Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 22 July 2013

Cymraeg i Oedolion - Ioan Talfryn a Heini Gruffudd

Ioan Talfryn: y pres yn cael ei gamgyfeirio

Mae arian tuag at ddysgu Cymraeg i oedolion wedi cael ei gamgyfeirio yn y gorffennol yn ôl tiwtor sydd yn gweithio yn y maes.

Mae Ioan Talfryn sydd yn brif Weithredwr Popeth yn Gymraeg yn dweud bod y pres sydd wedi ei rhoi i hybu mwy i ddysgu'r iaith wedi ei wario 'ar "haenau o fiwrocratiaeth" a ddim ar lawr gwlad.

Ond mae'n croesawu un o brif argymhellion adroddiad newydd oedd yn dweud y dylid sefydlu un corff cenedlaethol i geisio cynyddu'r niferoedd sydd yn dysgu Cymraeg.

Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru gyda'r bwriad i edrych ar y maes dysgu'r iaith.

Dywedodd Ioan Talfryn ar y Post Cyntaf fore Sadwrn:

"Yr hyn mae llawer ohonom ni yn y maes yn teimlo a dweud y gwir ac mae'r adroddiad yn tanlinellu hynny, ydy bod llawer iawn o arian wedi cael ei wario ar haenau o fiwrocratiaeth ac yn y blaen oedd ddim wir yn mynd i'r rheng flaen sef y darparwyr."

Ffigyrau yn gostwng
 
Roedd yr adroddiad yn nodi bod ryw 18,000 o oedolion yn dewis cofrestru i gymryd rhan mewn dosbarthiadau Cymraeg i oedolion bob blwyddyn a bod dim llawer o gynnydd wedi bod yn y ffigwr hynny yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Ond mae ef yn honni bod y ffigwr mewn gwirionedd ychydig filoedd yn llai, ryw 16,000 a hynny am fod rhai dysgwyr yn cael eu cyfri dwywaith.

O dan y system bresennol mae modd gwneud cwrs craidd sydd yn gwrs cyson wythnosol neu gyrsiau eraill megis rhai undydd neu ysgolion haf: "Yr hyn sydd yn amlwg o'r ffigyrau yw bod y niferoedd y dysgwyr craidd wedi gostwng ac mae'n rhaid cofio hefyd bod llawer o'r dysgwyr ar y cyrsiau atodol yma wedi eu cofnodi yn barod ar y cyrsiau craidd."

'Rhwng dwy stôl'
 
Ar y Post Cyntaf dywedodd y tiwtor Cymraeg hefyd bod y canolfanau Cymraeg a gafodd ei sefydlu ar draws Cymru yn 2006 wedi 'syrthio rhwng dwy stôl':

"Dydyn nhw ddim yn naill beth neu'r llall. Dydyn nhw ddim yn gorff cenedlaethol. Dydyn nhw ddim yn ddarparwyr lleol ymhob rhan o Gymru, efallai eu bod nhw mewn ambell ran o Gymru...

"Felly tacluso'r peth sydd angen ei wneud. Mae angen cryfhau'r pen a'r gwreiddiau ar yr un pryd. Mae'r arian wedi mynd i'r canol sydd ddim yn gallu gwneud naill beth neu'r llall."

Dywed ei fod yn croesawu'r syniad o gael un corff cenedlaethol ond bod hi yn bwysig bod digon o arian ar gael:

"Dw i'n cytuno gyda Heini (Gruffudd) bod angen dyblu'r arian Cymraeg i oedolion ac ar yr un pryd yn cytuno gyda y bobl hynny sydd yn dweud bod eisiau cryfhau y darparwyr ar y gwaelod. Felly dydyn ni ddim eisiau colli'r ddau beth."

[Diolch i BBC Cymru]


Heini Gruffudd: Angen dyblu’r gwario ar wersi Cymraeg i Oedolion


Mae angen i Lywodraeth Cymru ddyblu’r £13 miliwn sy’n cael ei wario ar ddysgu Cymraeg i oedolion, yn ôl enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn neithiwr.

Yr Erlid gan Heini Gruffudd ddaeth i’r brig, a’r wythnos hon hefyd bu’r awdur yn trafod dyfodol dysgu Cymraeg i Oedolion yng nghylchgrawn Golwg.

Ddechrau’r wythnos roedd y chwech o ganolfannau Cymraeg i Oedolion dan y lach mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru, gyda galw i’w dileu er mwyn cael gwared ar ‘haen o reoli a gweinyddu’ er mwyn ‘creu cyfundrefn fwy cydweithredol… sy’n gost-effeithiol ac yn sicrhau bod ansawdd yn gwella’.

Dim digon yn llwyddo i ddysgu

O’r 18,000 sy’n dechrau ar gyrsiau dysgu Cymraeg bob blwyddyn, tua 900 sy’n dod yn rhugl, ac yn ôl y Grŵp Adolygu nid yw hynny’n ddigon er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu gwlad ddwyieithog.

Er mwyn gwella’r sefyllfa go-iawn, yn ôl Heini Gruffudd, mae angen rhoi mwy o bres ar y bwrdd.

“Efallai ei bod hi ychydig bach yn siomedig nad oes llawer o gyfeiriad [yn yr adroddiad] at y cyllid newydd angenrheidiol i ymestyn y maes,” meddai.

“Bydde rhywun wedi gobeithio y bydde arian ychwanegol ar gael i roi amser i fod ffwrdd o’r gwaith am flwyddyn… cynlluniau fel yna, fel bod miloedd newydd sydd eisiau dysgu yn cael yr amser o’r gwaith i wneud hynny.

“I broffesiynoleiddio’r holl beth, yn hytrach na’n bod ni’n dal i drin y peth fel trefnu blodau.”

Y stori’n llawn, gydag ymateb Canolfan Cymraeg i Oedolion y gogledd, yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.

[Diolch i Golwg 360]

No comments:

Post a Comment