Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Er mai prif amcan Tafarn Sinc fydd darparu cwrw o ansawdd a phrydiau
blasus fe fydd hefyd yn gynheilydd treftadaeth ddiwylliannol. Mae yno
eisoes ymdeimlad cryf o awyrgylch ddiwylliannol/hanesyddol. Gellir ei
deimlo’r funud yr ewch trwy’r drws. Mae yna ymdeimlad cryf o berthyn.
Mae’r posteri a’r lluniau a’r offer amaethyddol yn diffinio’r lle fel
tafarn wledig. Mae wedi’i wreiddio yn ei gynefin.
O’r herwydd mae’n fwy na dim ond tafarn.
Bwriad creiddiol Cymdeithas Tafarn Sinc i’w diogelu a hyrwyddo’r elfen
ddiwylliannol fel rhan o brofiad yr ymwelydd a’r bwytäwr. Bydd yn
brofiad na cheir ei debyg unman yn y fro.
Bwriedir cyflwyno
lluniau o arwyr y fro megis Brian Williams (chwaraewr rygbi rhyngwladol a
oedd yn enwog am ei ergyd slecht), Dil Hafod-ddu (storïwr ac arweinydd
Noson Lawen), Waldo Williams (bardd a heddychwr, awdur ‘Dail Pren’),
Tomi Evans (enillydd cadair genedlaethol am ei awdl i’r ‘Twrch Trwyth),
E. Llwyd Williams (bardd ac awdur dwy gyfrol glasurol am hanes Sir
Benfro, ‘Crwydro Sir Benfro), Twm Carnabwth (arweinydd lleol Terfysg y
Beca), Dai Evans (chwaraewr rygbi rhyngwladol dosbarth gweithiol
cyntaf), Wil Glynsaithmaen (bardd a sefydlydd Bois y Frenni), Athro
David Williams (hanesydd ac awdur ‘The Rebecca Riots’).
Does yna ddim prinder arwyr.
Yn ôl Llwyd Williams : “Mae’r hen chwedlau ar sodlau’i gilydd ar
lethrau Presely a’r oesoedd wedi’u plethu’n un cawdel o reffyn. A dyna’n
hetifeddiaeth ni yn y profiad o fyw o dan gysgod y bryniau hen.”
Y dreftadaeth hon y bwriada Cymdeithas Tafarn Sinc ei drosglwyddo i’r
cenedlaethau a ddaw. Mae’n ddigon posib y bydd ysgolion lleol am drefnu
ymweliadau fel rhan o brofiad addysgol y disgyblion.
Bydd croeso
yn cael ei gynnig i ddysgwyr Cymraeg mewn awyrgylch fydd yn rhoi iddyn
nhw’r hyder i ddefnyddio eu sgiliau. Fe’u hanogir i fod yn rhugl.
cynheilydd - cefnogwr
slecht - llanast (gair o Sir Benfro - yma 'smashing')
cawdel - medley
rheffyn - rope
Mae grŵp cymunedol yng ngogledd Sir Benfro wedi cytuno mewn egwyddor i brynu tafarn leol hanesyddol oedd yn wynebu gorfod cau.
Dywedodd
Cadeirydd Cymdeithas Tafarn Sinc, Hefin Wyn, bod y grŵp wedi dod i
gytundeb gyda'r perchnogion presennol i brynu'r busnes.
Yn wreiddiol cafodd y dafarn a bwyty ei rhoi ar y farchnad am £295,000, ond ni lwyddodd y perchnogion i ddod o hyd i brynwr.
Cafodd
Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio a llwyddodd y grŵp i hel dros
£200,000, gan eu galluogi i gytuno ar bris am y dafarn gyda'r
perchnogion, er nad yw'r pris terfynol wedi cael ei ddatgelu.
'Cyfanswm o £234,000'
Cafodd y grŵp ei sefydlu ddiwedd Gorffennaf yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Maenclochog, ac fe gafodd gefnogaeth yr actor Rhys Ifans.
Dywedodd Hefin Wyn: "Y bwriad oedd codi £200,000 erbyn Medi 30 a doedd hi ddim syndod fod swm dipyn yn uwch wedi'i godi.
"Mewn gwirionedd codwyd cyfanswm o £234,000."
Yn ôl cydlynydd y prosiect, y cynghorydd Cris Tomos, roedd hyn wedi'u galluogi i roi cynnig am yr eiddo.
