Corsydd
Teifi: 9 Tachwedd 2013: 10:30-12:30
Crynodeb
Man
Cychwyn: lefel uchaf y prif faes parcio, Gwarchodfa Fywyd Gwyllt, Cilgerran
SN 185 448 (dilynwch yr arwyddion brown o Aberteifi); dim angen talu. Taith o 2.75 milltir (gyda dewis o’i
chwtogi) heb adael y Warchodfa (rhyw 250 erw) ar dir gwastad a llwybrau
cadarn. Doedd y Warchodfa ddim yn dir gwyllt erioed; roedd chwareli llechi
arni am gyfnod hir, bu rheilffordd ‘y Cardi Bach’ yn rhedeg ar ei thraws
rhwng 1885 a 1962, wrth gysylltu Aberteifi â Hendy Gwyn, ac yn ddiweddar fe
fu sŵ
yma.
O
amgylch Canolfan y Warchodfa
Rydyn
ni’n dechrau wrth ddringo’r bryn bach y tu ôl i’r adeilad (sy wedi ennill gwobr bensaernïol) lle cawn olygfa arbennig o’r Warchodfa,
Aberteifi a Banc y Warren ( a aeth Pwyll i Annwn oddi yno?). Dyma’r lle mae perfformiadau o ddramâu yn yr awyr agored yn cael eu cynnal yn yr
haf a lle’r oedd dwrgi anferth a blethwyd o goed helyg yn arfer sefyll.
Wrth yr Afon
Dyma
safle’r hen chwareli llechi Fforest a gaewyd yn y 1880au cyn i’r rheilfffordd
ddod. Fe awn i mewn i fynedfa un ohonynt, ‘Carnarvon’. Roedd y llechi yn cael
eu cludo i lawr i’r afon ar gychod i Aberteifi. Oherwydd nad oedd y llechfaen
o’r ansawdd gorau, doedd y diwydiant ddim yn llwyddiannus iawn hyd yn oed pan
oedd ar ei anterth. Ac i waelod yr
afon roedd gwastraff sylweddol y chwareli yn arfer mynd gan rwystro llif yr
afon. O ganlyniad nid yw’r llanw, a oedd yn arfer cyrraedd Llechryd, yn mynd
y tu hwnt i Gilgerran bellach, ac mae sianel yr aber yn gallu cael ei thagu gan dywod
yn hawdd iawn gan greu problemau i
longau. Awn ni wedyn ar y llwybr tuag at Gilgerran am sbel – dyna oedd yr unig
ffordd o gyrraedd y chwareli dros y tir cyn y rheiffordd am ei fod mor gorsiog.
Cors
Pentŵd
Cerddwn ar fyrddau pren trwy’r rhan wylltaf o’r
Warchodfa, heibio’r cuddfan a godwyd yn yr un modd â thai ‘eco’ yn yr ardal,
megis sawl un ym Mhrithdir Mawr lle roedden ni yn y gwanwyn. Gwelwn ni dŵr a sylfeini nyth enfawr arni; y syniad yw denu gwalch
y pysgod ar eu ffordd i’r gogledd iddi i fagu cywion; y mae’r fath gynllun wedi
llwydo ger Afon Dyfi ond cafwyd ddim hwyl arni eleni. Fe fu byfflos y dŵr yma trwy’r haf yn pori’r gors gan greu mwy o
ddŵr agored i adar fel yr
hwyaid; mae’r byfflos yn greaduriaid didaro er gwaethaf yr olwg ffyrnig arnynt.
Rydyn ni ar hen gwrs yr Afon Teifi cyn iddi newid ei chwrs ar ddiwedd Oes yr Iâ
a chreu Ceunant Cilgerran.
Rheilffordd
y Cardi Bach
Geirfa i Ddysgwyr
|
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Monday 21 October 2013
Cerddwyr Cylch Teifi - Corsydd Teifi
Labels:
cerdded
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment