Mae Coleg Ceredigion i dderbyn grant
o £300,000 oddi wrth Llywodraeth Cymru yn benodol i ddatblygu Canolfan
Gymraeg aml bwrpas yn Aberteifi.
Caiff Canolfan “Y Man a’r Lle” ei
hadeiladu ar gampws y coleg yn Aberteifi gan greu canolbwynt i
weithgareddau addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol cyfrwng Cymraeg.
Bydd y Ganolfan yn fodd i gryfhau
isadeiledd Cymraeg y dref i alluogi pobl a busnesau lleol i fedru cynnig
y gwasanaethau fydd eu hangen i gynnal a chefnogi mentrau newydd fel
Castell Aberteifi i’r dyfodol.
Bydd y Ganolfan yn cynnig:
- cartref sefydlog i fudiadau cyfrwng Cymraeg yn y dref gan hwyluso rhannu arfer dda a rhwydweithio;
- man cyfarfod anffurfiol y gall y gymuned a myfyrwyr y coleg fwynhau;
- canolfan bwrpasol a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd a hyfforddiant galwedigaethol mewn meysydd megis arlwyo ac estyn croeso;
- canolfan lle gellir cynnal y gweithgaredd cymdeithasol a diwylliannol cyfrwng Cymraeg sydd yn rhan o raglen Gymraeg y coleg i fyfyrwyr a disgyblion ysgol;
- syrjeri cyngor busnes i fusnesau lleol i dderbyn cyngor a chyfarwyddid ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Dywedodd pennaeth y coleg, Jacqui
Weatherburn “Yr ydym wrth ein bodd o dderbyn yr arian yma. Bydd y
Ganolfan yn creu canolbwynt amlwg i weithgaredd cyfrwng Cymraeg a
dwyieithog yn Aberteifi gan gryfhau statws y Gymraeg yn y dref a’r
ardaloedd cyfagos. Mae’n gyfle gwych i rannu gwaith gwobrwyedig Coleg
Ceredigion ym maes dwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg gyda’r gymuned
ehangach.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones am
y buddsoddiad: “Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi y caiff chwech o
Ganolfannau Cymraeg newydd eu creu ledled Cymru gyda chymorth mwy nag
£1.5m o gyllid cyfalaf. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob
dydd sydd wrth wraidd gweledigaeth Bwrw Mlaen. Bydd datblygu’r
canolfannau amlbwrpas ac ardaloedd dysgu hyn yn chwarae rôl allweddol
i’r perwyl hwn.
“Bydd y canolfannau hyn yn cynnig pob math o gyfleoedd i bobl o bob oedran ddefnyddio, ymarfer a mwynhau’r iaith ar lawr gwlad. Rydym
eisoes wedi gweld canolfannau cyffrous yn cael eu datblygu ledled Cymru
drwy’r Grant Buddsoddi Cyfalaf, gan ddangos ein hymrwymiad i weld yr
iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y
chwe phrosiect rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn datblygu dros y misoedd i
ddod.”
No comments:
Post a Comment