"Rydym
yn falch o ddweud fod yna drafodaethau ar y gweill ac rydym yn disgwyl
i'r cyfreithwyr gwblhau'r pryniant yn enw Cymdeithas Tafarn Sinc cyn
diwedd y mis am swm na chaiff ei ddatgelu," meddai.
Roedd yr
ymgyrch i godi arian yn cynnwys gwerthu cyfranddaliadau ac ychwanegodd
fod yr ymgyrch yn parhau er mwyn sicrhau dyfodol y fenter.
Dywedodd
y perchnogion dros y chwarter canrif ddiwethaf, Brian a Hafwen Davies,
eu bod wrth eu bodd o weld y gymuned yn prynu eu heiddo.
Cafodd y
dafarn wreiddiol ei hadeiladu yn 1876, pan gafodd y rheilffordd o
Glunderwen i Rosebush ei hagor. Ei henw gwreiddiol oedd The Precelly Hotel.
Rwy wedi trefnu taith i Gastell Henllys ar gyfer fy nosbarth Sgwrsio. Cwrdd wrth Gastell Henllys am 10 ar y 19eg o Hydref, a Delun Gibby fydd
yn tywys y grŵp o gwmpas a safle.
Pris tocyn yw £4.50. Does dim bws, ac felly bydd rhaid i bawb drefnu cludiant eu hunain.
Mae lle i ragor o bobl (byddai grŵp o 25
yn iawn), felly croeso i ddysgwyr eraill ar lefel Canolradd/Uwch.
Cysylltwch â fi: riv1@aber.ac.uk
Mae ymadroddion a dywediadau yn
gwneud ein hiaith ni'n fwy lliwgar ond dydi hi ddim yn glir bob amser
beth yw eu hystyr nac o ble maen nhw wedi dod.
Bu Twm Morys yn bwrw goleuni ar rai ymadroddion Cymraeg ar Raglen Aled Hughes, Radio Cymru ar 4 Hydref 2017 gan geisio esbonio tarddiad annisgwyl ambell un.
Dod i'r fei
"Mae'n debyg mai o'r Saesneg 'vie' mae o wedi dod - 'to vie for'
ydy cystadlu efo rywun ac efallai fod yr ystyr i gychwyn yn dod o pan
oedd rhyw gardyn pwysig yn dod i'r golwg wrth chwarae cardiau ers talwm -
'wedi dod i'r fei'.
"Mi fuasai rhywun yn disgwyl iddo fo darddu o 'view' - ond maen nhw'n dweud mai o 'vie' y mae'n dod."
Dod at eich coed
"Y
coed mewn hen gemau bwrdd, fel gwyddbwyll, ydy'r hyn sydd gan rywun
wrth gefn, felly dod yn ôl at eich coed ydy dychwelyd i le diogel, fel
pasio'r bêl yn ôl mewn gêm bêl-droed er mwyn diogelu'r bêl. Dod yn ôl at
eich coed ydy mynd yn ôl i le diogel - callio."
O'i ben a'i bastwn ei hun
"Rhywun
yn gwneud rhywbeth drosto ei hun heb orfod dibynnu ar neb arall, yn
anibynnol, ydy'r ystyr. Rydan chi'n cynllunio rhywbeth yn ein pen. Wedyn
mae codi pastwn yn ddarlun reit drawiadol o rywun yn penderfynu gwneud
rhywbeth, rhywun yn gweithredu. Felly mae rhywun yn gwneud rhywbeth o'i
ben a'i bastwn ei hun yn rhywun sy'n penderfynu mynd ati i wneud
rhywbeth."
Rhoi'r ffidil yn y to
"Ymadrodd
sy'n golygu bod rhywun yn rhoi'r gorau iddi, rhywbeth mae o'n reit dda
am ei wneud efallai ac am ryw reswm yn penderyfnu rhoi'r gorau i'w wneud
o.
"Yn nhafarn y Plu yn Llanystumdwy mae 'na nifer o bethau'n
hongian oddi ar y distiau [=beams], fel mewn nifer o dafarnau eraill - hen bedyll
[=lluosog padell] a geriach [=tackle] ceffylau gwedd [cart horses] yn sgleinio a phethau felly.
"Cyn bod y
ffasiwn beth ag atic mewn tŷ mi roedd distiau tŷ yn bethau handi i roi
pethau i'w cadw a dyna ydy'r ymadrodd yma - rhoi'r ffidil o'r ffordd,
i'w gadw ar un o'r distiau yn y to. Mae hynny wedi mynd yn ymadrodd i
gyfleu bod rhywun yn rhoi'r gorau i wneud rhywbeth."
