Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 5 November 2013

Guto Ffowc

Yr oedd Guido "Guy" Fawkes, neu Guto Ffowc yn Gymraeg, (13 Ebrill 1570 – 31 Ionawr 1606), yn aelod o grŵp o Gatholigion Rhufeinig Seisnig a geisiodd gyflawni Cynllwyn y Powdr Gwn (neu'r 'Cynllwyn Pabaidd'), ymgais i chwythu i fyny Senedd Lloegr a lladd y brenin Iago I o Loegr, a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth Brotestannaidd trwy ladd y pendefigion Protestannaidd, ar 5 Tachwedd 1605, digwyddiad a goffeir ar Noson Guto Ffowc. Aflwyddiannus fu'r cynllwyn.

Ganed Guto yn Efrog, a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin Sbaen. Cyflwynwyd ef i Robert Catesby, arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro Hugh Owen. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei arteithio, ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddienyddio tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf Eidaleg Guido, sy'n rhoi Guto yn Gymraeg.

Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda Guto - dymi wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowc. Ar y noson honno rhoddid y Guto ar ben y goelcerth a'i losgi.

[Erthgyl o Wicipedia]

cynllwyn - plot, conspiracy
pendefigion - aristocracy
arteithio - torture
teyrnfradwriaeth - high treason
dienyddio - execute
coelcerth - bonfire

No comments:

Post a Comment