Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label cyfryngau cymdeithasol. Show all posts
Showing posts with label cyfryngau cymdeithasol. Show all posts
Monday, 6 May 2019
Wednesday, 16 January 2019
Beth yw Bro360?
Saturday, 13 October 2018
Gweinidog yn herio trolio ar-lein
Rhagfarn a chasineb yn erbyn lleiafrifoedd: ydych chi'n meddwl bod cymdeithas yn fwy goddefgar nag yr oedd hi 50 mlynedd yn ôl? Oes 'na beryg bod agweddau pobl yn gyffredinol yn mynd yn llai goddefgar o, yng ngeiriau Wyn Tomos, "unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol"?
Ffynhonnell: BBC Cymru Fyw
Cyfweliad ar Taro'r Post ar gael yn fan hyn (28 munud i mewn).
Ffynhonnell: BBC Cymru Fyw
Cyfweliad ar Taro'r Post ar gael yn fan hyn (28 munud i mewn).
___________________
Mae gofyn herio pobl sy'n anfon negeseuon ciaidd [= creulon, calon-galed] ar-lein, yn ôl gweinidog gyda'r Undodiaid.
Dros y penwythnos, derbyniodd y Parchedig Wyn Thomas o Landysul negeseuon cas yn ymosod ar ei rywioldeb.
Dywedodd iddo benderfynu wynebu'r bwlio am nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i'w "gwato".
Yn ogystal, ychwanegodd prif weithredwr Stonewall Cymru, bod angen "herio" trolio o'r fath a gwneud ymdrech i gefnogi eraill sy'n cael eu targedu.
'Ddim yn rhywbeth i gwato'
Ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, soniodd y Parchedig Thomas iddo dderbyn negeseuon cas yn gyhoeddus ac yn breifat oddi wrth griw penodol o bobl.
"A fi'n cymryd yn ganiataol, a falle bo fi'n anghywir, mai fy nhro i oedd hi, a bo nhw wedi gwneud penderfyniad i bigo arna' i dros y penwythnos."
Dywedodd ei fod wedi synnu'n wreiddiol i dderbyn y negeseuon: "Er bo fi'n weinidog mewn ardal ddigon ceidwadol, mae pawb wedi bod yn hynod gefnogol i fi'n bersonol."
Cafodd ei gapel ei alw'n "
sodomite church
" ac fe gafodd y Parchedig Thomas ei annog i gymryd ei fywyd ei hun.
Dywedodd y Parchedig Thomas ei fod wedi herio'r negeseuon am fod teimladau isel o'r fath yn rhywbeth "mae lot o bobol ifanc hoyw wrth dyfu lan yn eu cael" a bod peryg i dderbyn negeseuon o'r fath allu "atgyfnerthu teimladau fel 'na".
"Felly dyma pam o'n i'n teimlo 'mod i am ddweud nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i gwato," meddai.
Ymatebodd y Parchedig Thomas i'r negeseuon yn gyhoeddus, gan nodi na fyddai'n "cywilyddio" nac yn "cuddio".
"Sai moyn rhoi sylw iddyn nhw achos sylw ma' nhw eisiau, ond ar y llaw arall, mae'n hollbwysig bod pobol yng Nghymru a thu hwnt yn ymwybodol mai lleiafrif yw'r bobol sy'n casáu nid dim ond pobol hoyw ond unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol."
Angen herio
Yn ôl Andrew White, prif weithredwr Stonewall Cymru, mae un o bob 10 o bobl LHDT [= Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol Trawsrywiol] yng Nghymru wedi profi negeseuon o'r fath ar-lein yn y mis diwethaf.
Mae un o bob pedwar wedi profi'r fath gamdriniaeth wedi ei anelu at rywun arall ar-lein yn y mis diwethaf, ac ymhlith pobol ifanc, mae'r ffigwr yn codi i ddwy ran o dair.
Dywedodd Mr White bod angen "herio" negeseuon ciaidd o'r fath.
"Os y'ch chi'n dyst i'r fath beth, weithiau dy'ch chi mewn sefyllfa lot cryfach na'r un sydd yn darged i'r casineb," meddai.
"Ewch i sefyll wrth ochr rhywun a neidio mewn, fel petai, i sefyll yn erbyn y fath ymddygiad.
