https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47758939
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label pwnc llosg. Show all posts
Showing posts with label pwnc llosg. Show all posts
Saturday, 30 March 2019
Pam bod pobl ifainc yn gadael y Fro Gymraeg?
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47722647
Dyma gyfraniad pwysig i'r ddadl am pam mae cymaint o bobl ifainc yn gadael gorllewin Cymru.
Dyma gyfraniad pwysig i'r ddadl am pam mae cymaint o bobl ifainc yn gadael gorllewin Cymru.
Wednesday, 6 March 2019
Sunday, 6 January 2019
Huw Marshall: "Cwestiynau sydd angen eu gofyn am agwedd y BBC at y Gymraeg"
Diolch i Golwg360 am yr adroddiad yma:
https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/536686-cwestiynau-sydd-angen-gofyn-agwedd-gymraeg
https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/536686-cwestiynau-sydd-angen-gofyn-agwedd-gymraeg
Mae yna “gwestiynau sydd angen eu gofyn” o hyd am agwedd y BBC at y Gymraeg, yn ôl ymgynghorydd digidol a sefydlodd ddeiseb yn 2017 yn galw am ‘adolygiad annibynnol i sut mae’r BBC yn portreadu’r Gymraeg’.
Cafodd y ddeiseb ei sefydlu ar-lein yn dilyn rhifyn o’r rhaglen Newsnight, lle bu panel yn trafod a ydi’r Gymraeg yn “help neu’n hindrans” i’r genedl.
Ym mis Medi 2017 mi anfonodd Huw Marshall y ddeiseb – gyda thros 8,000 o lofnodion arni – at y BBC; y rheoleiddiwr, Ofcom; ac Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) San Steffan.
Bellach mae wedi derbyn ymatebion i’w geisiadau, ond dyw e ddim yn “hapus”.
Problem
“Wnes i ofyn i’r BBC i holi eu hunain ‘Oes yna broblem mewn agwedd tuag at yr iaith Gymraeg yn sefydliadol o fewn y BBC?’,” meddai Huw Marshall wrth golwg360.
“Wrth gwrs mi wnaeth y BBC ateb yn dweud ‘Na, does yna ddim’. Wnaethon nhw ddim cynnig tystiolaeth o sut yr oedden nhw wedi profi hynny… a ddoe (dydd Mercher, Ionawr 2) mi wnaeth Ofcom ymateb i’r gŵyn wreiddiol am raglen Newsnight yn dweud nad oedd yr eitem yn torri unrhyw reolau.
“Problem fi efo hynny oedd [eu honiad bod yr eitem] yn ddiduedd – bod dau berson o’r ddwy ochr wedi siarad.”
Y ddau gyfrannwr at yr eitem oedd yr awdur, Julian Ruck, – “troll proffesiynol”, ym marn Huw Marshall – a Ruth Dawson, golygydd sydd methu siarad Cymraeg.
Jeremy Vine
Mae Huw Marshall yn bwriadu dal ati i bwyso ar y BBC am atebion, ac mae wedi gofyn am gofnodion y cyfarfod lle cafodd eu hymateb ato ei lunio – gan gymryd y bu yna gyfarfod.
Bydd e hefyd yn gyrru ei ohebiaeth â’r BBC, Ofcom, a DCMS at Bethan Sayed, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a’r Iaith Gymraeg; a gofyn iddi edrych i mewn i’r mater.
Yn dilyn ffrae iaith ddiweddar yn gysylltiedig â’r cyflwynydd radio BBC, Jeremy Vine, mae’n pwysleisio bod cwestiynau i’w holi o hyd.
“Nid gyda Ofcom a’r BBC yn unig, mae’r broblem,” meddai.
“Mae’r agwedd Brydeinig yma. Os does dim problem fewnol, mi fyddai ymchwiliad yn darganfod hynny. Ond nes bod nhw’n gwneud hynny does dim ffordd o ddarganfod.
“Mae’n amserol bod y busnes Jeremy Vine yma wedi dod fyny. Mae’n grêt bod Jeremy Vine wedi ymateb yn y ffordd mae o wedi, ond beth yw’r prosesau sy’n arwain i’r pethau yma ddigwydd tro ar ôl tro?”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC ac i Ofcom am ymateb.
"Sylwadau gwirion" Jeremy Vine am yr iaith Gymraeg: https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/536650-jeremy-vine-ytrafod-dechrau-dysgu-cymraeg-gyda
Wednesday, 13 June 2018
Sunday, 22 April 2018
Hywel Dda yn trafod newidiadau i'r gwasanaeth iechyd
Opsiwn A
- Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.
