Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label s4c. Show all posts
Showing posts with label s4c. Show all posts

Wednesday, 26 February 2020

Tu ôl i'r Wên

Yn y rhaglen mae'r cyflwynydd Siôn Jenkins o Landysilio yn trafod ei broblemau iechyd meddwl, yn enwedig gorbryder (hyper-anxiety), a phroblemau iechyd meddwl dynion yn gyffredinol

Mae'r rhaglen yn codi nifer o gwestiynau pwysig, er enghraifft pam mae cymaint o bobl ifainc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, y defnydd o CBT (cognitive behaviour therapy) a gallu emosiynol (emotional intelligence).
 

Saturday, 13 October 2018

Newyddiaduriaeth Gymraeg i'r genhedlaeth iau

[Ffynhonnell: Datganiad i'r wasg gan S4C]
Mae HANSH, gwasanaeth ar-lein ffurf fer S4C, am roi blas go iawn o newyddiaduriaeth i’w gwylwyr.
Bydd HANSH: Dan Sylw yn rhoi lle i newyddiadurwyr iau fynd i'r afael â'r materion a'r straeon sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru a'r byd.
Tîm materion cyfoes ITV Cymru, y criw tu ôl i gyfresi gafaelgar [gripping], Y Byd ar Bedwar a'i chwaer raglenni Y Byd yn ei Le ac Ein Byd, sydd am ychwanegu elfen newyddiadurol bwysig yma i Hansh.
Trwy’r cynllun ‘Dan Sylw’ rhoddir cyfle, am y tro cyntaf erioed, i newyddiadurwyr ifanc dderbyn hyfforddiant-mewn-swydd a magu’r sgiliau i gynhyrchu cynnwys materion cyfoes ffurf fer yn y Gymraeg.
Mae HANSH yn targedu'r grŵp oed 16-34 gyda fideos hynod ddychmygus, sydd yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu dilyniant ar-lein sylweddol ers iddo gael ei lansio'r llynedd, gydag S4C yn cofnodi 4.9 miliwn o sesiynau gwylio yn ystod y flwyddyn sy'n rhedeg o Fehefin 2017- Mawrth 2018.
Un o’r newyddiadurwyr ifanc yn nhîm materion cyfoes HANSH yw Liam Ketcher, 22 o Faesteg.
Dywedodd Liam, a ymunodd â thîm materion cyfoes ITV Cymru Wales ym mis Gorffennaf, "Dwi’n hynod o falch ac yn gyffrous iawn am y cyfle i weithio ar gynnwys newydd ar gyfer Hansh. Pwrpas ‘Dan Sylw’ yw ysgogi trafodaeth am y pynciau sydd yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru. Ein gobaith yw ymdrin â'r straeon mewn ffordd ddifyr, hygyrch ac apelgar i gynulleidfa HANSH. Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr iawn at ddysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer y swydd hon ac i weithio gyda thîm profiadol ITV Cymru.”
Mae Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees yn credu y bydd y gwasanaeth yn ychwanegiad gwerthfawr at HANSH, sydd hefyd ar gael wedi eu pecynnu mewn rhaglenni yn y slot ar ôl 10 y nos ar wasanaeth teledu S4C.
Ychwanegodd Amanda Rees, "Mae S4C am ddatblygu’r gwasanaethau digidol yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'r datblygiad hwn yn HANSH yn dangos ein bod ni o ddifri’. Rydym bellach yn darparu newyddiaduraeth sy'n cael ei hymchwilio'n drylwyr i drin a thrafod profiadau a phynciau sy'n berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru trwy ffilmiau ffurf fer y maen nhw’n fwy tebygol o edrych arnyn nhw. Bydd yn helpu wrth inni ddatblygu’n gwasanaethau ar gyfer y genhedlaeth iau."

