Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label iechyd meddwl. Show all posts
Showing posts with label iechyd meddwl. Show all posts

Wednesday, 26 February 2020

Tu ôl i'r Wên

Yn y rhaglen mae'r cyflwynydd Siôn Jenkins o Landysilio yn trafod ei broblemau iechyd meddwl, yn enwedig gorbryder (hyper-anxiety), a phroblemau iechyd meddwl dynion yn gyffredinol

Mae'r rhaglen yn codi nifer o gwestiynau pwysig, er enghraifft pam mae cymaint o bobl ifainc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, y defnydd o CBT (cognitive behaviour therapy) a gallu emosiynol (emotional intelligence).
 

Wednesday, 31 October 2018

Barddoniaeth a dementia

Mae'r darlunydd Patrick Jones, rhywun sy'n dysgu Cymraeg, yn ysgrifennu llyfr am ddefnyddio barddoniaeth gyda chleifion sy'n dioddef o dementia. Gofynnodd e ar Twitter am enghreifftiau o gerddi, emynau a chaneuon Cymraeg allai sbarduno atgofion a geiriau gan bobl sy'n dioddef o'r cyflwr.

Dyma rai o'r awgrymiadau:

Y Llwynog gan R Williams Parry
Calon lân
Melin Trefin (William Williams Crwys)
Aberpennant 
Eifionydd (R Williams Parry)
Rhyfel (Hedd Wyn)
Y Border Bach (William Williams Crwys)
Dyma gariad fel y moroedd
Dwy law yn erfyn
Ar hyd y nos
Aberdaron (Albert Cynan Evans Jones)

Mi gerddaf gyda thi by Dic Jones: "Mi gerddaf gyda thi dros lwybrau maith, a blodau cân a breuddwyd ar ein taith. I’th lygaid syllaf i a dal dy law, mi gerddaf gyda thi beth bynnag ddaw." Hwiangerddi a chaneuon poblogaidd: Suo Gân; Ar lan y môr; Oes gafr eto?; Gee Ceffyl Bach; Dacw Man yn dŵad; Heno, heno, heno hen blant bach;Ryan a Ronnie yn canu Blodwen a Meri; Yma o Hyd (Dafydd Iwan). Gallai'r rhestr fod yn un hir iawn. Beth fyddech chi'n ei gynnig?

Sunday, 6 May 2018

Ap Cwtsh - ap myfyrio newydd

Wedi llwyddiant apiau lleddfu straen megis Headspace a Calm, lansiodd Menter Iaith Abertawe ap lles cwbl Gymraeg newydd ar Ebrill 27, 2018.

Wrth i gymdeithas roi mwy a mwy o sylw i ymwybyddiaeth o les ac iechyd meddwl, mae apiau sy’n cynnig technegau a negeseuon i leddfu’r straen wedi dod yn gynyddol boblogaidd.

Wedi’i gyllido gan Grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, mae’r ap o’r enw ‘Cwtsh’ yn arwain defnyddwyr drwy dair sesiwn myfyrio (bore, yn ystod y dydd a chyda’r hwyr) yn Gymraeg.

Bydd Cwtsh hefyd yn cynnwys cyfeiriadur cenedlaethol ar gyfer sesiynau myfyrdod a dosbarthiadau ioga yn yr iaith Gymraeg o’r enw’r Llyfr Lles.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan. Cewch chi lawrlwytho'r ap yn rhad ac am ddim.
Dyma adolygiad Simon Chandler: 
Mae yn gampwaith. Fe yw fy hoff ap myfyrio erioed mewn unrhyw iaith er gwaethaf y ffaith taw Saesneg yw fy mamiaith. Mae popeth o’r ansawdd uchaf: lleisiau cysurus, testunau clyfar ac effeithiol dros ben a graffeg ragorol. Yn syml, ni ellid ei wella. Llongyfarchiadau!!!



Sunday, 18 May 2014

Iselder - Malan Wilkinson yn rhannu ei phrofiad…

(Erthygl wreiddiol ar safle Golwg360)


Dydd Iau, i gyd-fynd ag wythnos Iechyd Meddwl S4C fe fydda i’n cyfrannu at raglen Iselder: Un Cam ar y Tro.

