Blog Vaughan Roderick, BBC Cymru
A fu enw llai addas ar gapel na Noddfa, Senghennydd? Yn sicr
doedd na ddim Noddfa i fod i'r 439 o ddynion a bechgyn a laddwyd gan
danchwa yng ngwaith y Universal yn Senghennydd yn Hydref 1913 yn y
ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes Prydain.
[noddfa - lle diogel, lloches, encilfa]
[tanchwa - ffrwydriad dinistriol]
Roedd fy hen daid, Tawelfryn, yn weinidog ar y Groeswen,
capel uwchlaw Senghennydd ar y pryd. Roedd e wedi bod yn weinidog ar
Noddfa, Senghennydd hefyd yn ogystal ag Adulam, Abertridwr - capel
arall wnaeth golli degau o'i aelodau yn y trychineb.
Yn ôl y chwedloniaeth deuluoedd cymerodd Tawelfryn ran mewn
dros gant o angladdau yn y dyddiau a'r wythnosau ar ôl y ddamwain gan
gynnwys yr angladd mwyaf dirdynnol yn hanes Cymru - hwnnw i'r "rheiny
nis gellir eu hadnabod" ym mynwent Eglwysilan.
[dirdynnol - poenus ofnadwy]
[nis gellir eu hadnabod - amhosibl i'w hadnabod]
Dydd Llun cynhelir seremoni yn Senghennydd i nodi'r
canmlwyddiant a thrwy gyd-ddigwyddiad yr wythnos hon fe aeth gwaith
Unity, glofa ddofn olaf Cymru, i ddwylo'r derbynwyr.
[glofa - pwll glo]
Dyw stori'r diwydiant ddim cweit ar ben. Mae gweithfeydd glo
brig yn dal i weithio a gallai Unity neu o ran hynny Aberpergwm ail-agor
ond llai na mil o bobol sy'n gweithio yn niwydiant glo'r de erbyn hyn.
[gweithfeydd glo brig - surface mines]
Ym mlwyddyn ei anterth cynhyrchodd y maes glo 56 miliwn
tunnell o lo a chyflogwyd 232,800 o ddynion. Yn eironig ddigon 1913 oedd
y flwyddyn honno.
[anterth - uchafbwynt]
A dyma ni, canrif yn ddiweddarach. Mae Noddfa ac Adulam wedi
diflannu. 0.1% o boblogaeth Senghennydd ac Abertridwr sy'n gweithio mewn
mwynfeydd a chwareli yn ôl cyfrifiad 2011 a rhan o ardal cymudo
Caerdydd yw'r ddau bentref bellach. Dydyn nhw ddim yn arbennig o dlawd
nac yn arbennig o gyfoethog o gymharu â gweddill Cymru.
[mwynfeydd - pyllau glo]
[cymudo - commute]
Eto i gyd mae'r gymuned hon rhywsut yn crisialu holl
deimladau cymysg pobl y maes glo tuag at y diwydiant. Does neb eisiau'r
pyllau yn ôl ond erys rhyw hiraeth am yr hen frawdgarwch ac edmygedd o'r
rheiny wnaeth aberthu eu hiechyd a'u bywydau er mwyn rhoi bwyd ar
fordydd eu teuluoedd.
[crisialu - crystallize]
[erys - aros 3ydd person presennol]
[edmygedd - teimlad o hoffter a pharch]
Wrth i Carwyn Jones ddadorchuddio cofeb genedlaethol y glowyr
yn Senghennydd ddydd Llun mae'n briodol i ni oedi am eiliad i gofio'r
diwydiant a wnaeth gymaint i greu'r Gymru fodern - ac i ddiolch i'r
nefoedd ei fod yn dirwyn i ben.
[dirwyn - to wind up]
No comments:
Post a Comment