Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 17 July 2013

Llenyddiaeth Gymraeg yn taro'r gwaelod

Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Dewi Prysor, Manon Rhys - maent i gyd yn euog o lygru eu darllenwyr yn ôl Emlyn Evans, golygydd cyntaf Barn sy’n dweud ei ddweud am safon a ieithwedd ffuglen Gymraeg ddiweddar.

[Erthygl o'r cylchgrawn Barn]

Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth sydd yn wirioneddol gas gennyf, sef collfarnu llenyddiaeth fy ngwlad a’m iaith fy hun. Ond dyna sydd raid.

Ers rhai blynyddoedd, cedwais lygaid ar ffuglen Gymraeg, a’r gwir yw fy mod yn wastad yn mynd yn fwy pryderus – a thrist – yn ei chylch, o ran y cyfrwng a’r cynnwys. Cwbl atgas gennyf yw rhegi, ar lafar ac mewn print – yn neilltuol gan ferched. A merched yw awduron y rhan fwyaf o nofelau Cymraeg y cyfnod hwn. Dywedaf yn blaen fod amryw byd o’r cyfrolau a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd diweddar yn dwyn mawr warth ar ein cenedl. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o ‘straeon erotig’, Tinboeth a Tinboethach, y naill o ddeg stori a’r llall o ddwsin, a 21 o awduron rhyngddynt – un gwryw (sylwer) ac ugain o fenywod, ac y mae’r ieithwedd, yn gyffredinol, yn ddirmygus. Cafodd y ddau lyfr gefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Y mae gwaeth i ddod, ac enwaf rai o’r cyfrolau y bûm yn pori ynddynt. Clywyd ar Radio Cymru mai Caryl Lewis yw ‘Hoff Awdur y Cymry’. Hawyr bach! Ei chyfrol gyntaf hi oedd Dal Hi, gwaith sydd yn llawn o regfeydd o bob math, gan ddechrau yn llinell gyntaf un y stori. Yna’r ddwy nofel gan Menna Medi, Hogan Horni a Hogan Horni isio mwy: rhegfeydd yn y naill a’r llall, a’r ddwy wedi derbyn cymhorthdal gan y Cyngor Llyfrau. Rhaid enwi tair o gyfrolau Bethan Gwanas: Hi yw fy Ffrind, Llinyn Trôns a Gwrach y Gwyllt – iaith salw a gwrthun fel a geir mewn nifer o’r llyfrau a ddarllenais. Ar gefn amryw ohonynt cawn eiriau o rybudd, fel ‘Anaddas i blant’ a ‘Llawn o ryw a thipyn o regi’.

Yna’r gyfrol Neb ond Ni gan Manon Rhys, gwraig i weinidog (neu gyn-weinidog); dyma’r ‘nofel’ a ddyfarnwyd yn deilwng o Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 2011 ac a dderbyniodd gymorth y Cyngor Llyfrau. A’r iaith? Llu o eiriau Saesneg (mewn sillafiad Cymraeg) a nifer o regfeydd anllad. Ni cheir cyfeiriad o gwbl at y ddeubeth hyn yn y beirniadaethau yng nghyfrol y Cyfansoddiadau. Paham tybed?

Deuwn yn awr at y prif droseddwr yn y mater dan sylw, Dewi Prysor. A minnau’n dilyn hynt ein llenyddiaeth ers dros drigain mlynedd, ni thybiais erioed y gwelwn fyth lyfrau yn cynnwys iaith mor gywilyddus – yn wir, aflan – â phum nofel (hyd yma) y gwr hwn. Y maent yn orlawn o regfeydd anllad, o eiriau anweddus, ac o gryn gabledd hefyd o dro i dro. Fe gyflwynodd un o’i lyfrau, Madarch, i’w fab ieuanc. Beth tybed oedd barn y bychan o weld tudalen 277 lle y ceir cryn ugain o eiriau anllad? Cefnogwyd y gwaith gan y Cyngor Llyfrau.