Saturday, 25 October 2014

Tic Toc - adolygiad gan Dylan Wyn Williams yn Golwg

"A sinistr y diawl oedd Tic Toc hefyd, gyda'r amryddawn [= â llawer o ddoniau, 'all-round'] Eiry Thomas yn chwarae rhan Ceinwen yn byw fel trempyn mewn tŷ siang-di-fang [= pendramwnwgl, 'higgeldy piggeldy'] o sgerbydau.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan sgript Delyth Jones, doedd hon ddim yn hawdd i'w gwylio, gyda'r set a'r prif gymeriad yn creu annifyrrwch [= annymunoldeb] o'r cychwyn cyntaf. Y themâu wedyn, trobwll [=maelstrom] o alar ac eiddigedd, oes o ffugio salwch er mwyn hawlio sylw a chaethiwo'i  [= carcharu] chwaer Mabel i rannu gwely gyda hi ("o'n i biti farw yn y 'nghwsg") a blacmelio'i brawd-yng-nghyfraith ("smacwch fi Glyn"). A'r disgrifiadau cignoeth o farwolaethau "damweiniol" wrth i sawl un "ymyrryd yn nhrefn pethau" a difetha byd delfrydol hunanol Ceinwen.

Gwyliais yn gegwrth, diolch i dalp o hiwmor du bitsh awdures Cwrw, perfformiad ysgubol Eiry Thomas a'i gafael sicr ar dafodiaith Llanelli. Drama ddelfrydol ar gyfer noson Calan Gaeaf."

Saturday, 4 October 2014

Tair - cyfres o ddramâu unigol ar S4C

Cyfrinachau, cariad, celwyddau. Yr Hydref hwn daw tair drama wreiddiol i S4C sy'n camu mewn i feddyliau cymeriadau cymhleth. Bydd Tair yn codi'r chwyddwydr [= magnifying glass] ar fywydau cyfrinachol, yn rhoi llais i'r ochr dywyll ac yn cynnig cyfle i chwerthin.

Dyma dair drama newydd, wedi eu creu gan awduron a chyfarwyddwyr gwahanol, sy'n mentro i dir newydd ac yn rhoi llwyfan i rai o actorion gorau Cymru. Caiff y tair eu darlledu ar nosweithiau Sul am 9.00, heb unrhyw hysbysebion i darfu [tarfu = torri ar draws] ar lif y straeon.

Mae'r ddrama gyntaf yn seiliedig ar nofel Jerry Hunter, Gwreiddyn Chwerw, ac yn trafod effaith un digwyddiad tyngedfennol [am rywbeth sy'n penderfynu ffawd/tynged rhywun] ym mywyd gŵr a gwraig yng nghefn gwlad Eryri ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Darlledir y ddrama gyntaf, Yr Oedi, nos Sul 5 Hydref, 9.00 ar S4C.

Pan gaiff mab hir-ddisgwyliedig ei eni i Mari (Rhian Blythe) a Tomos (Dyfan Dwyfor), mae bywyd yn ymddangos yn berffaith. Ond buan iawn mae pethau'n cael eu troi ben i waered wrth i un frawddeg fach drawsnewid popeth.

Yn y fonolog ddirdynnol  [= poenus ofnadwy, arteithiol] hon sydd wedi ei chyfarwyddo gan Siôn Humphreys, mae Rhian Blythe yn mynnu sylw [=comes to the fore] fel Mair ac mae ei phortread yn llawn tensiynau ac yn ymdrin â themâu oesol: euogrwydd, cywilydd, cenfigen ac edifeirwch [= cyflwr o fod yn ddrwg gennych am ryw ddrygioni].
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.


Catrin Mara a Shelley Rees sy'n serennu yn yr ail ddrama, Cariad Erin, nos Sul, 12 Hydref. Yn ddoniol iawn ar y wedd gyntaf, troedio'r llafn cul [= narrow blade, i.e. tightrope] rhwng y llon a'r lleddf [hapusrwydd a thristwch] mae'r stori hon, wrth i ni gael sbecian [cymryd pip] i bob cornel o fywyd personol, paradocsaidd Erin - digrifwraig standup Gymraeg sy'n dal i dorri ei chalon wedi ysgariad.

