Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 21 October 2013

Undodiaeth

Athrawiaeth Gristnogol Brotestannaidd yw Undodiaeth neu Sosiniaeth: gelwir y rhai sy'n ei harddel yn Undodiaid. Ceir sawl enwad neu eglwys Undodaidd, yn bennaf yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau, ond roedd llawer o'r Undodiaid cynnar heb berthyn i enwad Undodaidd ond yn hytrach yn arddel y ddysgeidiaeth, neu rannau ohoni. Gelwir Undodiaeth yn Sosiniaeth weithiau am fod y diwinydd Sosin (Socinus, 1525-1562) wedi gosod sylfeini Undodiaeth.

[athrawiaeth - doctrine, teaching - hefyd, dysgeidiaeth]
[arddel - yma: profess]
[enwad - denomination]
[diwinydd - theologian]

Nid yw'r Undodiaid yn credu yn y Drindod sanctaidd sef y Tad, Y Mab a'r Ysbryd Glân (athrawiaeth a geir yn Ariaeth hefyd). Yn hytrach credant mai dyn da oedd Iesu Grist, gan wrthod credu yn ei dduwdod. Credant yn ogystal nad oes pechod gwreiddiol ac mae rheswm dyn yn unig sydd i esbonio'r Beibl.
Credoau ynghylch Crist newid o amser John Biddle, at amser Joseph Priestley.

[Ariaeth - Arianism]
[duwdod - divinity]
[credo - creed, belief]

 

Cymru

Yng Nghymru, roedd yr Undodiaid yn gryf yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Llandysul yn ardal Dyffryn Teifi yng Ngheredigion ac o ganlyniad fe alwyd yr ardal yn 'Sbotyn Du'. Er bychaned eu nifer, cawsant ddylanwad sylweddol ar wleidyddiaeth a diwylliant y wlad ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif.
Mae Christadelphianiaid heddiw dal i ddilyn syniadau o Socinus ynglyn â Christ.

[Er bychaned eu nifer - although small in number]

Undodiaid Enwog

  •   EVANS , THOMAS (‘ Tomos Glyn Cothi ’; 1764 - 1833 ), gweinidog Undodaidd ; g. yn Capel Sant Silyn , Gwernogle , sir Gaerfyrddin , 20 Mehefin 1764 . Ychydig o fanteision addysg a gafodd ym more oes [in early life]; bu'n was fferm am dymor byr, ac yna dilyn ei alwedigaeth fel gwehydd [weaver] . Arferai fynychu ffeiriau Morgannwg i werthu brethyn , a daeth i gyfathrach [intercourse] â beirdd Morgannwg . Yr oedd yng Ngorsedd Mynydd y Garth , Alban Hefin, 1797 . Newynai [newynu - hunger, starve] am wybodaeth er yn ieuanc, ac fe'i diwylliodd [yma educated] ei hun i fod yn llenor a bardd . Derbyniai roddion o lyfrau Saesneg oddi wrth Theophilus Lindsey yn 1792-6 . Cofleidiodd [embraced]  Undodiaeth mewn ardal lle yr oedd Calfiniaeth yn ei bri. Dechreuodd bregethu ar aelwyd ei hen gartref yn 1786 . Cymaint oedd ei sêl [zeal] dros athrawiaethau Dr. Priestley fel y llysenwid ef yn ‘ Priestley bach .’ Symudodd yn 1811 i ofalu am yr Hen Dŷ Cwrdd , Aberdâr . Yr oedd yn werinwr [gweriniaethwr? republican] a diwygiwr [reformer] eirias [white hot]. Cydymdeimlai â'r chwyldro yn Ffrainc , a hyn, yn ddiau [undoubtedly], a'i dug [led him into] i wrthdrawiad [conflict] ag awdurdodau'r Llywodraeth . Yr oedd yng ngharchar Caerfyrddin ar 19 Ionawr 1803 . Ymhlith y pamffledau, y cyfieithiadau, a'r prif lyfrau a gyhoeddwyd ganddo y mae tri rhifyn o The Miscellaneous Repository neu Y Drysorfa Gymysgedig ; An English-Welsh Dictionary neu Eir-Lyfr Saesneg a Chymraeg ; Cyfansoddiad o Hymnau, etc. ;‘ Y Gell Gymysg ’ mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol . Yr oedd yn wir apostol rhyddid gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol , ac yn arloeswr [pioneer] mudiadau diwygiadol [reforming] yn hanes a meddwl Cymru . Bu f. 29 Ionawr 1833 .
  • Gwilym Marles - Bardd, ysgolhaig a gweinidog Undodaidd oedd Gwilym Marles, neu Gwilym Marlais, enw barddol y Parch. William Thomas (1834 - 11 Rhagfyr 1878). Ewythr tad y bardd Dylan Thomas oedd ef: credir y tynnodd Dylan ar gof ei dad am Wilym Marles yn ei bortread o'r Parchedig Eli Jenkins yn y ddrama Under Milk Wood.
    Roedd yn frodor o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg brifysgol yn Rhydychen. Ef oedd y gweinidog ar eglwys Llwyn Rhydowen adeg y troad allan yn 1876. Roedd yn athro preifat i'r bardd William Thomas (Islwyn) (1832-1878).
    Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol dan y teitl Prydyddiaeth yn 1859. Pruddglwyfus yw ei awen, ond mae ei gydymdeimlad â'r werin a'i athroniaeth Radicalaidd yn amlwg.
  • Iolo Morganwg
[troad allan - eviction][pruddglwyfus - digalon, trist]
[awen - muse]

*Gwybodaeth o Wicipedia a'r Bywgraffiadur Ar-lein

No comments:

Post a Comment