- Byddai ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.
Opsiwn B
- Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.
- Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol.
- Byddai ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol.
Opsion C
- Creu ysbyty fyddai'n delio â gofal brys yn unig - nid gofal wedi'i drefnu o flaen llaw - rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.
- Ysbyty Tywysog Philip i barhau'n ysbyty cyffredinol.
- Ysbyty Glangwili'n troi'n ysbyty gofal wedi'i drefnu o flaen llaw yn unig.
- Byddai Llwynhelyg yn cael ei hisraddio i ysbyty cymunedol.
Ym mhob opsiwn bydd Bronglais yn Aberystwyth yn parhau'n ysbyty cyffredinol.
__________________
Mwy gan BBC Cymru Fyw:
Mae Bwrdd iechyd Hywel Dda yn ffafrio adeiladu ysbyty newydd yn y gorllewin - ond bydd yn rhaid sicrhau cyllid ar ei gyfer a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn i hynny ddigwydd.
Ddydd Iau fe wnaeth aelodau'r bwrdd gwrdd yn Hwlffordd i drafod tri opsiwn gwahanol - y tri yn golygu codi ysbyty newydd - fyddai'n golygu ad-drefnu sylweddol a phellgyrhaeddol i wasanaethau iechyd yn yr ardal.
Ond mae ymgyrchwyr lleol a gwleidyddion eisoes wedi beirniadu'r penderfyniad.
Mae'r ad-drefnu yn dilyn rhybuddion fod gwasanaethau iechyd yn yr ardal yn anghynaladwy [ = unsustainable] a bod 'na risg y gallai rhai ddymchwel o ganlyniad i gynnydd yn y galw am ofal ac oherwydd prinder difrifol o staff.
Fe fyddai pob un o'r opsiynau yn gweld Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli ei statws fel ysbyty cyffredinol 24 awr y dydd a byddai Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin hefyd yn colli gwasanaethau allweddol - gan gynnwys yr uned frys.
Y gred yw y bydda'r ysbyty newydd yn cael ei godi rhywle rhwng Aberth yn Sir Benfro a Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Phil Kloer, cyfarwyddwr Clinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y byddai'n rhaid i'r bwrdd sicrhau cynllun busnes manwl a chyllid cyn bwrw mlaen gyda'r cynllun.
Fe fydd ymgynghoriad ar y cynllun yn para am 12 wythnos, gan orffen ar 12 Gorffennaf.
Yn ôl penaethiaid, does dim un opsiwn ar hyn o bryd yn cael ei ffafrio ac fe allai'r cynlluniau newid wedi i'r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad.
Mae'r bwrdd hefyd wedi ymrwymo i symud rhagor o wasanaethau o ysbytai i gymunedau a darparu gofal - lle bo modd - yng nghartrefi cleifion.
Dywedodd prif weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, ar ddechrau'r cyfarfod eu bod yn ceisio gosod stori bositif am ddyfodol gofal iechyd yn y rhanbarth.
"Mae hwn yn ddechrau trafodaeth bwysig, ni all y statws quo barhau," meddai.
"Bydd lleihau nifer y prif ysbytai yn golygu fod llai o rotas meddygol i'w llenni, ac yn ei gwneud yn haws i ddenu clinigwyr i ddod yma i weithio, fe fydd hefyd yn golygu rhestrau aros llai..."
Ond mae'r argymhellion eisoes wedi eu beirniadu gan wleidyddion lleol, gyda AS Preseli Penfro Stephen Crabb yn dweud fod y penderfyniad yn creu mwy o "ansicrwydd a phryder i bobl leol".
'Angen codi llais'
Dywedodd Lee Waters, AC Llanelli, na fyddai'n derbyn unrhyw gynnig i israddio statws Ysbyty Cyffredinol Tywysog Philip yn Llanelli i fod yn ysbyty cymunedol.
Dywedodd: "Yn sicr mae'n rhaid eu bod yn gwybod bod hwn yn gynllun afrealistig yn y lle cyntaf a fydd yn achosi pryder diangen."
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Jonathan Edwards AS, Adam Price AC a Simon Thomas AC o Blaid Cymru nad oedd yna unrhyw addewidion o arian yn bodoli ar gyfer y cynllun.
"Mae angen i drigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro godi llais o blaid eu gwasanaethau lleol.
