Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 21 January 2014

Plygu glin i'r Cwîn?

1.MBE Efa'r Urdd

Ni ddylai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru fod wedi derbyn anrhydedd gan y Frenhines Lloegr, yn ôl pôl piniwn o ddarllenwyr golwg360.





Roedd 81% o bleidleiswyr o’r farn na ddylai Efa Gruffudd Jones fod wedi derbyn yr MBE a gafodd hi yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, tra bod 13% o blaid ei phenderfyniad, a 6% ddim yn siŵr.
Fe gafodd y pôl piniwn ei sefydlu yn dilyn ymateb cryf i’r stori ar golwg360 ar ddechrau’r wythnos a oedd yn sôn am y Cymry gafodd eu hanrhydeddu, gan gynnwys y gantores Katherine Jenkins, yr actores Ruth Jones a Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler.

anrhydedd - urddas, bri, "honour"

2. O "Blog Menai"

Mi geisiwn ni wneud hyn mewn ffordd - ahem - mor addfwyn â phosibl.  Roedd Efa Gruffudd Jones yn anghywir i dderbyn MBE gan y sefydliad Prydeinig.  Wna i ddim dadlau nad oedd ganddi hi hawl i dderbyn yr 'anhrydedd' na bod rhywbeth yn anfoesol am ei dderbyn, na'i bod yn bradychu unrhyw beth - materion goddrychol ydi'r rheini - efallai bod agweddau gwleidyddol gwaelodol Ms Jones yn wahanol i fy rhai fi, ac mae ganddi cymaint o hawl i'w barn wleidyddol a sydd gen i.  Mi wna i ddadlau serch hynny bod yr hyn a wnaeth - ag ystyried ei gwaith a'r rhesymau pam y cafodd yr 'anhrydedd' - yn rhyfeddol o ansensitif.

addfwyn - tyner a mwyn
sefydliad - establishment
goddrychol - ymateb y synhwyrau a'r teimladau i rywbeth (subjective)
gwaelodol - basic


Mae'r llwyth yma o mymbo jymbo cyntefig yn cael ei ystyried yn normalrwydd gwrthrychol gan y cyfryngau torfol a dyna pam bod y BBC Cymru, y Western Mail ac ati yn ffrwydro mewn llawenydd ecstatig pan mae yna benblwydd neu enedigaeth brenhinol.  Maen nhw'n credu eu straeon tylwyth teg eu hunain, ac yn cymryd yn ganiataol bod pawb arall yn eu credu nhw hefyd.  Neu o leiaf does ganddyn nhw ddim mymryn o ots am ddaliadau y sawl nad ydynt yn eu credu - caiff rheiny eu hanwybyddu yn llwyr.

cyntefig - yn perthyn i gyfnod cynnar (primitive)
gwrthrychol - objective
cyfryngau torfol - mass media
daliad - barn

Mae yna draddodiad Chwith gwrth sefydliadol yng Nghymru. Ond mae yna draddodiad rhyddfrydig Gymreig gwrth sefydliadol yn bodoli hefyd - a'r Mudiad Cenedlaethol ydi etifedd y traddodiad hwnnw y dwthwn hwn.

rhyddfrydig - liberal
dwthwn - amser neu gyfnod arbennig

Dydi'r Bib a'r cyfryngau yn ehangach ddim yn trafferthu cydnabod bodolaeth y traddodiad amgen hwn wrth gwrs - mae digwyddiadau Prydeinig / Brenhinol yn cael eu trin fel pe na bai unrhyw anghytundeb o gwbl ynglyn a'u priodoldeb.  Mi'r ydan ni'n disgwyl hynny - sefydiadau Prydeinig ydyn nhw wedi'r cwbl.  Ond dydan ni ddim yn disgwyl i'r Urdd geisio ein sgubo ni o dan y carped.  Mae penderfyniad Ms Jones yn creu'r argraff nad ydi'r Urdd yn deall bod yna draddodiad gwleidyddol ac ideolegol gwahanol yng Nghymru, neu o leiaf bod yr Urdd yn derbyn ei fod yn draddodiad y gellir ei anwybyddu - yn union fel y BBC.  Mae'n rhoi'r argraff ei bod yn gweld yr ideoleg sy'n rhoi bodolaeth iddi hi ei hun yn israddol.