Mae sgript frathog [yn brathu/cnoi, chwerw] Siân Naomi a Meirion Davies yn llwyddo i rewi chwerthiniad mewn chwinciad, ac mae cyfarwyddyd Mei Williams, sy'n cyfarwyddo drama am y tro cyntaf, yn dod â byd lliwgar Erin a Jo yn fyw. Dyma ddrama fywiog sy'n llawn cyffro bywyd go iawn.

Yna ar nos Sul, 19 Hydref, Eiry Thomas sy'n rhoi perfformiad caboledig [graenus] fel Ceinwen yn Tic Toc, drama gomedi dywyll iawn wedi ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Delyth Jones.

Eiry Thomas


Yn gaeth i'w chadair o flaen y tân mae Ceinwen mewn stad barhaol o alar am aelodau eraill ei theulu, sydd wedi marw fesul un. Ond o dipyn o beth, i gyfeiliant gwallgo' tician y clociau sy'n plastro'r mur, daw'n amlwg bod sawl cyfrinach ddychrynllyd yn llechu [ymguddio, cwato] rhwng y pedair wal.
awlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.rhwng y pedair wal…

"Mae'n wych cael cyflwyno gwaith gwreiddiol newydd i'r gynulleidfa, a hwnnw'n waith o safon," meddai Gwawr Martha Lloyd, comisiynydd drama S4C. "Mae'r straeon hyn fel clymau  [cwlwm - knot - lluosog] sy'n cael eu datod [= datglymu] i ni yn araf bach; maen nhw'n afaelgar [gafaelgar  = yn cydio yn y dychymyg neu’r teimladau] a ffraeth [= dweud pethau sy’n graff ac yn ddoniol yr un pryd], weithiau'n ddoniol ac weithiau'n sinistr.

"Rydym ni mor ffodus bod yma ddramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion anhygoel o dalentog ar ein stepen ddrws, ac mae Yr Oedi, Cariad Erin a Tic Toc yn rhoi cyfle iddyn nhw ddangos hyd a lled eu sgiliau, a chymaint maen nhw'n gallu ei wneud.

"Dyma dair drama gwbl unigryw ac rydym yn falch iawn o allu rhoi llwyfan iddynt ar S4C."

Thursday, 25 September 2014

Dal ati

Stori lawn ar BBC Cymru Fyw

Mae S4C wedi lansio gwasanaeth newydd gyda'r nod o roi mwy o hyder i bobl siarad Cymraeg.

Bydd gwasanaeth Dal Ati, fydd yn dechrau ar y sianel ar 28 Medi, yn cynnig dwy awr o raglenni bob bore Sul mewn Cymraeg hawdd i'w ddeall.

Cafodd y gwasanaeth newydd ei lansio yn swyddogol ym Maes D, Maes y Dysgwyr, ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ddydd Iau.

Yn ôl ymchwil gan y sianel, mae 'na alw mawr am raglenni a fyddai'n rhoi mwy o hyder i ddysgwyr a siaradwyr sy'n llai hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg.

Fel rhan o'r lansiad, fe fydd 'na ymgyrch hyrwyddo, gyda'r neges "Mae dy Gymraeg di'n ddigon da! Jest Dal Ati".

'Jest Dal Ati'


Yn ogystal â'r rhaglenni bydd ap, gwefan newydd a gwasanaethau digidol pellach yn cael eu lansio yn ddiweddarach.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Wrth lunio'r strategaeth newydd ry'n ni wedi bod yn holi'r gynulleidfa, yn ddysgwyr a phobol sy' eisiau gwella eu sgiliau iaith.

"Mae un peth yn amlwg o'r ymchwil - mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn poeni nad yw eu Cymraeg nhw'n ddigon da ac felly mae'n anodd magu hyder i siarad.

"Wrth awgrymu "Mae dy Gymraeg di'n ddigon da, jest Dal Ati" 'da ni'n annog dysgwyr i roi cynnig arni, i sgwrsio mwy a magu hyder. Ond mae hefyd yn herio'r Cymry sy'n rhugl i gefnogi a helpu eraill i groesi'r bont 'na, a dod yn siaradwyr hyderus."

