JONES , RICHARD ROBERT (‘ Dic Aberdaron ’; 1780 - 1843 ) ; brodor o blwyf Aberdaron , ac o bosibl o bentref Aberdaron . Saer coed a saer cychod oedd ei dad, ond ni fu llawer o lwyddiant ar ymdrech y mab i fwrw'i brentisiaeth gydag ef. Daeth yn adnabyddus oherwydd dwy nodwedd arbennig yn ei gymeriad, sef ei fedr eithriadol i ddysgu ieithoedd , a'i aflerwch [annibendod, untidiness] yn ei wisg a'i arferion.
Cariai nifer helaeth [mawr, eang, extensive] o lyfrau o'i gwmpas ym mhlygion ei ddillad, a bu rhaid arno droeon, o brinder bwyd a dillad, werthu rhai ohonynt a'u prynu yn ôl drachefn [eto] . Nid oedd ganddo unrhyw dro at lenyddiaeth, a gallai ddarllen llyfrau cyfain [cyfan - lluosog] heb wybod odid [go brin, mae'n annhebyg, scarcely] ddim am eu cynnwys. Bu o 1831 hyd 1832 yn gweithio ar ei eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg , ac wedyn yn ceisio casglu enwau tanysgrifwyr er mwyn ei gyhoeddi, ond methiant fu. Bu f. yn Llanelwy 18 Rhagfyr 1843 a chladdwyd ef yno; y mae englyn ar garreg ei fedd gan Ellis Owen , Cefnymeysydd .
_______________________________________
PRICE , WILLIAM ( 1800 - 1893 ), ‘dyn od’ a hyrwyddwr [rhywun sy'n hyrwyddo rhywbeth] corff-losgiad ; g. 4 Mawrth 1800 yn Ty'nycoedcae , plwyf Rhydri , sir Fynwy , trydydd mab y Parch. William Price a Mary ei wraig. Bu mewn ysgol ym Machen ac wedyn yn ddisgybl i Evan Edwards , meddyg , Caerffili . Aeth i'r Royal College of Surgeons yn 1820 a phasio'n feddyg y flwyddyn ddilynol. Bu'n dilyn yr alwedigaeth honno yn Nantgarw , Trefforest , a Pontypridd , gan ddyfod [dod] yn bur [yn weddol] enwog fel meddyg ac fel llawfeddyg . Ystyriai ei hun yn archdderwydd ac arferai ddefodau [rites, ceremonies] hynafol ar y Garreg Siglo ar gomin Pontypridd . Gwisgai yn od — hugan [cloak] wen, a than honno wasgod ysgarlad a llodrau [breeches, trousers] gwyrdd; am ei ben gwisgai glamp [giant, whopper] o groen llwynog. Dywedir ei fod yn credu mewn ‘cariad rhydd’ ac yn gweithredu yn ôl y gred honno; yr oedd yn credu y dylid llosgi ac nid claddu'r meirw ; bwytâi lysiau — nid cig; yr oedd yn gwbl wrthwynebus i fuchfrechiad [vaccination] a bywdrychiad [vivisection] ; yr oedd yn diystyru crefydd uniongred [orthodox] ; dirmygai [despise, spurn] gyfraith y wlad a'r rhai a weinyddai'r gyfraith honno ; yr oedd hefyd yn un o arweinwyr y Siartwyr . Wedi i Siartwyr fyned [myned - mynd] yn llu i Gasnewydd-ar-Wysg yn 1839 ffoes [ffoi] Price i Ffrainc wedi ei wisgo fel benyw, ac yno daeth i adnabod Heine [bardd almaeneg] . Bu'n cymryd rhan mewn llawer o ymgyfreithio [litigation]; yn y llysoedd arferai gyfeirio at ei ferch, a alwai yn ‘ Iarlles Morgannwg ,’ [Iarlles - Countess] fel ‘my learned counsel.’ Cyhuddwyd ef ym mrawdlys [assizes] Caerdydd , 1884 , gerbron y barnwr Stephens , o geisio llosgi corff marw ei fab , ‘ Iesu Grist .’ Canlyniad y prawf nodedig hwn oedd dyfarnu bod corff-losgiad yn gyfreithiol. Pan oedd yn 83 mlwydd oed cymerth [cymerodd] ferch o'r enw Gwenllian Llewelyn yn ‘gydymaith’ [companion] iddo'i hun — daeth hi yn fam ‘ Iesu Grist yr Ail ’ a Penelope . Bu f. 23 Ionawr 1893 yn Llantrisant a llosgwyd ei gorff yn unol â chyfarwyddiadau manwl a phendant a adawsai [gadael].
No comments:
Post a Comment