Ges i lyfr ar fenthyg gan Fan y Fro a oedd arfer picio
heibio’r tŷ ar Ddydd Mawrth weithiau cyn i David Cameron gael ei
ddyrchafu i fod yn Brif Weinidog. “Wyneb Doniol” oedd enw’r llyfr, i
blant bach.
Y’ chi siŵr o fod yn gyfarwydd gyda’r math yma o lyfr, cyfle i
wneud ystumiau i’r plentyn wrth gopïo’r wynebau yn y llyfr; oni bai bod
yna hefyd stori syml (iawn) i ddilyn hefyd. Felly mae’r plentyn (a’r
rhiant pe bai’n ddysgwr/aig) yn gallu dysgu wynebau newydd mewn
cyd-destun. Go handi ynde.
Nawr mae’r wyneb “hapus” sy’n gyntaf yn ddigon hawdd wrth
gwrs, wrth fod y plentyn yn y stori yn chwarae’n hwylus. Yn syth bin
wedyn ‘ny, mae’r bachgen bach yn cael sioc o gwrdd ag arth; wyneb syn
felly a gair go anodd i blentyn bach.
Yn grac, mae’r plentyn wrth i’r arth dwgyd y bêl; ac yn
dibynnu ar eich tafodiaith mae’r wyneb “dig” yn air newydd hefyd. Daw’r
geiriau “drygionus” a “phryderus” i’r amlwg hefyd yn y gyfrol, mewn
cyd-destun hawdd i ddeall ac yn rhan o stori ddigon diddorol i
ddifyrru’r plentyn wrth ddysgu geirfa gyfoethog.
Beth bynnag, mae’n lyfr andros o dda i’w ddefnyddio i ddarllen
i blentyn tua tair blwydd oed; ac wrth orffen y llyfr wrth gwrs sai’n
credo mod i yn sbwylio’r sypreis i chi os y’ fi’n dweud taw drych sy ‘na
gyda’r wyneb mwyaf doniol …“Dy wyneb di” wrth gwrs!
Ti neu chi?
Be sy hefyd yn ddiddorol i fi fel rhywun sydd wedi astudio
ieithyddeg yn y gorffennol yw bod y frawddeg ola ‘na gen i yn arddangos y
ddwy ffordd o gyfarch y darllenydd yn y Gymraeg,. Dwi’n dueddol o
ddefnyddio’r ffurf ffurfiol “chi” wrth ysgrifennu i unrhyw un nad ydw
i’n nabod yn dda; o ganlyniad o fy addysg yng Ngorllewin Cymru mae’n
siŵr (i chi!).
Yn y llyfr yma i blant, oedolyn, sef awdur y llyfr (Nicolas
Sïem felly ie cyfieithiad/addasiad ydyw, ac yn un o lyfrau’r ymgyrch
Booksmart dwi newydd sylwi) sy’n cyfarch y plentyn felly er nad yw hi’n
nabod y darllenydd, cyrraedd y plentyn yw nod y llyfr felly dwi’n ddigon
hapus i dderbyn taw’r ffurf anffurfiol “ti” yw’r ffurf gywir. Yn y
cyd-destun yma ta beth, gan mai fi’n sy’n darllen y stori i fy merch.
Be dwi ddim mor hapus i weld a chlywed yw’r gorddefnydd (yn fy
marn i) o’r ffurf yma yn y cyfryngau yn ddiweddar – o ddarlledwyr BBC
Radio Cymru yn erfyn ar eu gwrandawyr i ffonio megis hen ffrind – i
hysbysebion lletchwith ar S4C yn gofyn beth ydw i’n ei gredu: “Beth
hoffet ti wneud …” neu “Beth hoffet ti ddweud…”. Wel dim yw dim os y
chi’n gofyn fel’na missus!
Sai’n siŵr beth yw tarddiad hyn, mae’n siŵr mai rhyw fath o
ymchwil neu gamsyniad mai dyna sut ma dyn yn hoffi cael ei annog gan y
cyfryngau, ond yr ymadrodd bach yna sy’n well ‘da fi wedi treulio amser
yn nhafarndai Ceredigion ar brynhawn Sadwrn wedi’r chwaraeon. “Beth ma
dyn i fod i feddwl o hyn tybed?” sy’n well gen i glywed. Neu “chi”
weithie hefyd, er mwyn bod yn gwrtais yndyfe.
A ma’r dyn yma’n tybio bod y pla wedi cyrraedd y we erbyn hyn
hefyd. “Hoffet ti ysgrifennu erthygl?” gofynnodd y wefan Metastwnsh ers
talwm…[Er tegwch, mae’r adborth i’r wefan honno wedi awgrymu bod “chi”
yn rhy ffurfiol i’r we.]
Wel, gan bo CHI’n cynnig yndyfe! Wrth gwrs, gall y defnydd yna
o ‘chi’ fod yn iawn yn y Gymraeg gan efallai bod yna sawl un y tu ôl i
lenni’r wefan. Sy’n eitha handi pan ma dyn yn sgwennu e-bost i rywun
mewn sefydliad arall, er enghraifft.
Ac yn ôl y rhaglen ma dyn yn defnyddio i sgwennu rhywbeth
hirach yn y Gymraeg, “Gan eich bod chi yn cynnig” dylai hynny fod hefyd!
Felly mae’n rhaid bod yn ofalus wrth deipio hefyd.
Trafod teulu
Fel rhywun sy’n gyfarwydd a defnyddio’r ddwy iaith gyda’r
teulu a pherthnasau agos a phell, weithiau dwi’n dala fy hun yn
defnyddio’r Gymraeg “chi” i bobl dwi’n nabod yn ddigon da i ddefnyddio
“ti”, ond efallai bod y syniad o barch mor annatod yn fy ieithwedd fel
bod hynny’n aros hyd yn oed i berthnasau agos sy’n digwydd bod yn hŷn na
fi (hyd yn oed ‘nhad weithiau!). Ma’r dyn yn haeddu rywfaint o barch
wrth gwrs, yn naturiol.
I ddweud y gwir o fewn teulu sai’n siŵr os yw’r “rheolau” yn
newid o deulu i deulu neu be…”Ti” neu “Chi” byddai hen dadcu i chi? Ac i
ti?…
Nid y Cymry’n unig sy’n straffaglu gyda’r system hynafol yma. I
ddweud y gwir mae gan y rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd fersiwn o T/V
, a enwir ar ôl y Ffrangeg “Tu” a “Vous” wrth gwrs.
Efallai byddai ambell un o’r sawl sy’n byw yn ein plith yn
wlad hon sy’n uniaith yn honni mai anodd a lletchwith ar y naw yw’r holl
system T/V yma; mond un peth arall i boeni am biti wrth geisio
meistroli iaith.
Ond hoffwn i orffen drwy eich atgoffa bod meistroli iaith yn
golygu meistroli cyfathrebu,ac fel y gwelir fan hyn nid hawdd yw deall
popeth yn yr iaith fain chwaith…
“…when are you ever going to need a second language? Sorry, when I say you I don’t mean you personally obviously…”
Galle dyn ddadlau taw “when would one ever…” fyddai’r Saesneg
cywir yn y frawddeg yna – ond prin fydda i am ddechrau a gorffen erthygl
gan ddirmyg Cameron a’i griw!
No comments:
Post a Comment