Y llynedd fe fu S4C yn holi croesdoriad o ddysgwyr, a phobl nad oedd yn hyderus yn eu Cymraeg, ar hyd a lled Cymru, i weld beth oedden nhw eisiau ei weld ar y sianel.


'Hwb enfawr'

Roedd yr ymchwil dan ofal yr arbenigwr ac ymgynghorydd iaith, Cefin Campbell.

Meddai Mr Campbell: "Mae'r gwasanaeth hwn ar fore Sul yn ddatblygiad cyffrous iawn a fydd yn hwb enfawr i ddysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg dihyder i wella eu sgiliau iaith.

"Wrth iddynt ymgyfarwyddo â'r arlwy, y gobaith wedyn yw y cânt ddigon o hyder i wylio mwy o raglenni Cymraeg ar S4C yn ystod yr oriau brig'.

Un o'r rhaglenni newydd o fewn y gwasanaeth Dal Ati fydd Bore Da, rhaglen gylchgrawn yn cael ei chyflwyno gan Elin Llwyd ac Alun Williams. Wedi'i chynhyrchu gan gwmni Tinopolis, Llanelli, bydd y rhaglen yn cynnwys eitemau coginio, teithio, hanes, diwylliant a cherddoriaeth.

Ymhlith y rhaglenni eraill bydd Milltir² (Sgwâr), pan all y gwylwyr ddilyn Nia Parry ar ei thaith o amgylch Cymru yn y gyfres sy'n gynhyrchiad Fflic, rhan o Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C. Bydd rhaglenni am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn hefyd yn cael eu darlledu yn wythnosau cyntaf Dal Ati.

Saturday, 10 May 2014

Wythnos Iechyd Meddwl ar S4C

Mae Amser i Newid Cymru ac S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth, fydd yn arwain at wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Mai 12 – 18. Pwrpas yr wythnos yw i annog pobl i siarad ynghylch iechyd meddwl, a chodi ymwybyddiaeth o’r salwch, pwnc sydd yn dal i fod yn dabŵ yng Nghymru.

 

Mi fydd S4C yn darlledu nifer o raglenni sy’n trafod iechyd meddwl dros yr wythnos, gan gynnwys rhaglen ddogfen Cysgod Rhyfel sy’n sôn am brofiadau cyn-filwyr sydd wedi dioddef o straen yn dilyn eu profiadau mewn rhyfeloedd (PTSD). Darlledir rhaglen hefyd sy’n olrhain stori Owain Gwynedd, sy’n adnabyddus fel un o gyflwynwyr Stwnsh a chyflwynydd chwaraeon yn Iselder: Un Cam ar y Tro, wrth iddo drafod iselder ac hunan-laddiad ei dad yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:

“Mae’r bartneriaeth yma gyda S4C yn gyfle cyffrous i herio’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl. Maen gyfle i ni ddangos i bobl Cymru fod gwneud pethau bach fel mynd am baned neu ofyn ‘sut wyt ti’n teimlo?’ yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n delio â phroblem iechyd meddwl - does dim rhaid bod yn arbenigwr i fod yn ffrind. “

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C

“Dyma gyfres o raglenni sy'n galluogi’r gynulleidfa i rannu profiadau nifer o bobl sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl, ac i wybod am yr effeithiau ar eu teuluoedd hefyd. Yn aml mae hyn yn digwydd tu nôl i ddrysau, ac mae rhannu profiadau yn gymorth i rai sy’n dioddef ac yn fodd i ni’r gynulleidfa i ddysgu a gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei wynebu hefyd. Fel darlledwr rydym yn falch fod y rhaglenni hyn yn medru cyfrannu tuag at weithgareddau wythnos iechyd meddwl.”

Gall pawb wneud rhywbeth i fod yn rhan o’r wythnos drwy ddechrau siarad am iechyd meddwl o fewn eu teuluoedd neu yn y gweithle. Mae yna awgrymiadau defnyddiol ar wefan Amser i Newid Cymru i’ch helpu i ddechrau sgwrs. Mi allwch hefyd ddangos eich cefnogaeth drwy chwilio am Amser i Newid Cymru ar y we ac ar Facebook a Twitter i ymuno â’r sgwrs ar-lein.”

