Erthygl wreiddiol ar wefan Amgueddfa Cymru yma.
Bore'r Nadolig
Mewn amryw rannau o Gymru, golygai'r Nadolig godi'n gynnar (neu aros i fyny dros nos) i fynd i'r gwasanaeth plygain yn eglwys y plwyf. Ymddengys i awr gychwyn y plygain amrywio rhwng tri a chwech y bore, a'r olaf o'r rhain yn dod yn fwy cyffredin gyda threigl amser.I aros y gwasanaeth byddai pobl ifanc, yn enwedig, yn ceisio llenwi'r oriau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mewn ambell ardal gefn gwlad doent ynghyd mewn rhai ffermdai ar gyfer gwneud cyflaith {toffee} a threulio'r noson yn llawen, gan addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd, fel ym Marford, sir Fflint, yn y 1830au. Yn ôl dyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai trigolion Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.
Canhwyllau Plygain
Yng nghefn gwlad mynychid plygain eglwys y plwyf gan bobl y ffermydd mwyaf anghysbell, hyd yn oed. Yn aml deuai pob unigolyn â'i gannwyll i gynorthwyo i oleuo'r eglwys - hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anghyffredin oedd cynnal gwasanaethau nos, fel nad oedd unrhyw ddarpariaeth oleuo, fel arfer. Yr oedd y goleuni llachar a roddai canhwyllau'r plygeinwyr yn nodwedd bwysig ar yr wyl.Er yn ddiau i'r arfer amrywio ychydig o blwyf i blwyf, ymddengys i oleuni llachar yr eglwys wneud argraff barhaol ar gof y rhai a adawodd inni ddisgrifiadau, ac iddo fod yn nodwedd drawiadol ar y plygain traddodiadol. Fel yr awgrymodd Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn arwyddocad ysbrydol goleuo canhwyllau ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni'r Byd.
Goroesiad cyn-Ddiwygiad
O'i weld yn ei gefndir hanesyddol, goroesiad yw'r plygain o wasanaeth Nadolig cyn-Ddiwygiad a addaswyd i ateb yr amgylchiadau Protestannaidd newydd. Dengys Richards fod 'plygain' yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn dynodi gwasanaeth boreol cyffredin ac mai'n ddiweddarach yn unig y'i cyfyngwyd i gyfeirio at y gwasanaeth bore Nadolig. Awgryma i'r plygain ddisodli offeren ganol-nos Nadolig y cyfnod Pabyddol ac iddo gysylltu'n wreiddiol â gwasanaeth cymun a gynhelid yn ddiweddarach ar fore Nadolig. O leoli'r gwasanaeth cymun am wyth o'r gloch diweddwyd yr hen berthynas rhwng y plygain (boreol) am chwech, saith neu wyth o'r gloch a'r Uchel-Offeren am naw neu ddeg o'r gloch.Wedi'r Diwygiad, lle nas cynhwyswyd yng ngwasanaeth Nadolig Lladin yr eglwys, derbyniwyd canu carolau yn yr iaith lafar i wasanaeth bore-bach y Nadolig, a daeth yn atyniad pennaf y plygain, fel y dengys disgrifiadau'r ganrif o'r blaen yn eglur. Tynnodd John Fisher sylw at y tebygrwydd rhwng Oiel Verrey, a geid ar Ynys Manaw am ddeuddeg ar Noswyl Nadolig, a'r plygain yng Nghymru. Dengys i'r ddau wasanaeth ennill poblogrwydd fel gwyliau canu carolau yn fuan wedi cyfieithu'r Beibl i'r ddwy iaith frodorol.
Yn lle diflannu o dan ddylanwad Anghydffurfiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu'r plygain yn un o'r ychydig wyliau eglwysig traddodiadol nas gollyngwyd gan y capeli, er newid cymeriad y gwasanaeth weithiau, drwy ei wneud yn amrywiad ar y cwrdd gweddi cyffredin a geid ar nosau gwaith. Fel arfer cyffredinol, darfu plygain boreol y Nadolig tua diwedd y ganrif ddiwethaf, er iddo barhau'n ddiweddarach mewn ambell achos.
No comments:
Post a Comment