Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Showing posts with label cerys matthews. Show all posts
Showing posts with label cerys matthews. Show all posts

Sunday, 13 April 2014

Wythnos Werin S4C

Mae S4C am ddathlu’r adfywiad cyffrous yn y byd gwerin Cymraeg trwy gynnal Wythnos Werin rhwng dydd Llun, 14 Ebrill a dydd Sul, 20 Ebrill.

Fe fydd yr wythnos o raglenni yn rhoi llwyfan i lond gwlad o berfformwyr cyfoes sy’n tynnu sylw rhyngwladol at gyfoeth cerddorol Cymru.

Bydd Wythnos Werin S4C yn cynnwys y rhaglen gyntaf mewn cyfres bwysig newydd Y Goeden Faled [baled - ballad] sy’n dechrau nos Fawrth, 15 Ebrill pan fydd y gantores Cerys Matthews yn mynd â’r gwylwyr ar daith wrth iddi hel achau [trace the ancestry] rhai o ganeuon gwerin hynaf Cymru. 

Bydd geiriau ac alawon y caneuon yn agor y drws ar hanes a straeon di-ri, ac yn mynd â’r gwylwyr y tu hwnt i ffiniau Cymru a hynny i lefydd tra annisgwyl. 

Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Noson yng Nghwmni Al Lewis nos Sadwrn, 19 Ebrill lle mae’r cyfansoddwr o Bwllheli, aeth ar daith gyda Jools Holland y llynedd yn perfformio rhai o’i hoff ganeuon.

Ac fe fydd cyngerdd acwstig go arbennig nos Iau, 17 Ebrill pan fydd yr athrylith gerddorol Meic Stevens yn perfformio rhai o’i ganeuon gorau.



Gallwn hefyd fwynhau taith gerddorol a gweledol yn edrych ar y cyfoeth o gerddoriaeth a cherddorion traddodiadol yng Nghymru yn y gyfres ddwy ran newydd Y Ffwrnes Gerdd nos Wener a nos Sadwrn, 18 a 19 Ebrill.

Bydd yr wythnos yn dechrau nos Lun, 14 Ebrill gyda rhaglen o’r 1980au yn dilyn y band gwerin Ar Log ar eu taith o gwmpas America. Nos Fawrth, 15 Ebrill mewn rhaglen o 1986, cawn fwynhau perfformiad o’r Majestic, Caernarfon gan y band Runrig o’r Alban sydd eleni yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed.

Bydd cyfle arall i ddilyn yr artist eiconig Catrin Finch, wrth iddi olrhain hanes ein hofferyn cenedlaethol, y delyn nos Fercher, 16 Ebrill. Yr un noson, bydd cyfle arall i weld rhaglen deyrnged i’r diweddar Elfed Lewys, y pregethwr, canwr a’r cyfansoddwr a oedd yn un o sefydlwyr Gŵyl Werin y Cnapan.

Yn y rhaglen Gwerin o’r Stiwdio Gefn nos Sul, 20 Ebrill, cawn uchafbwyntiau rhai o berfformiadau gwerin y gyfres Y Stiwdio Gefn.

Sunday, 12 May 2013

Cân yr Wythnos: Migldi Magldi


Canu Penillion

Dyma enghraifft o ganu penillion dull y De. Byddai'r cantorion yn cystadlu pennill fesul penill trwy ganu pennill newydd fel "ateb" i'r pennill blaenorol. Ceir esboniad diddorol ar Wikipedia mewn erthygl am enghraifft anabyddus arall, sef "Deck the Halls".

Migldi, magldi yw swn morthwyl y gof ar yr einion.




Ffeind a difyr ydyw gweled,
Migldi magldi, hei, now, now.
Drws yr efail yn agored,
Migldi magldi, hei, now, now.
Ar go' bach a'i wyneb purddu,
Migldi magldi, hei, now, now.
Yn yr efail yn prysur chwythu,
Migldi magldi, hei, now, now.

Ffeind a difyr hirnos gaea'
Migldi magldi, hei, now, now.
Mynd i'r efail am y cynta';
Migldi magldi, hei, now, now.
Pan fo rhew ac eira allan
Migldi magldi, hei, now, now.
Gorau pwynt fydd wrth y pentan,
Migldi magldi, hei, now, now.

[Ffeind a braf yw sŵn y fegin,
Migldi magldi, hei, now, now.
Gwrando chwedl, cân ac englyn,
Migldi magldi, hei, now, now.
Pan fo'r cwmni yn ei afiaith,
Migldi magldi, hei, now, now.
Ceir hanesion llawer noswaith,
Migldi magldi, hei, now, now.]

Pan ddaw'r môr i ben y mynydd,
Migldi magldi, hei, now, now.
A'i ddwy ymyl at ei gilydd,
Migldi magldi, hei, now, now.
A'r coed rhosys yn dwyn 'fala,
Migldi magldi, hei, now, now.
Dyna'r pryd y cei di finna',
Migldi magldi, hei, now, now.