Bydd Amser i Newid Cymru yn gweithio gyda S4C i hyrwyddo’r wythnos ac yn hysbysebu ar y sianel, yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth, rhannu straeon pobl sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl ac i ddechrau sgwrs.

1 o bob 4
Nos Fercher 14 Mai 9.30, S4C

Iselder : Un Cam ar y Tro
Nos Iau 15 Mai 9.30, S4C

Cysgod Rhyfel
Nos Sul 18 Mai 9:00, S4C

Newyddion 9
Nos Lun i Nos Wener 12-16 Mai, S4C
Lois
Nos Sul, 18 Mai 10:00, S4C

Sunday, 13 April 2014

Wythnos Werin S4C

Mae S4C am ddathlu’r adfywiad cyffrous yn y byd gwerin Cymraeg trwy gynnal Wythnos Werin rhwng dydd Llun, 14 Ebrill a dydd Sul, 20 Ebrill.

Fe fydd yr wythnos o raglenni yn rhoi llwyfan i lond gwlad o berfformwyr cyfoes sy’n tynnu sylw rhyngwladol at gyfoeth cerddorol Cymru.

Bydd Wythnos Werin S4C yn cynnwys y rhaglen gyntaf mewn cyfres bwysig newydd Y Goeden Faled [baled - ballad] sy’n dechrau nos Fawrth, 15 Ebrill pan fydd y gantores Cerys Matthews yn mynd â’r gwylwyr ar daith wrth iddi hel achau [trace the ancestry] rhai o ganeuon gwerin hynaf Cymru. 

Bydd geiriau ac alawon y caneuon yn agor y drws ar hanes a straeon di-ri, ac yn mynd â’r gwylwyr y tu hwnt i ffiniau Cymru a hynny i lefydd tra annisgwyl. 

Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Noson yng Nghwmni Al Lewis nos Sadwrn, 19 Ebrill lle mae’r cyfansoddwr o Bwllheli, aeth ar daith gyda Jools Holland y llynedd yn perfformio rhai o’i hoff ganeuon.

Ac fe fydd cyngerdd acwstig go arbennig nos Iau, 17 Ebrill pan fydd yr athrylith gerddorol Meic Stevens yn perfformio rhai o’i ganeuon gorau.



Gallwn hefyd fwynhau taith gerddorol a gweledol yn edrych ar y cyfoeth o gerddoriaeth a cherddorion traddodiadol yng Nghymru yn y gyfres ddwy ran newydd Y Ffwrnes Gerdd nos Wener a nos Sadwrn, 18 a 19 Ebrill.

Bydd yr wythnos yn dechrau nos Lun, 14 Ebrill gyda rhaglen o’r 1980au yn dilyn y band gwerin Ar Log ar eu taith o gwmpas America. Nos Fawrth, 15 Ebrill mewn rhaglen o 1986, cawn fwynhau perfformiad o’r Majestic, Caernarfon gan y band Runrig o’r Alban sydd eleni yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed.

Bydd cyfle arall i ddilyn yr artist eiconig Catrin Finch, wrth iddi olrhain hanes ein hofferyn cenedlaethol, y delyn nos Fercher, 16 Ebrill. Yr un noson, bydd cyfle arall i weld rhaglen deyrnged i’r diweddar Elfed Lewys, y pregethwr, canwr a’r cyfansoddwr a oedd yn un o sefydlwyr Gŵyl Werin y Cnapan.

Yn y rhaglen Gwerin o’r Stiwdio Gefn nos Sul, 20 Ebrill, cawn uchafbwyntiau rhai o berfformiadau gwerin y gyfres Y Stiwdio Gefn.

Monday, 3 March 2014

Dathlu Darllen ar S4C a Radio Cymru

“Ddylai llyfrau ddim codi ofn ar neb; mi ddylen nhw fod yn ddoniol, yn gyffrous ac yn rhyfeddol.”

