Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 5 January 2013

Rali'r Cyfrif yng Nghaerfyrddin



Yn wyneb canlyniadau'r Cyfrifiad sy'n dangos dirywiad trychinebus yn ein cymunedau Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin...

DEWCH I RALI'R CYFRI - SAFIAD SIR GÂR: 11yb, Dydd Sadwrn Ionawr 19, 2013 - Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Mynnwn fod Cyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru yn cymryd yr argyfwng o ddifri.

Eich cyfle chi i lofnodi'r adduned "Dwi eisiau byw yn Gymraeg!" Anelwn at gael dros fil i Addunedu cyn diwedd Ionawr yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd newyddion bob dydd ar y tudalen Digwyddiad Facebook am bwy sy'n dod ar y 19eg i lofnodi'r adduned.

Mwy o wybodaeth bethan@cymdeithas.org - 01559384378. 

Rwy'n gobeithio y bydd rhai ohonoch chi'n ymuno â ni yng Nghaerfyrddin.
 

Lansio ‘maniffesto byw’ i gryfhau'r Gymraeg


‘Ymateb cadarnhaol i argyfwng yr iaith’ - dyna sut mae ymgyrchwyr wedi disgrifio'r ‘maniffesto byw’ a lansiwyd mewn rali yng Nghaernarfon.

Mae’r maniffesto, a luniwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn gynharach yr wythnos hon. 

Ymysg y syniadau, mae’r Gymdeithas yn galw am: drawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo her allfudo a mewnfudo; gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol i weithiwyr y sector cyhoeddus; system addysg ledled Cymru lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg; datganoli swyddi Cymraeg i gymunedau, a phedryblu buddsoddiad y Llywodraeth yn yr iaith.

Yn ôl y Cyfrifiad, mi oedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru - lawr o 21% ddegawd yn ôl i 19% - ac fe gwympodd canran y siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin a’r gogledd. Targed Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.

Dyma linc i'r ddogfen lawn.

No comments:

Post a Comment