Roedd yna
eglurhad pellach gan un o wrandawyr Radio Cymru, Kate Wheeler: "Mi
glywais ryw dro mai teclyn i hau hadau oedd ffidil. Wedi gorffen hau,
cedwid y 'ffidil' yn nho'r sgubor."
Bwrw hen wragedd a ffyn
"Tresio [=pour] bwrw ydy'r ystyr ac mae'r Saeson yn dweud 'raining cats and dogs'
am yr un peth. Mae'n debyg ei bod hi o bryd i'w gilydd yn bwrw
llyffantod a physgod hefyd ac fe ges i hyd i adroddiad o 1918 o Hendon
yng ngogledd Lloegr ac mae'n debyg fod na gawod fawr o lymrïaid - sef
llysywod [=eels] sy'n byw yn y tywod ar lan y môr - wedi disgyn o'r awyr.
"Yr
egurhad ydy fod na ryw dywydd eithafol, gwynt mawr, wedi codi
creaduriaid felly, llyffantod a physgod, i'r awyr a'u gollwng yn rhywle
arall. Mae'n wir hefyd fod corwynt yn codi pobl weithiau, fel Dorothy yn
The Wizard of Oz, ond go brin y bysa hi wedi bwrw hen
wragedd yn llythrennol a dwi'n meddwl mai ymadrodd gwirion ydy o i
ddisgrifio glaw gwirioneddol eithriadol.
"Mae 'na eglurhad arall posib. Mae yna ymadrodd arall o ogledd Lloegr, 'it's raining stair rods'
- ffyn hir syth i gadw'r carped yn ei le ar y grisiau. Mi rydach chi yn
gweld glaw felly weithiau ar slant fel ffyn ac os ydach chi'n meddwl am
hen wragedd yn disgyn o'r nefoedd ac yn dal eu ffyn yn syth o'u blaenau
- wel yr un math o ddarlun ydi o. Efallai bod yr hen wragedd yma yn
taro eu ffyn ar lawr ac yn gwneud sŵn fatha glaw hefyd?
"Y gwir
ydy fod iaith yn hoff iawn o chwarae efo geiriau, yn enwedig y Gymraeg, a
chreu darluniau. Dyna beth ydi tarddiad llawer iawn o ymadroddion -
rhyw olygfa mae rhywun wedi ei ddychmygu a hwnnw'n gafael ac yn aros."
Mae un o’r arbenigwyr pennaf ar yr iaith
Gymraeg wedi dweud bod rhaid i arweinwyr gwleidyddol wneud mwy i uno’r genedl.
Mae’r Athro Harold Carter eisiau gweld
gwleidyddion yn arwain y ffordd i gael gwared ar y rhaniadau yn syniadau’r
Cymru am eu cenedl a’u diwylliant.
Mae hefyd eisiau gweld Caerdydd yn cymryd ei
chyfrifoldeb yn brifddinas ar gyfer y wlad i gyd.
“Mae angen i Gaerdydd ddarbwyllo’r Cymry ei
bod yn ganolfan sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn hytrach na cheisio bod yn
brifddinas ryngwladol”
Tri
chyflwr i Gymro
Yn y llyfr, mae’r cyn ddarlithydd ym
Mhrifysgol Aberystwyth yn dweud fod yna dair prif farn ynglŷn â beth sy’n
gwneud Cymro:
• Y gallu i siarad yr iaith Gymraeg, a bod
pawb sydd heb y gallu yn Gymro eilradd
• Y di-Gymraeg sy’n gwrthod derbyn mai’r iaith
yw’r prif beth sy’n gwneud Cymro – maen nhw’n creu eu hunaniaeth o amgylch
sefydliadau fel y Cynulliad Cenedlaethol
• Unrhyw un un sydd wedi ei eni yng Nghymru ac
sy’n eu hystyried eu hunain yn Gymry am nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiadau
eraill.
‘Amrywiaeth
mawr’
“Mae yna amrywiaeth mawr yn yr hunaniaeth
Gymreig,” meddai Harold Carter. “Mae gwaith Edward I a’r Ddeddf Uno yn dal i
fod yn llwyddiannus am ei fod o wedi disodli undod Cymru gyda gwrthdaro a
chasineb.
“Dyw’r genedl ddim yn gwbl ranedig erbyn hyn,
ond mae yna raniadau tros elfennau megis yr iaith Gymraeg. Er hynny rwy’n
teimlo bod y rhaniadau yn cael eu gorliwio yn fawr,” meddai’r Athro Harold
Carter.
