Anerchiad i Rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Bore da Gyfeillion.
Dw i wedi dod â llythyr agored at Mr Huw Lewis, Gweinidog Addysg sydd hefyd yn
gyfrifol am Gymraeg i Oedolion.
Os ŷch chi’n meddwl am Gymraeg i Oedolion, mae’n debyg byddwch chi’n meddwl am
rywbeth tebyg i’r Ddau Ffrank – pobl od sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg fel hobi
– ond nid hobi yw e.
Y gwir amdani yw
bod pob math o bobl yn gweithio'n galed iawn am flynddoedd mawr i wella eu
sgiliau Cymraeg nhw.
Dyma i chi rai
enghreifftiau, Mr Lewis.
Mae Andrea’n
gweithio fel therapydd lleferydd ac iaith, ac mae’r rhan fwya o’i chleifion
wedi cael strôc. Doedd dim lot fawr o Gymraeg ‘dag Andrea ar y dechrau, ond mae
hi’n cofio dweud “Bore da, sut ŷch chi heddi Mrs Williams” i fenyw oedd wedi
cael strôc mewn pentre yng ngogledd Sir Benfro. Dyna oedd y tro cynta wnaeth
Andrea siarad Cymraeg tu fa’s i’r dosbarth. Llefain wnaeth Mrs Williams wrth
glywed y geiriau bach ‘na. Anghofith Andrea byth y profiad 'ma.
Erbyn hyn, mae
Andrea’n hollol rugl.
Mae Helen yn
gweithio mewn cartref gofal gyda chanran uchel o bobl sy’n diodde o Alzheimers
a demensia. Mae Helen yn deall pa mor bwysig yw gallu siarad â nhw yn eu hiaith
eu hunain.
Mae Kirsty yn
gweithio fel bydwraig, ac mae Rachel a Claire yn gweithio mewn ysgolion – maen
nhw i gyd eisiau croesi’r bont a byw yn Gymraeg.
Ife hobi yw
Cymraeg i Oedolion 'te?
Diolch i’w
dosbarthiadau Cymraeg, mi gaeth Sam waith mewn caffi lle mae’r rhan fwya o’r
cwsmeriaid yn siarad Cymraeg.
Mae Gareth yn
rhedeg busnes bach yng Nghrymych. Weldiwr yw e, ac erbyn hyn mae’n swnio fel
Cardi go iawn. Ma’ fe mor falch o’r ffaith fod e’n gallu helpu ei blant a
siarad â’i gwsmeriaid yn Gymraeg. Mae Gareth wedi cymathu a dod yn rhan o’i
gymuned.
Mae ‘na ganoedd
o rieni sy’n dysgu er mwyn helpu eu plant yn yr ysgol efo darllen, sgwennu a’r
gwaith cartref.
Ife hobi yw
dysgu Cymraeg iddyn nhw?
Mae cant a mil o
Gymry sydd â chryn dipyn o Gymraeg o dan yr wyneb. Saesneg oedd iaith yr aelwyd
i’r rhan fwya, ond yn aml iawn diffyg hyder yw’r broblem fwyaf. Dw i’n cofio
Jeff sy’n gweithio fel plismon. Un o Lanelli yw e gydag acen hyfryd Tre’r Sosban.
Ar unwaith ar ôl ‘chydig o wersi dechreuodd Jeff siarad Cymraeg fel pwll y môr.
Dim ond sbardun bach gaeth e.
Ie, mae cant a
mil o bobl fel ‘na, ond yn ôl y Cyfrifiad dyn nhw ddim yn cyfri.
Mae pob un o’r
dysgwyr ‘ma yn deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, ac maen nhw i gyd eisiau dod
yn siaradwyr Cymraeg. “W i moyn bod yn gobby
yn Gymraeg” meddai rhywun wrtha i yn ddiweddar, a phob lwc iddi.
Tra bod Gwlad y
Basg yn gwario £38 miliwn ar Fasgeg i Oedolion bob blwyddyn, mae Cymru yn
gwario ond £12.6 miliwn ar Gymraeg i Oedolion, ac mae rhaglen Gwlad y Basg yn
fwy uchelgeisiol o lawer.
Yn lle buddsoddi
yn nyfodol iaith ein cymunedau, mae Mr Lewis wedi penderfynu gwneud toriadau o
8% i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion flwyddyn nesa.
Dyma i chi
ymateb ein llywodraeth ni i’r argyfwng sy’n wynebu’r iaith Gymraeg.
Pam bo' chi’n
cloi pobol ma’s, Mr Lewis? Pam bo' chi’n neud hyn?
Pam?
No comments:
Post a Comment