"Cefnogwch bobl sy'n cael eu targedu fel hyn, maen nhw'n fregus ac yn aml dyna'r rheswm pam eu bod yn cael eu targedu.
"Mae'n meddwl y byd ac mae'n cael effaith."
Labels:
cyfryngau cymdeithasol,
hoyw,
LHDT,
materion cyfoes,
undodiaeth
Newyddiaduriaeth Gymraeg i'r genhedlaeth iau
[Ffynhonnell: Datganiad i'r wasg gan S4C]
Mae HANSH, gwasanaeth ar-lein ffurf fer S4C, am roi blas go iawn o newyddiaduriaeth i’w gwylwyr.
Bydd HANSH: Dan Sylw yn rhoi lle i newyddiadurwyr iau fynd i'r afael â'r materion a'r straeon sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru a'r byd.
Tîm materion cyfoes ITV Cymru, y criw tu ôl i gyfresi gafaelgar [gripping], Y Byd ar Bedwar a'i chwaer raglenni Y Byd yn ei Le ac Ein Byd, sydd am ychwanegu elfen newyddiadurol bwysig yma i Hansh.
Trwy’r cynllun ‘Dan Sylw’ rhoddir cyfle, am y tro cyntaf erioed, i newyddiadurwyr ifanc dderbyn hyfforddiant-mewn-swydd a magu’r sgiliau i gynhyrchu cynnwys materion cyfoes ffurf fer yn y Gymraeg.
Mae HANSH yn targedu'r grŵp oed 16-34 gyda fideos hynod ddychmygus, sydd yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu dilyniant ar-lein sylweddol ers iddo gael ei lansio'r llynedd, gydag S4C yn cofnodi 4.9 miliwn o sesiynau gwylio yn ystod y flwyddyn sy'n rhedeg o Fehefin 2017- Mawrth 2018.
Un o’r newyddiadurwyr ifanc yn nhîm materion cyfoes HANSH yw Liam Ketcher, 22 o Faesteg.
Dywedodd Liam, a ymunodd â thîm materion cyfoes ITV Cymru Wales ym mis Gorffennaf, "Dwi’n hynod o falch ac yn gyffrous iawn am y cyfle i weithio ar gynnwys newydd ar gyfer Hansh. Pwrpas ‘Dan Sylw’ yw ysgogi trafodaeth am y pynciau sydd yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru. Ein gobaith yw ymdrin â'r straeon mewn ffordd ddifyr, hygyrch ac apelgar i gynulleidfa HANSH. Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr iawn at ddysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer y swydd hon ac i weithio gyda thîm profiadol ITV Cymru.”
Mae Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees yn credu y bydd y gwasanaeth yn ychwanegiad gwerthfawr at HANSH, sydd hefyd ar gael wedi eu pecynnu mewn rhaglenni yn y slot ar ôl 10 y nos ar wasanaeth teledu S4C.
Ychwanegodd Amanda Rees, "Mae S4C am ddatblygu’r gwasanaethau digidol yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'r datblygiad hwn yn HANSH yn dangos ein bod ni o ddifri’. Rydym bellach yn darparu newyddiaduraeth sy'n cael ei hymchwilio'n drylwyr i drin a thrafod profiadau a phynciau sy'n berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru trwy ffilmiau ffurf fer y maen nhw’n fwy tebygol o edrych arnyn nhw. Bydd yn helpu wrth inni ddatblygu’n gwasanaethau ar gyfer y genhedlaeth iau."
Friday, 15 June 2018
4.7 Awr y Dydd
Dyma glip o raglen Siân Cothi. Yn anffodus, does dim sôn am bwy yw'r awdur ar wefan Radio Cymru.
https://www.bbc.co.uk/programmes/p0657k2gGallwn fod w
Gallwn
fod wedi dysgu iaith.
Llythyru
â ffrind newydd a fyddai’n ehangu fy ngorwelion.
Bonjour Marie-Isabelle, comment
allez-vous?
Mynd ar fy ngwyliau i bentref
gwledig.
Archebu baguette o’r boulangerie heb
ymgynghori â llyfr.
Chwerthin gyda’r brodorion
a chanmol eu cŵn â hyder yn eu
hiaith.