“Does dim amheuaeth bod yr iaith Gymraeg yn
bwysig iawn i ddiwylliant Cymru ac fe fyddai yna fwlch mawr hebddi. Mae wedi
bod yn edau [=thread] allweddol dros y blynyddoedd.”
‘Angen
arweiniad’
Mae’r Athro’n credu bod rhaid i’r Cynulliad
ddangos arweiniad i uno’r genedl Gymreig.
“Mae angen perswadio’r gwahanol ochrau –
gyda’u hamrywiaeth barn am yr hunaniaeth Gymreig – i beidio â gwrthwynebu ei
gilydd,” meddai.
Mae’r cyn Athro Daearyddiaeth yn credu y bydd
modd uno’r uno’r genedl yn y dyfodol: “Mae’r holl dueddiadau’n awgrymu y gallai’r
Cymry gymodi ac uno fel cenedl”
Hanes
Cymru
Mae’r llyfr yn amlinellu hanes Cymru ers y
Rhufeiniaid gan ddweud bod arfer Cymry’r Canol Oesoedd o rannu tir ymysg yr
holl feibion yn gyfrifol am y diffyg undod yn y wlad.
Roedd diffyg tir amaethyddol Cymru hefyd wedi
arwain at dlodi ac, yn sgil hynny, at boblogaeth wasgaredig.
Dim ond ar ôl dechrau’r Chwyldro Diwydiannol y
tyfodd poblogaeth Cymru ac y cafodd sefydliadau cenedlaethol eu creu. Ar y
dechrau oddi mewn i Gymru y daeth y mewnfudwyr i’r ardaloedd diwydiannol.
Yn y llyfr, sy’n cael ei gyhoeddi gan y
Sefydliad Materion Cymreig, mae Harold Carter yn dweud bod mewnfudo i Gymru
wedi gwanhau’r iaith, ond bod mudo gan Gymry Cymraeg ifanc i ddinasoedd fel
Caerdydd wedi cryfhau’r iaith mewn ardaloedd ble’r oedd hi’n wan.
Against the Odds. The Survival of Welsh
Identity , IWA, 150pp £9.99. (Llun:IWA)
Fel arfer mis Tachwedd a Rhagfyr yw'r cyfnod
prysuraf o ran gwerthiant llyfrau ac mae ennill gwobr uchel ei bri hefyd
yn medru bod yn hwb.
"Beth sy'n rhyfeddol am hwn yw bod e wedi
gwerthu cymaint mewn adeg lle does dim cymaint o brynu," meddai Garmon
Gruffudd, rheolwr Y Lolfa.
"Mae hwn wedi mynd i dri argraffiad mewn adeg tawel o'r flwyddyn o ran gwerthiant."
Mae sawl person wedi cyfrannu at y gyfrol gan gynnwys yr awdures Sharon Marie Jones a gollodd ei mab Ned mewn damwain y llynedd.
Mae Nia Gwyndaf, a gollodd ei gwr, Eifion Gwynne ym mis Hydref 2016 mewn damwain car yn Sbaen, hefyd wedi cyfrannu.
Yn 2015 cafodd casgliad o brofiadau pobl oedd yn trafod salwch meddwl ei gyhoeddi, Gyrru Drwy Storom, oedd hefyd yn llwyddiant.
Yn ôl Arwel Jones prin yw'r math yma o lyfr sydd ar gael yn y Gymraeg.
"Dwi'n
meddwl bod Gyrru Drwy Storom, oedd yn trafod iselder, yn rhywbeth roedd
pawb yn gymharol hyderus oedd wedi gweithio yn Saesneg," meddai.
"Doedd 'na ddim rheswm iddo fo beidio gweithio yn Gymraeg.
"Ond pan roedden nhw'n cyflwyno'r syniad o drafod galar, falle nad oedd hwnnw mor gyffredin. Falle bod hwn o flaen y zeitgeist yn hynny o beth, yn torri tir newydd."
Gwerthu mewn sawl siop
Cytuno
ei fod yn llenwi bwlch mae Garmon Gruffudd, ond hefyd y ffaith bod y
rhai wnaeth gyfrannu i'r casgliad yn dod o bob cwr o Gymru.
Dywedodd:
"Mae'r llyfr yma, mae cyfranwyr o bob man yng Nghymru bron a bod, yn y
gogledd orllewin, yn ardal Aberystwyth, Ceredigion, Caerdydd.
"Mae'r gwerthiant wedi bod trwy'r siopa' i gyd wedyn ac mae hwnna wedi bod yn help mawr."