Dyn yn cwympo i'w farwolaeth o ffenestr swyddfa cwmni yswiriant –
dyna fydd golygfa gyntaf iasoer y gyfres ddirgel 35 Diwrnod ei darlledu
nos Sul 8 Tachwedd ar S4C.
Mae'r gyfres wedi'i chynhyrchu gan Boom
Cymru ac wedi'i ffilmio mewn amryw o leoliadau yng nghanol Caerdydd,
gan gynnwys swyddfa ger Heol y Santes Fair a gerddi Parc Bute, wrth ymyl
Castell Caerdydd.
Mae'r swyddfa, prif leoliad y golygfeydd, yn
delio a thwyll yswiriant yng nghanol dinas ac mae straeon y cymeriadau
yn clymu a'i gilydd wrth ddatgelu cyfrinachau tywyll.
Ar
ddechrau'r bennod gyntaf, byddwn yn gweld Simon Jones yn cwympo i'w
farwolaeth. Yn syth, byddwn yn cael ein tywys yn ôl 35 diwrnod ynghynt
wrth i Simon, heb yn wybod i'w hunan, ddechrau cyfri'r dyddiau tan ei
farwolaeth ei hun.
"Yn y ddrama hon, y gwylwyr sy'n chwarae rôl y
ditectif, yn casglu tystiolaeth ac yn ceisio dod i gasgliad eu hunain,"
meddai Mark Flanagan, sy'n chwarae'r brif ran fel cymeriad Simon.
"Mae
hi'n gysyniad cyffrous wrth i'r gwylwyr ddatblygu eu damcaniaethau nhw
am bwy sy'n gyfrifol am y llofrudd a pham. Ar yr arwyneb mae pawb yn
ymddangos fel cydweithwyr bodlon ond oes unrhyw un yn y swyddfa yn onest
gyda'i gilydd? Gwyliwch i ffeindio allan!"
Mae cast y gyfres yn
cynnwys wynebau newydd ac adnabyddus gan gynnwys Mark Flanagan, catalydd
prif ddigwyddiadau'r gyfres, Simon; Richard Elis; Mair Rowlands; Rhodri
Evan; Sion Alun Davies; Lowri Steffan; Nia Roberts a Saran Morgan.
Bydd
perthynas Simon a Jeff o dan bwysau aruthrol wrth i gyfrinachau all
achosi cryn dipyn o niwed gael eu datgelu yn ystod y gyfres.
"Mae'r
swyddfa yn lle anodd i weithio ac mae 'na gweryla a thwyllo yn mynd
ymlaen sy'n creu tensiynau amlwg rhwng y cydweithwyr," meddai Richard
Elis, sy'n chwarae cymeriad Jeff.
"Mae hefyd perthnasau cryf yn
datblygu sy'n naturiol pan mae unigolion yn gweithio'n agos gyda'i
gilydd. Bydd y gynulleidfa yn medru uniaethu a rhai o'r cymeriadau ond a
fyddan nhw'n medru darganfod pwy yw'r llofrudd?!"
Yr awdures ac
enillydd Rose d'Or a BAFTA Cymru Siwan Jones a'r nofelydd a'r sgriptiwr
William Owen Roberts sy'n gyfrifol am ysgrifennu wyth bennod y gyfres
hon. Y ddau oedd yn gyfrifol am greu ac ysgrifennu'r gyfres gyntaf o 35
Diwrnod hefyd.
Ceir disgrifiad o rai o'r prif gymeriadau yn fan hyn.
No comments:
Post a Comment