Wel dyma dir a
dyma daith
Ai-a ac ai-o!
Mae rowndio’r
Horn yn gledi maith:
O am wlad Bryn
Cynan!
Wel hogia bach
mae’r gwynt yn oer:
Ai-a ac ai-o
Cymylau duon am
y lloer:
O am ardd Bryn
Cynan!
Mae sŵn y gwynt
yn boddi sgwrs:
Ai-a ac ai-o
Dau wrth y llyw
i gadw’r cwrs:
O am ffyrdd Bryn
Cynan
Mae’r llong yn
gyrru’n greulon iawn:
Ai-a ac ai-o
O na bawn rwan
wrth dân mawn
Gartref ym Mryn
Cynan!
Ac ‘oglau’r
ysgaw ar bob chwa
Ai-a ac ai-o
Nid wn am unlle
ddechreu ha’
Debyg i Fryn
Cynan!
Ac eithin melyn
cloddiau Llŷn
Ai-a ac ai-o
Grug mawr yn
lasgoch ar bob un:
Felly mae Bryn
Cynan!
Mae cofio ngwlad
yn ddigon hawdd
Ai-a ac ai-o
A’r bysedd
cochion ar bob clawdd
Filoedd ym Mryn
Cynan!
A’r hedydd uwch
ben daear las,
Ai-a ac ai-o
A’r cacwn brith
yn canu’n bas
Beunydd ym Mryn
Cynan!
Wel hogiau bach
gwn am le braf;
Ai-a ac ai-o
Ar ben y goets
ar ddechreu haf
Ac yn gweld Bryn
Cynan!
Os down ni
drwyddi, hogiau bach,
Ai-a ac ai-o
Ond anodd iawn
fydd canu’n iach
Wedyn i Fryn
Cynan!
Mae Bryn Cynan ar y croesffordd rhwng Portinllaen a
Nefyn. Yn yr hen ddyddiau roedd Bryn Cynan yn dirnod adnabyddus i forwyr oedd
yn trafeilio ar y goets rhwng Nefyn a Phwllheli.
Gledi maith – gwledydd maith (?)
Grug mawr - bell
heather
Bysedd cochion – bysedd cŵn
No comments:
Post a Comment