Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 7 February 2016

Draig i guddio Jac yr Undeb



 Trwydded


(Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori hon)

Roedd yna gryn aniddigrwydd [discontent] yr adeg yma'r llynedd ar ôl i lywodraeth y DU gyhoeddi bwriad i osod baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd fyddai'n cael eu prosesu. 

Er bod nifer o yrwyr Cymru wedi ymgyrchu yn erbyn y syniad, daeth y trwyddedau newydd i fodolaeth ar 6 Gorffennaf 2015. Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr yn dweud bod ychwanegu'r faner yn "cryfhau'r teimlad o undod cenedlaethol".

Ond rŵan mae gwasg Y Lolfa wedi penderfynu mynd â'r brotest gam ymhellach trwy gyhoeddi sticeri'r Ddraig Goch i yrwyr eu gosod ar eu trwyddedau newydd i guddio Jac yr Undeb.

Meddai Fflur Arwel, y pennaeth marchnata: "Ry'n yn credu ei fod yn hollol annheg fod Prydeindod yn cael ei orfodi arnom yn y ffordd hyn. Does gan bobl ddim dewis i ddatgan eu cenedligrwydd na dangos eu balchder o fod yn Gymry."

Mae'n bwnc sy'n hollti barn. Hon oedd y drafodaeth ar Cymru Fyw pan gafodd deiseb yn erbyn y faner ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Ionawr 2015:

YN ERBYN

Gwenith Owen oedd trefnydd y ddeiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau. Roedd dros 3,000 wedi ei llofnodi. Yma mae hi'n egluro pam ei bod hi'n gwrthwynebu'r datblygiad:

'Ym mol y morfil'

Roedd gan John Bwlchllan stori dda am Jona a'r morfil. Wrth i'r morfil lyncu Jona mae'n dweud wrtho, "Bellach y' ni'n un. A myfi yw'r un." Dyna yw Prydeindod. Nid partneriaeth mohono ond ewyllys un wlad a orfodwyd trwy drais ar dair arall.
Nid yw Prydeindod wedi bod o fudd i Gymru. Ry' ni'n dioddef o salwch meddwl erbyn hyn, salwch sy'n codi arnom ofn bod yn weledig ac ofn cael ein gadael.

Mae ofn gweithredu arnom ac ofn sefyll ar ein traed ein hunain gan i ni gredu'r hen ystrydeb, ein bod yn rhy fach ac yn rhy dlawd.

Prydeiniwyd oddi wrthym ein hadnoddau a'n gadael i fyw ar gardod [alms, charity] gwlad. Credwn fod ein hiaith yn dda i ddim a'n diwylliant ond yn werth rhywbeth os yw'n efelychu'r hon a berthyn i'n meistri ymerodrol.
Yn y pen draw, mae'r sawl sy'n gwrthod hunaniaeth Brydeinig yn gwrthod gorthrwm [oppression] cenedlaetholdeb Prydeinig. Mae'n gwrthod antur wladychol [colonialist] y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r hiliaeth oedd yn sail iddo.

Mae'n gwrthod ffawd y sawl a gafodd ei wladychu, sef gwasanaethu gweledigaeth ei ormeswr, a gormesu [oppress, tyrannise] eraill yn eu tro.

Mae 'na honiadau fod Jac yr Undeb yn uno pawb. Yma yng Nghymru fe all baner Cymru wneud yr un gwaith. Gallwch fod yn Gymro neu'n Gymraes beth bynnag eich iaith, lliw a chredo.

Nid oes yn rhaid wrth faner y Jac er mwyn bod yn gyfaill i'r lleill o wledydd Prydain nac i wledydd eraill y byd. Ni all Prydain neilltuo [reserve] iddi hi ei hun werthoedd yr ydym i gyd yn gobeithio eu coleddu [cherish]chwaith.

Achos plwyfol yw hwn yn y pen draw, ymdrech gan y Ceidwadwyr i apelio at bleidleiswyr de-ddwyrain Lloegr, ac i atal y llif tuag at UKIP. Mae gosod y faner ar ein trwyddedi yn un weithred ymysg y cant a'r mil sy'n ein bychanu.

Nid oes yna na ddu nac aur na gwyrdd na thafod na chwt ar faner Jac yr Undeb. Cred yw Prydeindod ac mae'n bryd i ni droi'n anghredinwyr. Rwy'n benderfynol o gael y morfil 'na i'n 'hwdu ni'n 'ôl.

No comments:

Post a Comment