Gyda diolch i BBC Cymru am yr erthygl wreiddiol.
Gruffydd, Ifan, Owain ac Ela, Efa a Cadi - dyna rai o enwau babis mwyaf poblogaidd gwrandawyr Radio Cymru yn ôl cyfarchion gafodd eu hanfon i'r orsaf dros gyfnod o ddwy flynedd, sef 2011-2013.
Fel ymateb i'r cyfarchion lu oedd yn cyrraedd rhaglen Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones ar Radio Cymru i fabis newydd y gwrandawyr, fe ganodd Caryl gân arbennig yn enwi a chroesawu 11 o fabanod y gwanwyn yn fyw ar y rhaglen ym mis Mai 2011.Bob mis ers hynny, mae Caryl a rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru wedi cyfansoddi a pherfformio caneuon yn dathlu'r holl fabis newydd sydd wedi eu geni i'r gwrandawyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau.
I ddathlu dwy flynedd o Gân y Babis, rydyn ni wedi cyfri a dadansoddi ychydig o ffeithiau am yr enwau gafodd eu hanfon i raglen Dafydd a Caryl rhwng Mawrth 2011 ac Ebrill 2013.
Daw'r enwau yma gan wrandawyr o bedwar ban Cymru a Phrydain, ond hefyd mor bell a Seland Newydd, yr UDA, Brazil a Barbados!
Yn y cyfnod yma, mae'r caneuon wedi cynnwys enwau 795 o fabis - 381 bachgen a 414 merch - yn cynnwys 17 pâr o efeilliaid.
Isod mae pedwar tabl gyda'r enwau cyntaf a'r ail enwau mwyaf poblogaidd o'r rhai sydd wedi cael eu hanfon mewn at y rhaglen dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd 2011-2013
BECHGYN | ||
---|---|---|
1 | Gruffudd/Gruffydd/Gruff | 16 |
=2 | Ifan | 13 |
=2 | Owain | 13 |
=2 | Twm | 13 |
=3 | Jac | 12 |
=3 | Osian | 12 |
=3 | Tomos | 12 |
4 | Elis | 8 |
=5 | Celt | 7 |
=5 | Deio | 7 |
=5 | Steffan | 7 |
MERCHED | ||
---|---|---|
1 | Ela | 18 |
=2 | Cadi | 13 |
=2 | Efa | 13 |
3 | Mali | 11 |
=4 | Erin | 9 |
=4 | Martha | 9 |
=4 | Megan | 9 |
=4 | Nel | 9 |
=5 | Gwenno | 8 |
=5 | Lili | 8 |
=5 | Lleucu | 8 |
=5 | Mari | 8 |
Mae 152 enw gwahanol i fachgen, a 170 enw gwahanol i
ferch yn y rhestr gyflawn. Mae 84 o enwau'r bechgyn a 104 o'r enwau
merched yn ymddangos unwaith yn unig.
Mae rhai cyfuniadau o enwau poblogaidd yn y casgliad hefyd
gydag Alaw Fflur, Ela Grug, Mali Haf, Ifan Ellis a Twm Wyn yn gwneud tri
ymddangosiad, a ganed dau Owen Morgan Gruffudd Huws o fewn ychydig dros
fis i'w gilydd nôl yn haf 2011.
Rydyn ni
wedi cyhoeddi rhestr o enwau babis Cymraeg mwya' poblogaidd 2013 - 2014
ar wefan Cylchgrawn BBC Cymru Fyw. Mae na rai enwau wedi aros yn y
rhestr ond mae'r enwau ar frig y rhestr wedi newid:
Mae na gyfanswm o 202 o enwau bechgyn a 191 o enwau merched, gyda rhai
unigryw, hyfryd yn sefyll allan. Brython, Ceulan, Dulas a Gwrhyd i
fechgyn a'r merched Arria, Blathnaid a Syri.
| ||
---|---|---|
No comments:
Post a Comment