Dyma eiriau Roald Dahl, yr awdur hynod boblogaidd a aned yng Nghaerdydd, ac ar wythnos Dathlu Darllen S4C bydd llond silff lyfrau o raglenni ac eitemau yn adleisio neges yr awdur ar y Sianel.

Yn ystod wythnos Dathlu Darllen S4C, rhwng dydd Llun 3 Mawrth a dydd Sul 9 Mawrth, bydd amserlen y Sianel yn cynnwys nifer fawr o raglenni, ffilmiau ac eitemau, oll yn dathlu darllen.

Yr uchafbwynt fydd Diwrnod y Llyfr, sydd wedi ei osod yn daclus yn y canol Ddydd Iau 6 Mawrth.
Mae wythnos Dathlu Darllen S4C yn cael ei threfnu mewn partneriaeth gyda Chyngor Llyfrau Cymru a BBC Radio Cymru wrth iddyn hwythau baratoi amrywiaeth o eitemau a digwyddiadau yn ymwneud â darllen trwy gydol yr wythnos.

Ar S4C bydd cyfuniad o raglenni gwych o’r archif a rhaglenni newydd sbon yn rhoi sylw i rai o awduron gorau Cymru yn golygu y bydd rhywbeth ar gyfer bob darllenwr brwd.

Ymhlith yr uchelfannau fydd portread ffilm o’r diweddar fardd Iwan Llwyd, golwg o’r newydd ar y clasur i blant Teulu Bach Nantoer ac ymweliad Bardd Plant Cymru Aneirin Karadog â phentref pwysig yn ein llenyddiaeth plant.

Cawn olwg ar un o Gymry mawr yr ugeinfed ganrif nos Lun 3 Mawrth, wrth i Ffion Hague fynd ar drywydd Kate Roberts, y wraig fusnes, wrth iddi frwydro i sicrhau parhad Gwasg Gee ar Mamwlad: Kate Roberts. Yna nos Fercher 5 Mawrth bydd cyfle arall i glywed pa nofel enwog yw hoff nofel yr actores Ffion Dafis ar 6 Nofel: Ffion Dafis.

Yna ar S4C ddydd Iau 6 Mawrth, sef Diwrnod y Llyfr, byddwn yn ail-ymweld â Teulu Bach Nantoer, sydd bellach ar gael ar e-lyfr,  wrth i Beti George fynd ar drywydd y nofel, yr awdur a’i darllenwyr.
Yna ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth cawn ein diddanu gan Y Rhwyd. Dyma ffilm sydd wedi ei selio ar nofel Caryl Lewis, ffilm lawn cynnwrf, rhyw, cynllwyn a thro annisgwyl ar y diwedd.

Yna ddydd Sul 9 Mawrth bydd S4C yn darlledu rhaglen newydd sbon fydd yn edrych ar fywyd a gwaith y bardd Iwan Llwyd. Ar Iwan Llwyd: Rhwng Gwên nos Sadwrn a gwg y Sul bydd cyfweliadau a ffilm archif unigryw o’r 90au, yn ogystal â chyfweliadau gyda nifer o ffrindiau a theulu’r bardd.

Yn dilyn y rhaglen honno bydd ailddarllediad o Afal Drwg Adda, drama-ddogfen dreiddgar yn ymdrin â bywyd a gwaith awdur ‘Un Nos Ola Leuad’, Caradog Prichard.

Bydd y rhaglen gylchgrawn Heno hefyd yn twrio trwy fyd y llyfrau yn nosweithiol ac yn dilyn Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru ar Ddiwrnod y Llyfr wrth iddo deithio i bentref arbennig iawn, Pentre Bach.
Bydd plant a phobl ifanc yn dod yn rhan o’r hwyl hefyd. Bydd cyflwynwyr gwasanaeth Cyw S4C yn holi eu gwylwyr ifanc beth ydy eu hoff lyfr ac yn cynnal cystadleuaeth i ennill hamper llawn o lyfrau newydd!