Roedd siarad ar y rhaglen yn gyfle i mi geisio chwalu stigma a rhannu fy mhrofiad. Bwgan hyll yw iselder. Mae’n effeithio un ym mhob pedwar o’r boblogaeth. Ac eto, mae yna ddirgelwch mawr amdano a’i effeithiau ar fywydau unigolion. Mae’r tawelwch sy’n amgylchynu [surround] iechyd meddwl yn dawelwch byddarol [deafening].

Fis Medi diwethaf, fe wnes i ddioddef episod dwys o iselder. Fe wyddwn i wrth fynd i’r gwaith un bore ddechrau Hydref bod rhaid i mi weld meddyg y diwrnod hwnnw neu golli’r frwydr i oroesi fyddwn i.

Y diwrnod hwnnw, yn dilyn sgwrs gyda fy therapydd gwybyddol [cognitive] yn y feddygfa leol, fe ges i’r gwely olaf yn uned iechyd meddwl Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor. Roeddwn i yno yn derbyn gofal dwys am dri mis gan staff oedd yn ceisio f’atal rhag terfynu fy mywyd fy hun. Peth erchyll yw iselder pan fo’i grafangau yn gafael.

Deimlais i erioed ofn fel teimlais i’r noson gyntaf honno yn Hergest pan oeddwn i’n eistedd ar wely fy ystafell sengl. Roedd gen i lwyth o gwestiynau a dim atebion. Be’ oeddwn i’n dda yno? [=why was I there?]  Pwy oedd fy nghyd-gleifion? Pa mor hir fyddwn i yno? Oedd y bennod hon yn nodi dechrau’r diwedd i mi ynteu ddechrau’r broses wella?

‘Brwydr’

Roedd fy nghyfnod i yn Hergest yn gyfnod tu hwnt o anodd. Roedd yr awydd dwys oedd gen i derfynu fy mywyd fy hun yn gwneud pob diwrnod yn frwydr heb ei hail. Roeddwn i hefyd yn wynebu heriau ar ôl torri lawr yn emosiynol a seicolegol. Roeddwn i wedi dod i gredu pethau ddigon rhyfedd, fel bod sebon yr uned yn adweithio [react] gyda meddyginiaethau gwahanol gleifion i gadw rhai yn gaeth i’r uned am gyfnodau hirach. Roedd meddyliau cyffredin wedi colli eu siâp a’r cyfan yn fy ngorfodi i gwffio [cwffio - gair y gogledd = ymladd] brwydrau dyddiol dwys.

Fe dreuliais i dri mis gyda chleifion oedd yn dioddef pob math o anhwylderau meddyliol fel anhwylder meddwl y ddau begwn [bipolar], iselder a Schizophrenia. Roeddwn i’n gweld yr unig seicolegydd Cymraeg i oedolion yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio gyda seiciatrydd hefyd.

Chwalu’r stigma 

Un o’r sialensiau mwyaf am anhwylderau [disorders] meddyliol yw eu bod yn gallu effeithio ar fywydau cleifion am gyfnodau eithaf hir. Gall effeithio ar allu person i fyw bywyd cyffredin a gweithio. Roedd ambell glaf yn gleifion tymhorol oedd yn derbyn gofal am episodau o anhwylderau oedd yn eu heffeithio yn eithaf cyson. Roedd cleifion eraill, fel fi, yn newydd i’r system a heb brofiad blaenorol o iselder. Ond, sut oedd mynd ati i geisio dechrau chwalu’r stigma ynghylch iechyd meddwl?

Fe ddechreuais i geisio chwalu’r tawelwch drwy drydar pytiau achlysurol am fy mhrofiad yn yr uned a’r hyn yr oeddwn i yn ei wneud yn ddyddiol. Roedd yr ymateb a’r gefnogaeth gan y cyhoedd yn anhygoel. Cefais lawer un yn gyrru negeseuon o gefnogaeth ataf ac yn son ei bod yn braf darllen yn agored am brofiadau iechyd meddwl. Cefais negeseuon gan unigolion oedd wedi dioddef eu hunain hefyd, ond oedd wedi methu siarad am y peth yn agored. Roedd derbyn y fath  ymateb ar gyfnod mor dywyll yn fy mywyd yn hynod galonnog.

