r pethau gorau a ddigwyddodd i fi erioed.

"Yn amlwg, dydych chi ddim yn gallu gweld hynny ar y pryd, ond yn bendant, rydych chi'n dod i nabod eich hunan ac yn profi pob eithaf o'ch enaid. Mae'r graith dal yna, a dw i'n gweld y peth fel stribyn o dduwch yn cael ei ychwanegu at enfys - mae jyst yn rhan o bwy ydw i erbyn hyn."

Stori: Llinos Dafydd






No comments:

Post a Comment