"Os nad yw'r statws quo yn opsiwn, beth yw opsiynau'r bwrdd iechyd pan nad yw addewidion ar gyfer buddsoddiad yn bodoli?"
Dadl y bwrdd yw bod patrwm presennol gwasanaethau yn anaddas ar gyfer y dyfodol ac yn ei gwneud hi'n gynyddol anodd i gynnig gofal diogel ac effeithiol.
Heb newid, yn ôl penaethiaid, mae 'na risg y gallai cyfraddau [= rates] goroesi ostwng.
Ond mae'n debygol y bydd 'na wrthwynebiad sylweddol i'r cynlluniau gan rai sydd eisoes yn dadlau y gallai symud gwasanaethau yn bellach oddi wrthyn nhw beryglu bywydau.
Ymgynghoriad
Bydd ymgynghoriad ar y tri opsiwn yn cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos, a gall y cyhoedd ymateb trwy'r post, ar y ffôn, e-bost, ar-lein, gwefannau cymdeithasol neu mewn saith digwyddiad cyhoeddus fydd yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth.
Bydd y farn yn cael ei gasglu a'i ystyried cyn i'r bwrdd iechyd wneud penderfyniad terfynol yn yr hydref.
Carwyn Jones yn ymddiswyddo. Y dadansoddiad.
Saturday, 21 April 2018
Cynllunio a'r Gymraeg - creu pentrefi newydd?
Diolch i Golwg360 am yr adroddiad yma.
Wrth alw am drefn gynllunio wedi ei theilwra ar gyfer anghenion Cymru, mae bargyfreithiwr adnabyddus hefyd yn credu bod yna le i ddysgu gan y cymdogion tros Glawdd Offa.
Roedd Gwion Lewis yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddoe i draddodi’r ddarlith ‘Cynllunio a’r iaith Gymraeg: Sut i godi tai a chael miliwn o siaradwyr erbyn 2050’.
Ac mae wedi dweud wrth golwg360 y gallai’r trefi eco, sy’n cael eu cynllunio yn Lloegr yn benodol i roi’r flaenoriaeth i’r amgylchedd, fod yn batrwm ar gyfer creu pentrefi sy’n rhoi’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg yma yng Nghymru.
“Dw i ddim yn meddwl bod lot o syniadau i’w cymryd o’r system [gynllunio] yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis.
“Ond un syniad sydd angen i ni ystyried ydy’r syniad yma o gynlluniau cymdogaethol, sef neighbourhood plans.”
Dan y drefn yn Lloegr mae cynghorau plwyf a chymuned – yn hytrach na chynghorau sir fel yng Nghymru – yn cael paratoi ‘cynlluniau cymdogaethol’ sy’n nodi safle a nifer y tai i’w codi yn lleol. Ac mae refferendwm yn cael ei gynnal ar gynnwys y cynlluniau hefyd.
“Mae’r haen newydd yma o gynllunio lleol wedi bod yn ofnadwy o lwyddiannus yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis, “o safbwynt medru rheoli yn well faint o dai sy’n cael eu codi, a lle maen nhw yn mynd.
“Ond yn fwy na hynny hefyd, mae cymunedau lleol wedi medru cael, yn sgîl y trafodaethau maen nhw wedi eu cael efo’r datblygwyr… eu bod nhw yn cael llawer iawn mwy o adnoddau ac isadeiledd i’r gymuned leol, nag y bysa cyngor sir yn medru ei sefydlu drwy’r trafodaethau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y sir.
“Ac yn aml iawn, gan fod y datblygwyr yn awyddus i gael rhyw fath o gytundeb yn sydyn… ac eisiau osgoi’r broses apêl sy’n gallu cymryd blynyddoedd, maen nhw yn aml yn fodlon cytuno i godi llai o dai, a rhoi llawer iawn mwy o safbwynt isadeiledd i’r gymuned leol.”
Efelychu cynlluniau Lloegr
Yn ôl Gwion Lewis, mae modd efelychu “elfennau” o gynlluniau cymdogaethol y drefn yn Lloegr a chreu ‘cynlluniau cymunedol’ “hynod leol” yma yng Nghymru “fydd yn fendithiol i’r iaith”.
“Ein bod ni yn galluogi cynghorau cymuned yma yng Nghymru i hyrwyddo a sefydlu cynlluniau cymunedol, er mwyn rhoi’r grym i gymunedau fedru penderfynu lle mae tai yn mynd, a faint sy’n cael eu codi.