Dywedir am rai o leiaf o’r awduron y cyfeiriwyd atynt eu bod yn ysgrifennu er mwyn denu mwy a mwy o bobl i ddarllen Cymraeg ac ehangu eu diddordeb yn ein diwylliant llenyddol. Beth? Ymddiddori yn y math o iaith fras a chomon y soniwyd amdani? Os felly, rhag eu cywilydd. Difetha’n traddodiad diwylliannol a wnânt, nid ei hybu; llofruddio yn hytrach na hyrwyddo’r iaith. A dwyn melltith ddigamsyniol ar ddyfodol ein cenedligrwydd.
* * *
Fe â’r meddwl yn ôl i fis Hydref 1960, yn dilyn cyhuddo cwmni Llyfrau Penguin o dorri’r ddeddf ‘Cyhoeddiadau Anllad’ (1959) trwy gyhoeddi argraffiad diymyrraeth o’r nofel rywiol Lady Chatterley’s Lover, llyfr ac ynddo 63 o eiriau anllad yn ymwneud â pherthynas rhwng gwraig aristocrataidd a’r garddwr (a’r ddau’n briod). Ar y rheithgor yn y llys yr oedd naw o ddynion a thair o ferched, a rhoddwyd copi o’r llyfr i bob un ohonynt, gan ofyn iddynt benderfynu a oedd y cynnwys yn debygol o’u llygru (‘deprave and corrupt’ yw’r geiriau). Galwyd ar nifer o awduron, academyddion a phersonau adnabyddus i gefnogi Llyfrau Penguin, gan gynnwys y nofelydd E.M. Forster a’r bardd a’r llenor Cecil Day-Lewis, a rhoi tystiolaeth dros ragoriaethau llenyddol y llyfr. Llwyddodd eu hachos, rhyddfarnwyd y cyhoeddwyr, a gwerthwyd tair miliwn o gopïau o’r nofel mewn tri mis – y gwerthiant uchaf, mi gredaf, nes i’r gyfrol Fifty Shades of Grey ddod o’r wasg a gwerthu 5.3 miliwn o gopïau mewn ychydig fisoedd. Ai gwir felly yw honiad un ysgolhaig mai gwneud arian yw’r unig reswm dros gyhoeddi gweithiau pornograffig ?

Nid oedd dyfarniad y llys yn syndod, fel yr oedd rhan un gwr arbennig felly. Y gwr hwnnw oedd John Robinson, Esgob Woolwich, awdur y gyfrol adnabyddus Honest to God. Galwai ef yn ei lyfr am ddileu y gair ‘Duw’ o’n geirfa am genhedlaeth gyfan, gan ddadlau mai myth oedd llawer o gynnwys y Beibl, a herio sylfaen moesoldeb Cristnogol a chonfensiynol. Llyfr oedd Lady Chatterley’s Lover, meddai, y dylai pob Cristion ei ddarllen. Wel!

Rhaid cydnabod bod y gyfrol Honest to God wedi dod yn ddatganiad sylfaenol o’r hyn a elwir yn ddiwinyddiaeth y South Bank. Fe gydymffurfiai â’r newidiadau mawr yn yr hinsawdd cymdeithasol a diwylliannol yn chwedegau’r ganrif, fel, er enghraifft, yr alwad am foesoldeb newydd. Daeth oes aur (meddid) i grefydd ym Mhrydain, ac yn ei lyfr The Roots of a Radical (1980) plediodd y dylid rhoi blaenoriaeth i ddidwylledd dros uniongrededd, i gariad dros gyfraith, i gyfiawnder dros drefn ac i bersonau dros egwyddorion. A oedd hyn yn ymgais i chwalu’r hen ddelweddau? Oedd. Ond pan fu farw’r awdur yn 1983, yr oedd y llanw ym myd diwinyddiaeth wedi dechrau troi yn ei erbyn, a cheidwadaeth gul yn bygwth bwrw allan y rhyddfrydiaeth lac a phen-agored.

