(Golwg360)
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod â’r Prif Weinidog
Carwyn Jones i fynnu ei fod yn gweithredu strategaeth argyfwng i achub y
Gymraeg.
Ac os na fydd yn cytuno, fe fyddan nhw’n cynnal
ymgyrch genedlaethol i alw’n bersonol arno i ymyrryd.
Dyna’r neges wrth i fwy na 300 o bobol gasglu mewn rali yng
Nghaerfyrddin i ddweud eu bod eisiau byw yn Gymraeg ac eisiau i gymunedau
Cymraeg fyw hefyd.
Yn un o’r prif areithiau, fe alwodd yr Aelod Seneddol lleol
tros Blaid Cymru am sefydlu swydd cabinet o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn
gyfrifol am‘y Fro Gymraeg’.
Roedd hynny “er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i holl
waith y Llywodraeth,” meddai Jonathan Edwards.
Arwyddo adduned
Fe arwyddodd 13 o bobol adnabyddus boster yn addunedu i’r
alwad am gael byw yn Gymraeg ac mae’r Gymdeithas yn gobeithio cael 1,000 o
enwau yn y pen draw.
Roedd y rali yng Nghaerfyrddin yn un o gyfres yn sgil
ffigurau diweddara’r Cyfrifiad – yn Sir Gâr yr oedd y cwymp mwya’ o ran canran.
Wedi’r rali y tu allan i bencadlys y Cyngor Sir, fe
orymdeithiodd y dyrfa i gyfeiliant drymiau a siantio “Dw i eisiau byw yn
Gymraeg” at adeiladau Llywodraeth Cymru yn y dref.
Fe fydd cynrychiolwyr y Gymdeithas yn cyfarfod gyda Carwyn
Jones ar 6 Chwefror eleni, yn gofyn iddo gydnabod ei bod yn argyfwng ar yr
iaith Gymraeg ac yn galw arno i weithredu strategaeth frys.
“Y cam allweddol yw ei gael i gydnabod yna argyfwng,” meddai
un o drefnwyr y rali, Ffred Ffransis. “Dyna yr ydyn ni wedi methu â’i gael
trwodd hyd yn hyn – cydnabod bod yna argyfwng ac wedyn gweithredu statws
argyfwng.”
Beirniadu Cyngor Shir Gâr
Roedd nifer o siaradwyr yn feirniadol iawn o Gyngor Sir
Gaerfyrddin hefyd, gyda’r ymgynghorydd iaith, Cefin Campbell, yn dweud bod
polisi’r sir ym maes addysg “wedi bod yn drychineb llwyr”.
“Mae’n warth ar yr awdurdod yma dros yr ugain mlynedd
diwetha’,” meddai. “Ymylol yw’r iaith yn Sir Gaerfyrddin.”
Yn ôl Jonathan Edwards, roedd angen rhoi pwysau ar y Cyngor
yn y maes economaidd, maes addysg a maes cynllunio.
“Mae tai’n cael eu codi heb sylw teg i anghenion lleol
ac mae’r datblygiadau’n tanseilio’r iaith,” meddai.
‘Rhaid cipio grym’
Fe alwodd Cadeirydd y Gymdeithas yn Rhanbarth Sir
Gaerfyrddin am i’r cyngor sir wynebu ei gyfrifoldeb a dechrau arwain gan
ddefnyddio’r Gymraeg yn ei waith o ddydd i ddydd.
Yr unig ateb, meddai arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor,
Peter Hughes Griffiths, oedd gweithio tros y pedair blynedd nesa’ i gipio
awennau’r Cyngor.
Fe addawodd cynrychiolydd Merched y Wawr yn y sir, Glenys
Thomas, y byddai’r mudiad hefyd yn gwneud safiad mwy cadarn ac yn gweithredu’n
fwy uniongyrchol o blaid yr iaith.
No comments:
Post a Comment