“Ond eu bod nhw hefyd yn medru cael mwy o ddylanwad ar y math o isadeiledd sydd yn dod ynghylch y tai hynny.
“Mae’n ymddangos bod yna gyfleon, er enghraifft, i hyrwyddo cael mwy o ysgolion cynradd Cymraeg. Ein bod ni yn sefydlu ardaloedd manwerthu sydd yn rhoi’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.
“Ei bod hi’n bosib, drwy’r cynlluniau lleol yma, i wneud rhywbeth tebyg i’r hyn sydd wedi ei wneud yn Lloegr gydag eco towns, lle mae yna bolisïau yn cael eu sefydlu er mwyn codi trefi a phentrefi newydd sy’n dangos arferion da o safbwynt yr amgylchedd.
“Pam na fedrwn ni wneud rhywbeth tebyg yng Nghymru? Ein bod ni yn hyrwyddo, efallai, un ai pentrefi newydd neu yn sicr bod unrhyw ehangu i’n pentrefi presennol ni, ar y sail bod yna arferion da iawn yn gorfod cael eu dangos o safbwynt y Gymraeg…
“Mae yna sgôp yn y cynlluniau cymunedol hyn i newid natur y drafodaeth yng Nghymru.
“Yn hytrach na bod ni yn gweld y Gymraeg fel rhyw broblem a rhywbeth sydd “yn dal pobol yn ôl yn economaidd”, bod pawb – yn cynnwys datblygwyr – yn dechrau gweld cyfleoedd economaidd o safbwynt y Gymraeg.”
Wednesday, 18 April 2018
Anoddach cael apwyntiad cyfleus â meddyg
Diolch i BBC Cymru Fyw am yr adroddiad yma.
Mae'n mynd yn anoddach i bobl drefnu apwyntiad cyfleus gyda'u meddyg teulu, yn ôl ffigyrau newydd - ac ardaloedd trefol sy'n diodde' waethaf.
Rhwng 2012/13 a 2016/17, fe gododd y nifer sy'n cael trafferth mawr i gael apwyntiad cyfleus o 15% i 21%.
Fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru holi 10,000 o bobl a chanfod bod y broblem ddwywaith yn waeth mewn ardaloedd trefol o'i gymharu â'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad.
Dywedodd lefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw'n cydweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella mynediad at feddygon fel rhan o gynllun diwygio ehangach.
Poblogaeth sy'n heneiddio
Llynedd fe wnaeth cadeirydd Pwyllgor Iechyd Gogledd Cymru, Dr Eamonn Jessup ddweud fod y gwasanaeth yn y rhanbarth "bron â chyrraedd stad o argyfwng".
Yn yr arolwg o 10,493 o bobl, mae nifer y bobl aeth i weld meddyg teulu dros y 12 mis diwethaf wedi aros yn gymharol sefydlog ar 77%.
Ond fe gododd y nifer oedd wedi cael trafferth i wneud hynny yn sylweddol mewn rhai ardaloedd.
O'r rhai gafodd drafferthion, roedd 23% yn byw mewn dinasoedd, 20% mewn trefi, 15% mewn pentrefi a 12% mewn mannau anghysbell yng nghefn gwlad.
Er hyn dywedodd 90% o'r bobl a holwyd eu bod yn fodlon iawn gyda'r gwasanaethu a gawson nhw pan aethon nhw i weld eu meddyg teulu.
'Angen buddsoddiad'
Cadeirydd cyngor y BMA yng Nghymru yw Dr David Bailey, a dywedodd fod cynnydd ym mhoblogaeth ardaloedd trefol a dinesig yn cael effaith.
Ond ychwanegodd: "Mae hyn yn llai pwysig na heneiddio. Ry'n ni'n byw yn hirach - saith mlynedd yn hwy na 30 mlynedd yn ôl.
"Mae'r boblogaeth wedi cynyddu 10%, a hynny'n bennaf rhwng 74-82 oed pan mae pobl angen gweld eu meddyg yn amlach."
Dywedodd hefyd fod meddygon yn gweld eu cleifion chwe gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i 19 miliwn o apwyntiadau dros Gymru gyfan.
Er bod mwy o gleifion ar restrau meddygfeydd ardaloedd trefol a dinesig, mae recriwtio meddygon yn broblem sy'n gyffredin i bob ardal, a dywedodd fod angen buddsoddiad yn y maes.
