DEIO BACH
Fegais fachgen bach ac annwyl [fegais = fe fegais (o'r berfenw 'magu')]
Ar fy mron mewn trafferth mawr
Deio ti yw’r bachgen hwnnw,
Nas gwn pa le rwyt yn awr
[dw i ddim yn gwybod ble rwyt ti nawr]
Maith yw’r amser er yth gwelais, [er yth gwelais – ers i fi dy weld di]
Fachgen annwyl wyt ti’n iach?
Os nad elli ddyfod trosodd [dyfod = dod]
Danfon lythyr Deio Bach.
Caled yw fy nhamaid bara
Ie caled iawn a phrin
Tra mae ‘mhlentyn mi obeithiaf
Gyda’i fara gwenith gwyn
Tra fod di fy annwyl fachgen
Wrth dy ford heb nych na nam [heb nych na nam = heb eisiau
unrhywbeth]
Os nad ydyw’n ormod gofyn
Cofia damaid gwael dy fam.
Os nad ydyw’n ormod gofyn,
Os nad elli fy helpio ddim
Meiddiaf ofyn un peth iti [meiddio = to dare]
‘falle rho di hwnnw im [im = i mi]
Carreg fedd nid wy’n ei gofyn
Gormod hyn gan hiraeth iach
Dyro ddeigryn wrth fy nghofio [dyro = rho]
Dim ond deigryn Deio Bach.
Hyfryd. Sentimental a Fictorianaidd ond yn denu deigryn bob tro.
ReplyDeleteOnd .. 'rwy'n meddwl mai rhywbeth fel hyn yw llinell gynta'r benill olaf: "Os na elli ddyfod drosodd".
Mae fersiynau eraill gan Linda Healey (Plethyn) a Sian James.