Diolch unwaith eto i Bethan Williams a Ffrwti am roi sbardun i sgwrs!
Byddai
trip siopa o leia teirgwaith y flwyddyn, a rhestr o bethau i brynu. A
sawl peth bach arall yn dod nôl. I Aberteifi byddai Mam yn mynd i wneud y
sipoa wythnosol, ond roedd Caerfyrddin yn hollol wahanol. Roedd gofyn
penderfynu ar ddechrau'r wythnos pa ddiwrnod fyddai 'mynd i siopa yn
Gaerfyrddin' a gadael cyn 9, mynd â brechdannau i'w bwyta yn y car amser
cinio, a chyrraedd nôl erbyn te fel arfer.
Roedd e'n beth eitha
mawr am flynyddoedd. Un o fy atgofion cyntaf o siopa yng Nghaerfyrddin
yw'r siwrne adref – roedd hi mor hir, o wybod fod comic yn un o fagiau
Mam yn aros i gael ei ddarllen. A siopa dillad – dyw hynny erioed wedi
bod yn uchafbwynt, ond doedd dim rhyw lawer o siopau dillad yn Aberteifi
felly roedd wastad rhaid mynd i ryw siopau dillad – Adams, Littlewoods a
pha bynnag siopau roedd Mam yn mynd iddyn nhw.
Ond roedd Bwise yn
gwneud iawn am hynny – roedd escalator yna! Bydden ni'n meddwl am bob
mathau o resymau i gael mynd lan lofft er mwyn defnyddio'r escalator-
colli Mam a gorfod mynd lawr i chwilio amdani, gan wybod yn iawn taw lan
lofft oedd hi oedd un tric.
Er, am ryw reswm dim ond lan oedd yr
escalator yn mynd - mae'r un peth yn wir am yr escalator yn Marks
Caerfyrddin nawr hefyd. Grisiau sydd i ddod lawr.
Llyfrau wedyn -
roedd Siop y Pentan yn un stop bydden ni'n gwneud bob tro, er bod Siop y
Castell yn Aberteifi, bydden i wastad yn dod o Gaerfyrddin â llyfr
newydd. Wrth dyfu'n hŷn Waterstones oedd yr atyniad - doedd dim siop
lyfrau yn Aberteifi a bydden i'n cael pori am oesau am lyfr Saesneg. Do'n
i ddim wedi dod ar draws trysorau fel siopau Seawards, Abergwaun, a
Palas Print eto.
Ac wrth dyfu'n hŷn bydden ni'n cael mynd i siop
arall tra bod Mam yn trial sgidiau neu rywbeth - dyna oedd peth mawr,
o'r diwedd bach o ryddid.
Mae pobl lot mwy parod i fynd ymhellach
i siopa nawr, a mynd bron heb feddwl. Mae Mam yn dal i fynd yn ystod
gwyliau'r ysgol, a'i rhestr gyda hi er ei bod hi'n dweud nad oes
'eisiau' unrhyw beth. Y gallai hi falle fynd i Aberteifi, neu chwilio
ar-lein, mae rhyw dyniad [=pull] o hyd – arfer falle. Os dwi adref dwi'n aml yn
cael fy nhemtio i fynd hefyd - mae Siop y Pentan yn dal i fod 'na, mae
Aardvark wastad yn cynnig rhyw ddanteithion [=treats], Nomads yn gwerthu slippers
Gaeaf gwych wedi eu gwau, a hetiau a menig, a'r farcet yn grêt; a dwi
hyd yn oed yn mentro i ambell siop ddillad os oes raid!
No comments:
Post a Comment