Ychwanegodd Dr Bailey fod angen fferyllfeydd cymunedol a nyrsys arbenigol er mwyn rhannu'r baich.
Friday, 13 April 2018
Ffrae'r bont
Galwodd Matholwch ar holl filwyr Iwerddon a phenderfynwyd cilio i ochr draw afon Llinon a thorri’r bont ar draws yr afon i rwystro Bendigeidfran a’i wŷr rhag eu cyrraedd. Pan gyrhaeddodd lluoedd Bendigeidfran yr afon, dywedodd ei wŷr wrtho,
“Arglwydd, gwyddost faint yr afon: ni fedrwn ei chroesi ac nid oes pont trosti. Beth yw dy gyngor di am bont?”
“Dim ond hyn: sef a fo ben bid bont. Mi fyddaf i’n bont.”
Gorweddodd Bendigeidfran ar draws yr afon a chroesodd y lluoedd yr afon.
(Chwedl Branwen ferch Llŷr (Ail Fainc y Mabinogi)
Roedd Bendigeidfran yn gawr, wrth gwrs, a phrin iawn y byddai byddin, hyd yn oed byddin o gorachod, yn medru croesi afon ar gefn Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd am ail-enwi ail bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
Bu ymateb ffyrnig i'r penderfyniad, ac erbyn hyn dros 35,000 o bobl sy wedi arwyddo deiseb yn galw ar Mr Cairns i ail-feddwl.
Yng nghanol y ffrae, penderfynodd y Sunday Times gorddi'r dyfroedd ymhellach gyda darn ymfflamychol gan ei golofnydd Rod Liddle:
Yna lansiodd rhywun arall ddeiseb i ail-enwi Mr Cairns.
Dyma adroddiad Golwg360 a chyfraniad Hedd Gwynfor:
Yng nghanol y ffrae, penderfynodd y Sunday Times gorddi'r dyfroedd ymhellach gyda darn ymfflamychol gan ei golofnydd Rod Liddle:
Yna lansiodd rhywun arall ddeiseb i ail-enwi Mr Cairns.
Dyma adroddiad Golwg360 a chyfraniad Hedd Gwynfor:
O fewn ychydig oriau’n unig, mae mwy na 3,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu ailenwi’r ail Bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, i ail-feddwl, ac mae nifer o bobol wedi ymateb yn chwyrn [= heated, vigorous] i’r penderfyniad a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Prydain heddiw heb ymgynghori â Chymru o gwbwl.
Dywed Alun Cairns y byddai enwi’r bont ar ôl y Tywysog Charles yn “deyrnged addas” iddo yn ystod blwyddyn ei ben-blwydd yn 70 oed.
Fe ddaeth i’r amlwg heddiw nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi ymgynghori â neb yng Nghymru ynghylch y newid enw, ond bod Ysgrifennydd Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y llynedd, yn nodi bod hyn yn mynd i ddigwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones, nad oedd wedi codi unrhyw wrthwynebiad ar y pryd.
Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, wedi dweud ar Twitter na chafodd yr Aelodau Cynulliad eu hymgynghori ar yr enw.
Ac mae eraill ar y cyfryngau cymdeithasol wedi mynegi eu barn ar yr enw:
Tudur Owen: Dwi mor flin am y llywodraeth yn ail enwi Pont Hafren fel fy mod i am feddwl am betha clyfar i roi ar twitter gwasgu 'like' loads o weithia. #chwyldroadol #manwnchwerthin #daninffycd
Iola Wyn: Cwbwl amlwg i unrhywun be bynnag fo’i farn, bod hwn yn benderfyniad dadleuol ac ansensitif i’r rhai sy’n gwarchod a pharchu treftadaeth, diwylliant a hanes Cymru.Y cwestiwn pryderus - sut bod hyn yn medru digwydd mor llechwraidd [=furtive] a di-rybudd mewn gwlad ddemocrataidd,yn honedig #PontHafren
Robat Idris: Un enghraifft yn unig o #ProjectWesternEngland ydi'r miri [=sbort a sbri, hwyl] am enwi Pont Hafren. #Brexit sy wedi symbylu hyn. Atgyfnerthu #Prydeindod #Brenhiniaeth
Gallwn ddisgwyl llawer mwy o'r math yma o lol gan Cairns a'i debyg. #TarorPost
Gallwn ddisgwyl llawer mwy o'r math yma o lol gan Cairns a'i debyg. #TarorPost
Beth yw'ch barn chi?
Subscribe to:
Posts (Atom)



