(o Golwg360)
Mae miloedd o ffoaduriaid wedi cyrraedd Awstria yn chwilio am hafan,
wedi iddyn nhw dreulio’r dyddiau diwetha’ yn cael eu hel o un wlad i’r
llall yng nghanolbarth Ewrop.
Mae heddlu Awstria wedi cadarnhau fod tua 6,700 o bobol wedi
teithio i’r wlad o Hwngari, wedi iddyn nhw gael eu dal rhwng nifer o
wledydd wrth i ffiniau gael eu cau er mwyn eu rhwystro rhag mynd i
Hwngari, Serbia a Croatia.
Mae disgwyl i fwy o bobol bara i wneud eu ffordd i ogledd Ewrop
trwy wledydd Twrci a Groeg, wedi iddyn nhw ffoi rhag rhyfel a thlodi yn y
Dwyrain Canol ac Affrica.
Heddiw, mae gwylwyr y glannau yng Ngroeg yn dweud iddyn nhw
fethu ag achub merch bum mlwydd oed a ganfuwyd [canfod - darganfod, gweld rhywbeth a fu'n anweladwy cyn hynny] yn y tonnau oddi ar
arfordir Lesbos. Roedd y cwch yr oedd hi’n teithio ynddo wedi suddo, gan
adael 14 o bobol eraill hefyd ar goll.
Fe gafodd ffoaduriaid eu hysio [hysio = annog, gyrru ymlaen] oddi ar y ffin rhwng Hwngari a
Serbia gan nwy dagrau a chanonau dwr, ac fe gafodd y rheiny a
dderbyniwyd i Groatia rai dyddiau ynghynt eu hel o’r wlad honno hefyd
wedi i’r llywodraeth benderfynu na allai ymdopi â’r holl bobol.
Dyna pryd y cafodd rhai cannoedd eu rhoi ar fysiau yn Hwngari
a’u hanfon i Awstria. Ac mae disgwyl mwy o ffoaduriaid i gyrraedd
Awstria heddiw.
No comments:
Post a Comment