Cyfrinachau, cariad, celwyddau. Yr Hydref hwn daw tair drama wreiddiol i S4C sy'n camu mewn i feddyliau cymeriadau cymhleth. Bydd Tair yn codi'r chwyddwydr [= magnifying glass] ar fywydau cyfrinachol, yn rhoi llais i'r ochr dywyll ac yn cynnig cyfle i chwerthin.
Dyma dair drama newydd, wedi eu creu gan awduron a chyfarwyddwyr gwahanol, sy'n mentro i dir newydd ac yn rhoi llwyfan i rai o actorion gorau Cymru. Caiff y tair eu darlledu ar nosweithiau Sul am 9.00, heb unrhyw hysbysebion i darfu [tarfu = torri ar draws] ar lif y straeon.
Mae'r ddrama gyntaf yn seiliedig ar nofel Jerry Hunter, Gwreiddyn Chwerw, ac yn trafod effaith un digwyddiad tyngedfennol [am rywbeth sy'n penderfynu ffawd/tynged rhywun] ym mywyd gŵr a gwraig yng nghefn gwlad Eryri ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Darlledir y ddrama gyntaf, Yr Oedi, nos Sul 5 Hydref, 9.00 ar S4C.
Pan gaiff mab hir-ddisgwyliedig ei eni i Mari (Rhian Blythe) a Tomos (Dyfan Dwyfor), mae bywyd yn ymddangos yn berffaith. Ond buan iawn mae pethau'n cael eu troi ben i waered wrth i un frawddeg fach drawsnewid popeth.
Yn y fonolog ddirdynnol [= poenus ofnadwy, arteithiol] hon sydd wedi ei chyfarwyddo gan Siôn Humphreys, mae Rhian Blythe yn mynnu sylw [=comes to the fore] fel Mair ac mae ei phortread yn llawn tensiynau ac yn ymdrin â themâu oesol: euogrwydd, cywilydd, cenfigen ac edifeirwch [= cyflwr o fod yn ddrwg gennych am ryw ddrygioni].
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.
Catrin Mara a Shelley Rees sy'n serennu yn yr ail ddrama, Cariad Erin, nos Sul, 12 Hydref. Yn ddoniol iawn ar y wedd gyntaf, troedio'r llafn cul [= narrow blade, i.e. tightrope] rhwng y llon a'r lleddf [hapusrwydd a thristwch] mae'r stori hon, wrth i ni gael sbecian [cymryd pip] i bob cornel o fywyd personol, paradocsaidd Erin - digrifwraig standup Gymraeg sy'n dal i dorri ei chalon wedi ysgariad.
Mae sgript frathog [yn brathu/cnoi, chwerw] Siân Naomi a Meirion Davies yn llwyddo i rewi chwerthiniad mewn chwinciad, ac mae cyfarwyddyd Mei Williams, sy'n cyfarwyddo drama am y tro cyntaf, yn dod â byd lliwgar Erin a Jo yn fyw. Dyma ddrama fywiog sy'n llawn cyffro bywyd go iawn.
Yna ar nos Sul, 19 Hydref, Eiry Thomas sy'n rhoi perfformiad caboledig [graenus] fel Ceinwen yn Tic Toc, drama gomedi dywyll iawn wedi ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Delyth Jones.
Eiry Thomas |
Yn gaeth i'w chadair o flaen y tân mae Ceinwen mewn stad barhaol o alar am aelodau eraill ei theulu, sydd wedi marw fesul un. Ond o dipyn o beth, i gyfeiliant gwallgo' tician y clociau sy'n plastro'r mur, daw'n amlwg bod sawl cyfrinach ddychrynllyd yn llechu [ymguddio, cwato] rhwng y pedair wal.
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.rhwng y pedair wal…
"Mae'n wych cael cyflwyno gwaith gwreiddiol newydd i'r gynulleidfa, a hwnnw'n waith o safon," meddai Gwawr Martha Lloyd, comisiynydd drama S4C. "Mae'r straeon hyn fel clymau [cwlwm - knot - lluosog] sy'n cael eu datod [= datglymu] i ni yn araf bach; maen nhw'n afaelgar [gafaelgar = yn cydio yn y dychymyg neu’r teimladau] a ffraeth [= dweud pethau sy’n graff ac yn ddoniol yr un pryd], weithiau'n ddoniol ac weithiau'n sinistr.
"Rydym ni mor ffodus bod yma ddramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion anhygoel o dalentog ar ein stepen ddrws, ac mae Yr Oedi, Cariad Erin a Tic Toc yn rhoi cyfle iddyn nhw ddangos hyd a lled eu sgiliau, a chymaint maen nhw'n gallu ei wneud.
"Dyma dair drama gwbl unigryw ac rydym yn falch iawn o allu rhoi llwyfan iddynt ar S4C."
No comments:
Post a Comment