Mae Amser i Newid Cymru ac S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth, fydd
yn arwain at wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Mai 12 – 18. Pwrpas
yr wythnos yw i annog pobl i siarad ynghylch iechyd meddwl, a chodi
ymwybyddiaeth o’r salwch, pwnc sydd yn dal i fod yn dabŵ yng Nghymru.
Mi fydd S4C yn darlledu nifer o raglenni sy’n trafod iechyd meddwl
dros yr wythnos, gan gynnwys rhaglen ddogfen Cysgod Rhyfel sy’n sôn am
brofiadau cyn-filwyr sydd wedi dioddef o straen yn dilyn eu profiadau
mewn rhyfeloedd (PTSD). Darlledir rhaglen hefyd sy’n olrhain stori Owain
Gwynedd, sy’n adnabyddus fel un o gyflwynwyr Stwnsh a chyflwynydd
chwaraeon yn Iselder: Un Cam ar y Tro, wrth iddo drafod iselder ac
hunan-laddiad ei dad yn gyhoeddus am y tro cyntaf.
Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:
“Mae’r bartneriaeth yma gyda S4C yn gyfle cyffrous i herio’r stigma
sy’n gysylltiedig â salwch meddwl. Maen gyfle i ni ddangos i bobl Cymru
fod gwneud pethau bach fel mynd am baned neu ofyn ‘sut wyt ti’n teimlo?’
yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n delio â phroblem iechyd
meddwl - does dim rhaid bod yn arbenigwr i fod yn ffrind. “
Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C
“Dyma gyfres o raglenni sy'n galluogi’r gynulleidfa i rannu profiadau
nifer o bobl sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl, ac i wybod am
yr effeithiau ar eu teuluoedd hefyd. Yn aml mae hyn yn digwydd tu nôl i
ddrysau, ac mae rhannu profiadau yn gymorth i rai sy’n dioddef ac yn
fodd i ni’r gynulleidfa i ddysgu a gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei
wynebu hefyd. Fel darlledwr rydym yn falch fod y rhaglenni hyn yn medru
cyfrannu tuag at weithgareddau wythnos iechyd meddwl.”
Gall pawb wneud rhywbeth i fod yn rhan o’r wythnos drwy ddechrau
siarad am iechyd meddwl o fewn eu teuluoedd neu yn y gweithle. Mae yna
awgrymiadau defnyddiol ar wefan Amser i Newid Cymru i’ch helpu i
ddechrau sgwrs. Mi allwch hefyd ddangos eich cefnogaeth drwy chwilio am
Amser i Newid Cymru ar y we ac ar Facebook a Twitter i ymuno â’r sgwrs
ar-lein.”
Bydd Amser i Newid Cymru yn gweithio gyda S4C i hyrwyddo’r wythnos ac
yn hysbysebu ar y sianel, yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau
cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth, rhannu straeon pobl sydd yn byw gyda
phroblemau iechyd meddwl ac i ddechrau sgwrs.
1 o bob 4
Nos Fercher 14 Mai 9.30, S4C
Iselder : Un Cam ar y Tro
Nos Iau 15 Mai 9.30, S4C
Cysgod Rhyfel
Nos Sul 18 Mai 9:00, S4C
Newyddion 9
Nos Lun i Nos Wener 12-16 Mai, S4C
Lois
Nos Sul, 18 Mai 10:00, S4C
No comments:
Post a Comment