Ac ar Stwnsh, gwasanaeth plant hyn S4C byddwn yn cael cip olwg ar lyfr diweddara’r cyflwynydd Anni Llŷn, a bydd criw Stwnsh hefyd yn holi’r gwesteion yn y stiwdio am eu hoff lyfr.

A chofiwch y gallwch chithau fod yn rhan o’r dathlu gan drydar eich hoff lyfr neu awdur a defnyddio’r hashnod #dathludarllen, os medrwch chi adael eich llyfr am eiliad wrth gwrs!

Tuesday, 25 February 2014

Adleoli Pencadlys S4C

Mae’r drafodaeth wedi bod yn un brwd dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â dyfodol Pencadlys S4C, ar ôl i’r Sianel gyhoeddi eu bod nhw’n ystyried symud o Gaerdydd.

Caernarfon a Chaerfyrddin yw’r ddwy dref sydd wedi rhoi eu henwau ymlaen hyd yn hyn, gyda chynnig Caernarfon yn cael ei harwain gan Gyngor Gwynedd a chais Caerfyrddin wedi’i arwain gan Brifysgol Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r ddwy ymgyrch wedi bod yn pwysleisio rhai o fanteision dewis eu trefi nhw fel lleoliad Pencadlys y sianel – ond mae’n bosib y gall S4C benderfynu aros yng Nghaerdydd.

Caerfyrddin?

Cynhaliwyd cyfarfod yr wythnos diwethaf yng Nghaerfyrddin gan grŵp Egin sydd yn ymgyrchu i ddod a’r Pencadlys i’r dref.

Maen nhw’n dadlau y byddai’n hwb enfawr i ardal Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ble mae’r Gymraeg wedi dirywio, yn ôl y Cyfrifiad diwethaf.

Maen nhw hefyd yn pwyntio at sefydliadau fel y Theatr Genedlaethol yng Nghaerfyrddin fel rhai all gyfrannu at greu hwb creadigol a diwylliannol yn y dref.



Os 'dych chi'n cytuno gyda'r bobl yma, cewch chi arwyddo llythyr agored at Awdurdod S4C (yn fan hyn) .

Caernarfon?

Ar y llaw arall mae ymgyrchwyr o blaid Caernarfon wedi dadlau y byddai modd creu hwb cyfryngol yn y gogledd petai pencadlys S4C yn symud i’r dref.

Mae’r ardal eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau cyfryngol llai gan gynnwys nifer yn adeilad Galeri’r dref, ynghyd a chanolfan Pontio a stiwdios y BBC ym Mangor.

Byddai creu clwstwr o sefydliadau cyfryngol a chreadigol o gwmpas Caernarfon hefyd yn cydbwyso llawer o swyddi sydd ar hyn o bryd yn mynd i Gaerdydd, yn ôl cefnogwyr.

… neu aros yng Nghaerdydd?

Wrth gwrs gall S4C benderfynu nad ydyn nhw am symud eu Pencadlys o gwbl, ac aros yn eu lleoliad presennol yng Nghaerdydd.

Mae rhai’n dadlau y byddai hyn yn arbed ar gostau symud, a bod canolfan yn y brifddinas yn gwneud mwy o synnwyr beth bynnag.

Felly ble ydych chi’n credu dylai Pencadlys S4C fod?

(Diolch i Golwg360)

Monday, 4 March 2013

Gerallt Lloyd Owen

Darlledwyd rhaglen arbennig o dda am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ar S4C. Bydd y rhaglen ar gael ar S4C Clic (yma) tan 2 Ebrill.

O wefan S4C:

Rhaglen ddogfen onest a threiddgar am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref, ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd a'i ofnau. Gyda darlleniadau o rai o'i gerddi pwysicaf, mae'r rhaglen hon yn treiddio'n ddyfnach i'r themâu sydd wedi cydio ynddo gydol ei oes.

 

Tuesday, 13 November 2012

Con Passionate

Dyma clip o'r gyfres Con Passionate, un o gyfresi mwyaf llywddiannus S4C erioed.