Drwy gydol fy amser yn uned Hergest dysgais mor bwysig oedd siarad a rhannu straeon, nid yn unig drwy drydar – ond siarad gyda ffrindiau, teulu,  cyd-gleifion a staff hefyd. Mae gan bobl a’u geiriau allu arbennig, i godi pobl eraill pan fo’r tywyllwch mawr yn eu trechu [overpower]. Ond i hynny ddigwydd, mae’n rhaid i unigolion fod yn agored. Yn barod i siarad. Mae siarad yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl mewn ffordd sydd nid yn unig yn llesol i gymdeithas ond i fywydau unigolion.

Braf gweld S4C yr wythnos hon yn mynd ati i chwalu’r tawelwch byddarol hwnnw.

Bydd Iselder: Un Cam ar y Tro yn cael ei darlledu nos Iau am 9.30yh ar S4C.

Saturday, 10 May 2014

Wythnos Iechyd Meddwl ar S4C

Mae Amser i Newid Cymru ac S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth, fydd yn arwain at wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Mai 12 – 18. Pwrpas yr wythnos yw i annog pobl i siarad ynghylch iechyd meddwl, a chodi ymwybyddiaeth o’r salwch, pwnc sydd yn dal i fod yn dabŵ yng Nghymru.

 

Mi fydd S4C yn darlledu nifer o raglenni sy’n trafod iechyd meddwl dros yr wythnos, gan gynnwys rhaglen ddogfen Cysgod Rhyfel sy’n sôn am brofiadau cyn-filwyr sydd wedi dioddef o straen yn dilyn eu profiadau mewn rhyfeloedd (PTSD). Darlledir rhaglen hefyd sy’n olrhain stori Owain Gwynedd, sy’n adnabyddus fel un o gyflwynwyr Stwnsh a chyflwynydd chwaraeon yn Iselder: Un Cam ar y Tro, wrth iddo drafod iselder ac hunan-laddiad ei dad yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:

“Mae’r bartneriaeth yma gyda S4C yn gyfle cyffrous i herio’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl. Maen gyfle i ni ddangos i bobl Cymru fod gwneud pethau bach fel mynd am baned neu ofyn ‘sut wyt ti’n teimlo?’ yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n delio â phroblem iechyd meddwl - does dim rhaid bod yn arbenigwr i fod yn ffrind. “

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C

“Dyma gyfres o raglenni sy'n galluogi’r gynulleidfa i rannu profiadau nifer o bobl sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl, ac i wybod am yr effeithiau ar eu teuluoedd hefyd. Yn aml mae hyn yn digwydd tu nôl i ddrysau, ac mae rhannu profiadau yn gymorth i rai sy’n dioddef ac yn fodd i ni’r gynulleidfa i ddysgu a gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei wynebu hefyd. Fel darlledwr rydym yn falch fod y rhaglenni hyn yn medru cyfrannu tuag at weithgareddau wythnos iechyd meddwl.”

Gall pawb wneud rhywbeth i fod yn rhan o’r wythnos drwy ddechrau siarad am iechyd meddwl o fewn eu teuluoedd neu yn y gweithle. Mae yna awgrymiadau defnyddiol ar wefan Amser i Newid Cymru i’ch helpu i ddechrau sgwrs. Mi allwch hefyd ddangos eich cefnogaeth drwy chwilio am Amser i Newid Cymru ar y we ac ar Facebook a Twitter i ymuno â’r sgwrs ar-lein.”

Bydd Amser i Newid Cymru yn gweithio gyda S4C i hyrwyddo’r wythnos ac yn hysbysebu ar y sianel, yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth, rhannu straeon pobl sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl ac i ddechrau sgwrs.

1 o bob 4
Nos Fercher 14 Mai 9.30, S4C

Iselder : Un Cam ar y Tro
Nos Iau 15 Mai 9.30, S4C

Cysgod Rhyfel
Nos Sul 18 Mai 9:00, S4C

Newyddion 9
Nos Lun i Nos Wener 12-16 Mai, S4C
Lois
Nos Sul, 18 Mai 10:00, S4C