Ychydig wythnosau cyn ei farw yn Ebrill 1985, mewn trafodaeth radio â John Roberts Williams, gresynai Syr Thomas Parry at gyflwr difrifol Cymraeg llafar ac argraffedig yr oes. Ni welai ef bwrpas o gwbl yn yr ymdrechion dros yr iaith os mai dyna’r safon a gynhelid.
* * *
Yn fy marn i, colled anaele i’r bywyd cymdeithasol ym Mhrydain oedd dileu sensoriaeth yn y byd celfyddydol. Dyna a ddigwyddodd ar ddechrau chwedegau’r ganrif ddiwethaf, a chanlyniad hynny oedd cwymp catastroffaidd yn y safonau moesol. (Gwn fy mod yn y lleiafrif wrth gefnogi sensoriaeth, ond hynny ni’m dawr.) Ai dyna’r rheswm gwaelodol dros y pennawd (mewn teip mawr) uwchben erthygl yn y Daily Telegraph ar 2 Ionawr eleni? TAXPAYER FUNDS WELSH AUTHORS TO WRITE BOOKS NO ONE WANTS, meddai’r pennawd.

Sonnir yn yr erthygl am drethdalwyr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynorthwyo i godi miliynau o bunnau i roi grantiau i awduron Cymru, a’u llyfrau yn aml ond yn gwerthu dyrnaid o gopïau. (Y mae gwybodaeth yn yr erthygl sydd yn aflonyddu cydwybod dyn.)

Yn nrama Ibsen, An Enemy of the People, y mae un dyn, Dr Stockmann, y meddyg lleol, am weld chwalu’r ganolfan hamdden am fod gwenwyn yn y cyflenwad dwr, ac y mae’r ardal i gyd yn ei erbyn. Yn ei anerchiad yn y cyfarfod cyhoeddus, dywaid: ‘The majority never has right on its side. Never, I say. That is one of the social lies that a free, thinking man is bound to rebel against.’

Ac dyma ymateb gan Dylan Llŷr sy'n ysgrifennu blog Anffyddiaeth

Ynghylch ymateb i ddeinosoriaid

Mae'n gallu bod yn anodd penderfynu sut i ymateb i erthyglau fel hyn. Yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barn, mae Emlyn Evans wedi rhoi cynnig ar ail-agor dadl a roddwyd yn y gwely ddegawdau lawer yn ôl. I arbed y drafferth i chi, dyma grynodeb: "blah blah llenyddiaeth a moesoldeb yn dirywio, iaith aflan, merched sydd ar fai, CABLEDD, blah blah blah dylid sensro pob llyfr nad wyf i'n eu hoffi (sef y mwyafrif) blah blah". Cyn i chi feddwl fy mod yn bod yn annheg, mae Mr Evans wir yn chwerw o hyd ynghylch cyhoeddi Lady Chatterley's Lover yn 1960. Mae darllen yr ysgrif fel cerdded ym mherfeddion y jyngl yn rhywle a dod ar draws deinosor: roedd rhywun yn tybio bod y fath greaduriaid wedi hen farw allan.

Rwy'n siwr bod Barn yn deall hyn yn iawn ac mai ennyn ymatebion syn oedd yr amcan wrth ei chyhoeddi. Mae'n debyg bod hynny wedi gweithio, oherwydd dyma fi. Y broblem yw y byddai cael trafodaeth fawr gall a difrifol am y pethau yma'n gwneud i ni gyd edrych yn ddwl fel Cymry Cymraeg. Nid yw safbwyntiau mor druenus o hen-ffasiwn yn haeddu'r fath ymdriniaeth barchus. Ar y llaw arall, rwy'n ei chael yn anodd anwybyddu'r fath sylwadau: byddai gadael i ysgrif fel hon eistedd yn gyfforddus a di-her yn nhudalennau cylchgrawn mor barchus hefyd yn gwneud i ni edrych yn od yn yr un modd. Yr ymateb callaf felly yw pwyntio a chwerthin.

Mae'r ffaith bod rhywun fel Mr Evans yn casáu llyfr yn reswm ardderchog i'w ddarllen. Mae gan Dewi Prysor baragraff ardderchog i'w roi ar gefn ei gyfrol nesaf, o leiaf.

No comments:

Post a Comment