Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 2 July 2016

Bore gyda Bethan Gwanas a diwedd blwyddyn arall

Cidnabîns!


Diolch i bawb ddaeth i Gastell Aberteifi fore Iau i drafod gwaith yr anhygoel Bethan Gwanas. Roedd Ystafell y Tŵr dan ei sang, a chawson ni glywed am hanes troelledig ei nofel ddiweddaraf, I Botany Bay; pa mor anodd yw ysgrifennu'n syml; profiadau Bethan o ysgrifennu nofel erotig (Gwrach y Gwyllt) yn Gymraeg; dylanwad y Methodistiaid ar ddiwylliant Cymru a'r iaith; Hi yw fy ffrind, Blodwen Jones a'r FFAITH ddiamheuol bod dysgwyr, boed yn ferched neu'n ddynion, yn cwympo mewn cariad gyda'u tiwtoriaid Cymraeg. Pob un, heb eithriad.

A llawer mwy, afraid dweud.

Diolch hefyd i bawb arall gyfrannodd at ein dosbarthiadau yn y Castell eleni: Caryl Lewis siaradodd am ei nofel swynol, Y Bwthyn,  Elfair James am ei phlentyndod ar fferm ym Mynachlogddu yn y 40au a'r 50au cynnar, a Jean Brown, bydwraig Aberteifi am flynyddoedd mawr, i enwi ond ychydig o'n siaradwyr a phynciau dros y flwyddyn sy wedi mynd.

Ond mae'r diolch mwyaf i aelodau'r dosbarth am eu brwydfrydedd a chariad at yr iaith Gymraeg.




No comments:

Post a Comment