Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 25 September 2014

A ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael pleidleisio?

Diolch i Golwg360 am y stori hon.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams wedi ymuno â’r galwadau i adael i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio ym mhob etholiad ym Mhrydain o hyn ymlaen.

Daw hyn ar ôl i dros 100,000 o bobl ifanc gofrestru i bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban, y tro cyntaf i’r bleidlais gael ei hestyn i bobl dan 18 oed mewn etholiad mawr ym Mhrydain.

Mae’r nifer sylweddol yna wedi arwain at alwadau i ganiatau i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio ym mhob etholiad o hyn ymlaen – gan ddechrau mor fuan ag etholiad cyffredinol 2015.

Mae’r arweinydd Llafur Ed Miliband hefyd bellach wedi awgrymu y byddai’n cefnogi ymestyn y bleidlais, ac mae pleidiau eraill fel Plaid Cymru wedi cefnogi polisi o’r fath ers sbel.

Ond er bod rhai Ceidwadwyr fel yr AC Russell George wedi awgrymu y gallai esiampl yr Alban newid ei feddwl yntau ar roi’r bleidlais i bobl 16 oed, dyw David Cameron ddim wedi datgan cefnogaeth i’r syniad hyd yn hyn.



O blaid ac yn erbyn

Yn ôl Kirsty Williams ac eraill, mae’r ffaith fod pobl ifanc yr oed yna eisoes yn medru gadael yr ysgol a thalu trethi yn golygu’u bod nhw’n ddigon hen i wneud penderfyniadau dros eu hunain.

Fe ddangosodd yr ymgyrch refferendwm yn yr Alban bod modd magu brwdfrydedd ymysg pobl ifanc ynglŷn â gwleidyddiaeth.

Ac wrth gwrs, mae llawer o benderfyniadau’r llywodraeth yn debygol o effeithio ar bobl o’r oed yma, gan gynnwys polisi addysg a ffioedd dysgu prifysgolion – pam ddim rhoi’r hawl iddyn nhw bleidleisio ar y materion yma hefyd?

Ar y llaw arall mae rhai’n dal i ystyried fod 16 oed yn rhy ifanc i fwrw pleidlais, am nad ydyn nhw wedi aeddfedu’n llawn ac o bosib yn debygol o wneud penderfyniadau gwleidyddol heb ddeall y materion yn llawn.

Yn ôl deddfau’r wlad nid yw pobl 16 ac 17 oed yn cael eu hystyried yn oedolion eto, ac mae llawer o bethau megis gyrru, ac yfed, nad ydyn nhw’n cael gwneud nes eu bod nhw dros 16.

Mae rhai hefyd yn cyfeirio at ffigyrau sydd yn dangos fod pobl ifanc dros 18 yn llawer llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn, arwydd nad ydyn nhw ar y cyfan yn malio [poeni, pryderu am] rhyw lawer am wleidyddiaeth – beth fyddai’r pwynt felly gadael i bobl hyd yn oed yn ieuengach bleidleisio?

Ac a fyddai pobl ifanc yn rhy debygol o gael eu dylanwadu gan eraill wrth bleidleisio yn hytrach na phenderfynu dros eu hunain – gan rieni, ffrindiau, neu hyd yn oed selebs?

Beth yw’ch barn chi? A ydych chi’n credu’i bod hi’n bryd gadael i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio? Neu a oes rhesymau da pam bod yn rhaid i chi fod dros 18 i wneud hynny?

No comments:

Post a Comment