1. Mae rhywbeth bach yn poeni pawb. Nid yw ‘run fath ym mhobman.
A’r hyn sy’n poeni’r ardal hon Yw defaid William Morgan.
Cytgan: Defaid William Morgan, Defaid William Morgan,
Yr hyn sy’n poeni’r ardal hon Yw defaid William Morgan.
2. Waeth heb na phlannu nionod bach Na letys na chabatsen.
Chaiff neb eu profi, dyma’r gwir, Ond defaid William Morgan.
(Cytgan)
3. A phan ddaw’r haf, cânt fynd i gyd I gorlan ar Foel Faban,
A chawn ymwared am ryw hyd â defaid William Morgan.
(Cytgan)
No comments:
Post a Comment