Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 27 September 2015

Y Beiro Coch

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf, BBC Cymru.

Tydan ni fel Cymry'n mwynhau ffrae? A does dim sy'n well na ffrae am yr iaith. Wiw i neb feirniadu Cymraeg neb arall - mae'r term 'plismon iaith' yn amhosib i'w ddweud gydag anwyldeb. Ond ar wefan Cymru Fyw, mae'r trydarwr @YBeiroCoch, sy'n cywiro negeseuon ei gyd-drydarwyr yn rheolaidd, yn egluro pam fod hyn yn bwysig.

Yn ôl y Beiro - ac ydi, mae'n trydar yn ddienw - anodd deall weithiau gymaint o amarch sydd gan y Cymry Cymraeg at y Gymraeg.

Byddant bob un yn bloeddio 'Er gwaethaf pawb a phopeth' ac 'o bydded i'r heniaith barhau' tan berfeddion, heb sylweddoli mai nhw yw'r rhan fwyaf o'r 'pawb' yna, a'u bod nhw'n gwneud mwy nag unrhyw 'hen Fagi a'i chriw' i ladd yr iaith.

Ar ôl cywiriad penodol, derbyniodd storm o feirniadaeth. Dyma, dywed, sy'n digwydd yn or-fynych yn y Gymru Gymraeg. "Paid â gofyn am gywirdeb!" yw'r gri.

"Paid â mwydro am safonau! Dylet ti ddiolch am yr hyn o ddefnydd sydd. Ymfalchïa yn dy friwsion!"
Ond mae'r Beiro Coch yn mynnu bod angen safonau a chywirdeb. Yn sylfaenol, mae angen y rheiny er mwyn cael iaith iach - er mwyn iddi fedru anadlu a thyfu, ac er mwyn cael patrymau y gall plant, a dysgwyr eraill, eu hefelychu.

Ac oes, mae 'na ymateb i'w erthygl ar Twitter, gyda rhai'n cytuno â'r Beiro, ac eraill yn ei alw'n nonsens o'r radd flaena.

Prynwch eich popcorn, eisteddwch yn ôl a mwynhewch y sioe!

Geirfa 

tydan ni = onid ydyn ni (ffurf lafar ogleddol)
wiw i neb = gwiw i neb      yma "woe betide" "let nobody dare"
anwyldeb = enw o 'annwyl'
amarch = gwrthwyneb parch
yn or-fynych = yn rhy aml
mwydro = yma 'poeni'  ystyr 'mwydro'  fel arfer yw 'drysu, gwirioni'
tan berfeddion - perfeddion = guts




 

No comments:

Post a Comment