Ond yn lle hynny derbyniais
geisiadau ffrind
gan bobl y gwyddwn na fyddwn yn eu
cydnabod yn y stryd
a
dilyn ambell gynnen gyhoeddus, gryptig
I
really wish people would just say things to my face
a
Some people really need to grow up.
Gallwn
fod wedi tynnu’r beic o’r sied.
Dilyn
fy nhrwyn a theimlo’r gwynt yn fy ngwallt.
Arogli’r
tymhorau.
Colli
sawl stôn.
Magu
cyhyrau
a
buddsoddi mewn leicra.
Ond
yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd
diddorol
a
smwddis hunangyfiawn.
O ie,
ac edrych ar fapiau Strava
pobl
sydd wedi beicio neu redeg
yn
bellach na cherdda i fyth.
Gallwn
fod wedi darllen nofelau
Petrograd,
Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno
â chlwb llyfrau,
cadw
nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb
yn wyneb.
Amsugno’r
ymateb
a
darllen y llyfrau eto.
Pam
lai!
Ond
yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais
sylwadau diddychymyg
a
rhannais farn rhywun arall.
Hyn i
gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Gallwn
fod wedi dysgu i chwarae offeryn.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y
delyn deires.
Ymarfer
nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond
yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath
yn gwisgo sbectol haul
a
gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Gallwn
fod wedi trawsnewid y tŷ cyfan.
Paentio’r
waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie
Sloan-io hen ddodrefn
a
chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o
leia hongian y llun
a ges
yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond
yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i
lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A
chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn
cael ei haddurno fel cactws.
Ond y
broblem yw
gwn
fel ffaith
pe
bawn yn dod
yn
ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y
byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a
byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros
Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.
M.
Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
Gallwn fod wedi darllen nofelau
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno â chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno’r ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno â chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno’r ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Gallwn fod wedi dysgu i chwarae offeryn.
Gallwn fod wedi dysgu iaith.
Llythyru â ffrind newydd a fyddai’n ehangu fy ngorwelion.
Bonjour Marie-Isabelle, comment allez-vous?
Mynd ar fy ngwyliau i bentref gwledig.
Archebu baguette o’r boulangerie heb ymgynghori â llyfr.
Chwerthin gyda’r brodorion
a chanmol eu cŵn â hyder yn eu hiaith.
Ond yn lle hynny derbyniais geisiadau ffrind
gan bobl y gwyddwn na fyddwn yn eu cydnabod yn y stryd
a dilyn ambell gynnen gyhoeddus, gryptig
I really wish people would just say things to my face
a Some people really need to grow up.
Llythyru â ffrind newydd a fyddai’n ehangu fy ngorwelion.
Bonjour Marie-Isabelle, comment allez-vous?
Mynd ar fy ngwyliau i bentref gwledig.
Archebu baguette o’r boulangerie heb ymgynghori â llyfr.
Chwerthin gyda’r brodorion
a chanmol eu cŵn â hyder yn eu hiaith.
Ond yn lle hynny derbyniais geisiadau ffrind
gan bobl y gwyddwn na fyddwn yn eu cydnabod yn y stryd
a dilyn ambell gynnen gyhoeddus, gryptig
I really wish people would just say things to my face
a Some people really need to grow up.
Gallwn fod wedi tynnu’r beic o’r sied.
Dilyn fy nhrwyn a theimlo’r gwynt yn fy ngwallt.
Arogli’r tymhorau.
Colli sawl stôn.
Magu cyhyrau
a buddsoddi mewn leicra.
Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
Dilyn fy nhrwyn a theimlo’r gwynt yn fy ngwallt.
Arogli’r tymhorau.
Colli sawl stôn.
Magu cyhyrau
a buddsoddi mewn leicra.
Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
Gallwn fod wedi darllen nofelau
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno â chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno’r ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno â chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno’r ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Gallwn fod wedi dysgu i chwarae offeryn.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Gallwn fod wedi trawsnewid y tŷ cyfan.
Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Ond y broblem yw
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Gallwn fod wedi trawsnewid y tŷ cyfan.
Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Ond y broblem yw
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.
Subscribe to:
Posts (Atom)