priodoldeb - propriety
israddol - inferior


3. Blog Ifan Morgan Jones


Rhaid cyfaddef fy mod i wedi fy siomi braidd gan barodrwydd ambell un o hoelion wyth ein diwylliant i fynd i Loegr i gwrdd â’r Frenhines. O fewn y pythefnos diwethaf cafwyd wybod bod yr Archdderwydd Christine James wedi bod draw i Balas Buckingham, a heddiw clywyd bod Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones wedi derbyn MBE.

hoelion wyth - pobl bwysig 
Does gen i ddim unrhyw fath o gasineb personol tuag at unrhyw aelod o’r Teulu Brenhinol. Maen nhw’n gwneud swyddogaeth digon diflas yn fy marn i, yn enwedig y Frenhines a ddylai fod wedi cael ymddeol degawdau yn ôl. 
Serch hynny rydw i’r credu bod Teulu Brenhinol bellach yn anacroniaeth ac wedi ei ddarostwng yn ddim mwy nag arf PR er mwyn hybu buddiannau’r rheini sydd am reoli ein cymdeithas. Mae gan 'bennaeth ein gwladwriaeth' lai o rym na bron i bawb arall yn y wlad - mae'n cael ei thywys o le i le i ysgwyd llaw â hwn a'r llall. Nid yw ei Hymerodraeth Prydaeinig bellach yn bodoli, ac roedd yn beth digon atgas tra’r oedd yn bod, felly wela i ddim pam y byddai unrhyw un yn teimlo bod cael bod yn aelod ohono yn anrhydedd.

darostwng - tynnu i lawr
buddiannau - interests
tywys - arwain
atgas - detestable, disgusting 
Roedd trydariad gan Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, yn crynhoi teimladau nifer ar y pwnc:
“Methu credu fod menyw ddawnus, ifanc Gymreig yn meddwl fod yna werth bod yn Member of the British Empire yn 2014.”

 Mae Christine James wedi ceisio wfftio’r feirniadaeth am ei hymweliad hithau â Phalas Buckingham drwy ddweud:

wfftio - dismiss, pooh-pooh

“Yn bersonol doeddwn i ddim yn gweld problem gyda’r peth. Hynny yw, roeddwn i’n gweld e’n wahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth – tasen ni wedi cael gwahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth Ffrainc, neu beth bynnag, bydden ni wedi bod yn falch iawn o fynd â’r gore o farddoniaeth Gymraeg yno.”

Alla i ddim credu ei bod hi wir wedi meddwl bod derbyn gwahoddiad gan Frenhines Lloegr yr un fath a mynd i weld Arlywydd Ffrainc. Mae’r ddwy yma yn nabod Cymru yn ddigon da i wybod y byddai plygu glin i’r Cwîn yn ennyn y fath ymateb, ond wedi penderfynu gwneud hynny beth bynnag. Pam felly?

ennyn - cynnau, cychwyn tân 
Ond dydw i ddim yn gweld ryw lawer o gyfiawnhad o gwbl am ymweliad yr Archdderwydd â Phalas Buckingham. Dywedodd Christine James mai’r bwriad oedd “dathlu’r ffaith bod barddoniaeth fel cyfrwng yn ffynnu ym Mhrydain ar hyn o bryd”. Wrth gwrs fe ddigwyddodd y dathliad hwn ar 19 Tachwedd ac ni chafodd y byd wybod nes 20 Rhagfyr. Os mai tynnu sylw at gryfder barddoniaeth Brydeinig oedd y nod, pam cadw’r peth dan eich het archdderwyddol am fis cyfan?

cyfiawnhad - justification

Yr unig esboniad alla i feddwl amdano yw eu bod nhw ill dwy wedi gwirioni at gael eu gwahodd i gwrdd â’r Frenhines, ac wedi derbyn er gwaethaf yr ymateb anochel! Ond hoffwn i gael gwybod os oes esboniad arall am y peth - wedi'r cwbl dydyn ni heb glywed ochr Efa Gruffudd Jones o'r stori o gwbl.

gwirioni - syrthio mewn cariad â rhywun neu rywbeth nes colli pob synnwyr cyffredin
syrthio mewn cariad â rhywun neu rywbeth nes colli pob synnwyr cyffredin

Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.
anochel - heb fod modd ei osgoi

No comments:

Post a Comment