Mae hi'n berffaith wir
Fy mod i'n dy garu di.
Saith o'r gloch
Yn disgwyl am dy wyneb di.
Fel disgwyl am ryw
Blentyn agos atat ti.
Agos ata i, ata i.
Pan oeddwn i yn cael aros yn dy dŷ
A chwarae gyda'r syniad
O'r wawr yn deffro drosom ni, drosom ni.
Na, fasen nhw ddim wedi gallu galw neb i'n dal ni.
Llithro dros y ffin o gynhesrwydd
Pob eiliad
O olwg d'wyneb di
Yn gwneud y symud
Mor rhwydd
No comments:
Post a Comment